|
|
Ansolfedd – Dyfarniad y Llys ApêlDyfarniad y Llys Apêl parthed Globespan Airways Limited: Dogfennau a ffeiliwyd o dan Baragraff 83(4) Atodlen B1 o Ddeddf Ansolfedd 1986: Rydym wedi cyhoeddi hysbysiad o’r blaen am y dyfarniad a roddwyd gan yr Uchel Lys ynglŷn â’r mater hwn. Ar 24 Awst 2012, dyfarnodd y Llys Apêl (yn Saesneg) fod trosi o weinyddiad i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr yn dod i rym pan fo’r Cofrestrydd yn cofrestru’r Ffurflen 2.34B (Hysbysiad o symud o weinyddiad i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr) berthnasol, ac nid cyn hynny. Mae hyn yn golygu y bydd y dyddiad cofrestru a ddangosir ar gynhyrchion chwilio Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i fod y dyddiad y cofrestrwyd Ffurflen 2.34B mewn gwirionedd ac nid y dyddiad y daeth i law. Bydd yn dilyn mai’r dyddiad hwnnw a ddangosir hefyd ar gynhyrchion chwilio Tŷ’r Cwmnïau fel dyddiad dechrau’r datodiad. Ystyriodd y Llys Apêl hefyd beth fyddai’r sefyllfa, yn gyffredinol, i dymor gwasanaeth gweinyddwr a fyddai fel arall yn dod i ben ar ôl ffeilio’r Ffurflen 2.34B ond cyn i’r ffurflen gael ei chofrestru. Daliodd y Llys Apêl fod tymor gwasanaeth gweinyddwr yn cael ei ymestyn trwy ffeilio hysbysiad trosi, o’r dyddiad y byddai’r tymor gwasanaeth yn dod i ben fel arall trwy dreigl amser hyd gofrestru’r Ffurflen 2.34B. Mae hyn yn golygu y bydd dyddiad diwedd penodiad y gweinyddwr yn cael ei ddangos ar gynhyrchion chwilio Tŷ’r Cwmnïau fel dyddiad cofrestru’r Ffurflen 2.34B. Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn at: e-bost: ahowells@companieshouse.gov.uk |
||