Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

Amdanon Ni


Newidiadau Pwysig i Wasanaethau Ar-lein Tŷ’r Cwmnïau

Yn sgil gweithredu Deddf Cwmnïau 2006 yn derfynol ar 1 Hydref 2009, bydd rhai newidiadau i sgriniau a dull gweithio’n gwasanaethau ar-lein.  I’ch helpu i ddeall beth sydd wedi newid, rhoir disgrifiadau cryno isod. Cliciwch ar y pennawd perthnasol ar gyfer y gwasanaeth sydd angen:

WebFiling
WebCHeck
Companies House Direct

WebFiling – Newidiadau i sgriniau a’r dull gweithio

Mae rhifau’r ffurflenni wedi newid o dan Ddeddf Cwmnïau 2006

Ffurflenni Deddf Cwmnïau 2006 yw’r ffurflenni diofyn fydd ar gael drwy brif ddewislen gwasanaeth WebFiling. Bydd ‘hen’ ffurflenni Deddf Cwmnïau 1985 ar gael o dan y tab ’Hen ffurflenni’ o fewn y brif ddewislen.

Webfiling Menu

Bydd trafodion ‘dyddiad y digwyddiad’ (e.e. dyddiad penodi) ar gael yn ffurflenni rhagnodedig newydd Deddf Cwmnïau 2006 (e.e. AP01) a ‘hen’ ffurflenni Deddf Cwmnïau 1985 (e.e. 288a).
Dyddiad y digwyddiad fydd yn penderfynu pa ffurflen sydd i’w chyflwyno.

  • Dyddiad digwyddiad ar neu wedi 01/10/09 = ffurflen newydd
  • Dyddiad digwyddiad cyn 01/10/09 = hen ffurflen

DIM OND yn ffurflenni newydd rhagnodedig Deddf Cwmnïau 2006 (e.e. AD01) y bydd trafodion sydd HEB ddyddiad digwyddiad (e.e. newid y swyddfa gofrestredig) ar gael; bydd ‘hen’ ffurflenni Deddf Cwmnïau 1985 ar gyfer y trafodion hyn (e.e. 287) yn dod i ddiwedd eu hoes ar 01/10/09.

Gweld manylion llawn y trefniadau trosiannol ar gyfer y ffurflenni a gaiff eu ffeilio fynychaf.

SYLWER:
Bydd pob ffurflen o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a gaiff ei ffeilio ar neu wedi 01/10/09 yn cael ei chofrestru ar y cofnod cyhoeddus fel y rhif-adnabod-ffurflen cyfatebol o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. Bydd delwedd ddogfen y ffurflenni hyn yn aros heb ei heffeithio.

Yn wyneb y newidiadau yn sgil gweithredu Deddf Cwmnïau 2006, mae’n bwysig nodi bod rhaid i Ffurflenni Blynyddol sydd ‘Ar y Gweill’ gael eu cyflwyno erbyn canol nos ar 30 Medi 2009 – fel arall, ni chaiff yr wybodaerh hon mo’i chadw.

Y manylion newydd sydd angen ar gyfer:

Swyddogion cwmni

Gwlad/Gwladwriaeth Breswyl – rhaid darparu hyn ar gyfer pob cyfarwyddwyr sy’n berson

Webfiling screen 2

Manylion cofrestru o fewn yr AEE (yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) neu’r tu allan i’r AEE – rhaid darparu hyn ar gyfer pob cyfarwyddwr ac ysgrifennydd corfforaethol yn unol â’i statws o fewn neu y tu allan i’r AEE.

Webfiling screen 3

Cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau

O 1 Hydref 2009 ymlaen, rhaid i bob cyfarwyddwr roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am ei gyfeiriad preswyl arferol a hefyd, ar gyfer pob safle fel cyfarwyddwr a ddeil, cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau.

Cyfalaf
Wrth gyflwyno Clustnodiad Cyfrannau neu Ffurflen Flynyddol, rhaid ichi roi gwybod am y canlynol yng nghyswllt pob dosbarth o gyfrannau:

  • y Swm sydd wedi’i dalu ar bob cyfran
  • y Swm sydd heb ei dalu ar bob cyfran
  • manylion rhagnodedig yr hawliau sydd ynghlwm wrth y cyfrannau (e.e. hawliau pleidleisio cysylltiedig)

SAIL (Lleoliad Archwilio Amgen Unigol)

Rhaid roi gwybod am y SAIL pan NAD yw’r gofrestr aelodau neu’r gofrestr ddyledebwyr wedi’i chadw yng nghyfeiriad y swyddfa gofrestredig.

I roi gwybod am y cyfeiriad amgen, defnyddiwch y ffurflenni canlynol:

  • AD02 Rhoi gwybod am leoliad archwilio amgen unigol (SAIL) – i’w defnyddio i gofrestru’r cyfeiriad
  • AD03 Newid sefyllfa cofnodion y cwmni i’r lleoliad archwilio amgen unigol (SAIL) – i’w defnyddio i gyfleu pa gofrestri sydd wedi’u cadw yn y SAIL

Sgrin fewnlofnodi

Wrth fewnlofnodi, rhaid ichi ddethol y ‘Math o Gwmni’ o’r ddewislen sy’n llifo i lawr. Rhaid i hyn gyfateb i leoliad cofrestru’r cwmni yr ydych yn ffeilio ar ei gyfer.

  • Cymru/Lloegr
  • Yr Alban
  • Gogledd Iwerddon – NI
  • Gogledd Iwerddon - RO
Webfiling screen 4 brig

WebCHeck – Newidiadau i sgriniau a’r dull gweithio

Chwilio Cyfarwyddwyr wedi’u Gwahardd

Gellir cyrchu’r Gofrestr Cyfarwyddwyr Gwaharddedig bellach o dudalen hafan WebCHeck (Dethol a Chyrchu Gwybodaeth Gwmni).

Y diwyg newydd ar gyfer Hanes Ffeilio

Webfiling screen 5

New Document IconEicon dogfen newydd heb fod ar gael.  Nid yw dogfennau sy’n dangos yr eicon hwn ar gael i’w harchebu nes dileu’r aroleuo coch.

New Folder IconEicon plygell newydd: mae yna drafodion yng nghyswllt y brif ddogfen na ellir mo’u harchebu’n annibynnol.  E.e. bydd penderfyniad neu ffurflen flynyddol a gaiff ei ffeilio ac sy’n cynnwys nifer o ddiwygiadau yn dangos y symbol dogfen wedi’i gilosod fel trafodyn ar wahân, ond dim ond un blwch ticio fydd i’w weld at ddibenion archebu’r ddogfen.

Aroleuo’r Datganiad Cyfalaf Diweddaraf

Green Notebook IconMae eicon y llyfr nodiadau gwyrdd yn aroleuo’r ddogfen sy’n cynnwys y datganiad cyfalaf diweddaraf.

Erthyglau Enghreifftiol

  Webfiling screen 6

Information IconBydd yr eicon gwybodaeth ‘i’ i’w weld lle cafodd erthyglau enghreifftiol eu mabwysiadu o dan Ddeddf 2006, naill ai yn eu cyfanrwydd neu gyda darpariaethau wedi’u diwygio. Gellir cyrchu erthyglau enghreifftol o wefan Tŷ’r Cwmnïau drwy glicio’r disgrifiad o erthyglau neu’r eicon gwybodaeth gwyrdd.

Anodiadau

Lle cafodd dogfen ei marcio neu ei ‘Hanodi’ yn ffurfiol (i dynnu sylw at fannau lle mae angen eglurhad neu lle cafodd y ddogfen ei dileu neu ei disodli), bydd dalen ‘anodi’ i’w gweld wedi’i chilosod o dan eicon plygell gan ei bod yn gysylltiedig â delwedd y brif ddogfen, ond ni ellir mo’i harchebu’n annibynnol.

NODYN: Lle mae’r anodiad yn dweud ‘Dogfen wedi’i Dileu’, ni fydd y ddogfen honno ar gael i’w harchebu mwyach.

Anghysondeb

Webfiling screen 7

Lle mae ‘Anghysondeb Penodiadau’, e.e. ffeilio bod tymor penodiad swyddog yn dod i ben pan nad oes gan Dŷ’r Cwmnïau gofnod o benodiad y swyddog hwnnw, bydd y neges ganlynol yn ymddangos ar y sgriniau ‘Rydych chi wedi Dethol Manylion Cwmni’ a ‘Penodiadau Cwmni’:

Anghysondeb: nid yw’r rhestr benodiadau sydd gan Dŷ’r Cwmnïau yn cytuno â ffeiliadau’r cwmni.

Cynnwys manylion cwmnïau Gogledd Iwerddon (o 5 Hydref ymlaen)

Mae gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau bellach ar gael ar gyfer holl gwmnïau Gogledd Iwerddon, ac eithrio’r rhai sydd â’r blaenddodiaid canlynol:

NP Cwmni Diwydiannol/Darbodus neu Undeb Credyd yng Ngogledd Iwerddon
NV – ICVC (Cwmni Buddsoddi â Chyfalaf Amrywiadwy) yng Ngogledd Iwerddon
NR – Cwmnïau Siarter Frenhinol yng Ngogledd Iwerddon

Argaeledd Delweddau:

  • Cyfrifon a Ffurflenni Blynyddol ar gael o 2000 ymlaen
  • Pob Dogfen o Chwefror 2004 ymlaen

Dim ond o fis Hydref 2009 ymlaen y bydd Manylion Ansolfedd ar gael.

Ailenwi categorïau Monitor

Ledled gwasanaeth Monitor mae’r categorïau dogfennau wedi cael eu hailenwi fel a ganlyn:

  • ‘287’  wedi’i hailenwi Newid y Swyddfa Gofrestredig
  • ‘288’ wedi’i hailenwi Penodiadau.

Fel rhifau ffurflen newydd y dangosir ffurflenni a gaiff eu ffeilio ar ôl 1 Hydref.

Enghreifftiau

Dogfen Hen ID ID Newydd
Penodi Cyfarwyddwr 288a AP01
Newid Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg 225 AA01
Ffurflen Flynyddol 363 AR01
Newid Cyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig 287 AD01
brig

Companies House Direct – Newidiadau i sgriniau a’r dull gweithio

Y diwyg newydd ar gyfer Hanes Ffeilio

Webfiling screen 8

New Document IconCaiff yr eicon Dogfen Newydd Heb Fod Ar Gael ei ddangos am y rhesymau canlynol:

  • Dogfennau wedi’u ffeilio’n ddiweddar Ni fydd y rhain ar gael i’w harchebu nes dileu’r aroleuad disgrifio coch a bod eicon y ddogfen i’w weld.
  • Gall dogfennau hŷn sy’n dangos y symbol hwn a blwch dethol gael eu harchebu i’w trosglwyddo drwy lawrlwytho, drwy’r post neu dros beiriant ffacs, ond bydd rhywfaint o oedi cyn gwneud gan fod eisiau sganio. 
  • Ni fydd dogfennau hŷn sy’n dangos y symbol hwn ond heb flwch dethol ar gael i’w harchebu o dan y gwasanaeth hwn. 

New Folder IconEicon plygell newydd: mae yna drafodion yng nghyswllt y brif ddogfen na ellir mo’u harchebu’n annibynnol.  E.e. bydd penderfyniad neu ffurflen flynyddol a gaiff ei ffeilio ac sy’n cynnwys nifer o ddiwygiadau yn dangos y symbol dogfen wedi’i gilosod fel trafodyn ar wahân, ond dim ond un blwch ticio fydd i’w weld at ddibenion archebu’r ddogfen.

Aroleuo’r Datganiad Cyfalaf Diweddaraf.

Green Notebook IconMae eicon y llyfr nodiadau gwyrdd yn aroleuo’r ddogfen sy’n cynnwys y datganiad cyfalaf diweddaraf.

Erthyglau Enghreifftiol

Webfiling screen 9

Information IconBydd yr eicon gwybodaeth ‘i’ i’w weld lle cafodd erthyglau enghreifftiol eu mabwysiadu o dan Ddeddf 2006, naill ai yn eu cyfanrwydd neu gyda darpariaethau wedi’u diwygio. Gellir cyrchu erthyglau enghreifftol o wefan Tŷ’r Cwmnïau drwy glicio’r disgrifiad o erthyglau neu’r eicon gwybodaeth gwyrdd.

Anodiadau

Lle cafodd dogfen ei marcio neu ei ‘Hanodi’ yn ffurfiol (i dynnu sylw at fannau lle mae angen eglurhad neu lle cafodd y ddogfen ei dileu neu ei disodli),  bydd dalen ‘anodi’ i’w gweld wedi’i chilosod o dan eicon plygell gan ei bod yn gysylltiedig â delwedd y brif ddogfen, ond ni ellir mo’i harchebu’n annibynnol.

NODYN: Lle mae’r anodiad yn dweud ‘Dogfen wedi’i Dileu’, ni fydd y ddogfen honno ar gael i’w harchebu mwyach.

Anghysondeb

Webfiling screen 10

Lle mae ‘Anghysondeb Penodiadau’, e.e. ffeilio bod tymor penodiad swyddog yn dod i ben pan nad oes gan Dŷ’r Cwmnïau gofnod o benodiad y swyddog hwnnw, bydd y neges ganlynol yn ymddangos ar y sgriniau ‘Rydych chi wedi Dethol Manylion Cwmni’ a ‘Penodiadau Cwmni’:

Anghysondeb: nid yw’r rhestr benodiadau sydd gan Dŷ’r Cwmnïau yn cytuno â ffeiliadau’r cwmni.

Pecyn dogfennau newydd

Pecyn Cyfansoddiad

Pris: £4 Delwedd, £20 Post (yn gyson â phecynnau dogfennau presennol)

  • Y Dystysgrif Gorffori ddiweddaraf
  • Y ddogfen sy’n cynnwys y Datganiad Cyfalaf diweddaraf
  • Yr Erthyglau neu’r Memorandwm ac Erthyglau diweddaraf
  • Penderfyniadau o fathau penodedig wedi’u ffeilio ers yr Erthyglau neu’r Memorandwm ac Erthyglau diweddaraf

Cynnwys manylion cwmnïau Gogledd Iwerddon (o 5 Hydref ymlaen)

Mae gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau bellach ar gael ar gyfer holl gwmnïau Gogledd Iwerddon, ac eithrio’r rhai sydd â’r blaenddodiaid canlynol:

NP – Cwmni Diwydiannol/Darbodus neu Undeb Credyd yng Ngogledd Iwerddon
NV – ICVC (Cwmni Buddsoddi â Chyfalaf Amrywiadwy) yng Ngogledd Iwerddon
NR – Cwmnïau Siarter Frenhinol yng Ngogledd Iwerddon

Argaeledd Delweddau:

  • Cyfrifon a Ffurflenni Blynyddol ar gael o 2000 ymlaen
  • Pob Dogfen o Chwefror 2004 ymlaen
  • Dogfennau nad ydynt eisoes yn ein cronfa ddata ar gael i’w harchebu o 1998 ymlaen

Dim ond ar gyfer cwmnïau yng Ngogledd Iwerddon a gafodd eu corffori ers 1 Hydref 2009 y mae pecynnau cyfansoddiad newydd ar gael.

Dim ond o fis Hydref 2009 ymlaen y bydd Manylion Ansolfedd ar gael.

Yr wybodaeth newydd am swyddogion a gaiff ei dangos lle bo’n gymwys

  1. Dangosir y cyfeiriad cyflwyno-hysbysiadau diweddaraf (a, lle cawsant eu cipio, allbynnir y manylion Dan Ofal a’r Blwch Post)
  2. Dangosir y Wlad/Wladwriaeth Breswyl lle cafodd ei chipio – dyma’r unig elfen o gyfeiriad preswyl arferol y cyfarwyddwr a gaiff ei datgelu’n gyhoeddus
  3. O 1 Hydref ymlaen, dim ond lle ceir data annigonol i uno’r penodiadau dan sylw â chofnodion swyddog presennol y mae eisiau i benodiadau ysgrifenyddion newydd ddangos cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. O ganlyniad, caiff cofnod ysgrifennydd unigryw ei greu.

NODYN: gellir pennu’r rhain drwy’r allbwn ‘YSG’ yn y golofn ‘Math o Benodiad’ ar y sgrin Canlyniadau Chwiliad Swyddog.

Ailenwi categorïau Monitor

Ledled gwasanaeth Monitor mae’r categorïau dogfennau wedi cael eu hailenwi fel a ganlyn:

  • ‘287’ wedi’i hailenwi Newid y Swyddfa Gofrestredig
  • ‘288’ wedi’i hailenwi Penodiadau.

Fel rhifau ffurflen newydd y dangosir ffurflenni a gaiff eu ffeilio ar ôl 1 Hydref.

Enghreifftiau

Dogfen Hen ID ID Newydd
Penodi Cyfarwyddwr 288a AP01
Newid Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg 225 AA01
Ffurflen Flynyddol 363 AR01
Newid Cyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig 287 AD01
brig

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies