Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Ansolfedd – Dyfarniad yn yr Uchel Lys

Dyfarniad yn yr Uchel Lys gan Mr Ustus Briggs ynghylch Globespan Airways Limited:
(John Bruce Cartwright ac Ian Oakley-Smith (y Datodwyr) v. y Cofrestrydd Cwmnïau)
[2012] EWHC 359 (Ch)

Dogfennau a ffeiliwyd o dan Baragraff 83(4) Atodlen B1 o Ddeddf Ansolfedd 1986:
Symud o weinyddiad i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr

Ym mis Chwefror 2012 traddodwyd dyfarniad yn yr achos uchod gan Mr Ustus Briggs, yr oedd rhan ohono’n ymwneud â’r ffordd y dehonglir paragraffau 83(4) ac 83(6) o Atodlen B1 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Mae’r darpariaethau hyn yn ymdrin â chanlyniadau gweinyddwr yn anfon Ffurflen 2.34B (Hysbysiad Symud o Weinyddiad i Ddatodiad Gwirfoddol gan y Credydwyr) at y Cofrestrydd Cwmnïau. I grynhoi, dyfarnodd Mr Ustus Briggs, er efallai bod yna oedi am beth amser rhwng yr adeg y mae Ffurflen 2.34B yn dod i law’r Cofrestrydd a’r adeg y mae’n ei phrosesu a’i gosod ar y gofrestr, dylid rhoi dyddiad y cofrestriad fel y dyddiad y daeth y ffurflen i law, fel bod y canlyniadau cyfreithiol a nodir ym mharagraff 83(6) yn dod i rym o’r dyddiad y daeth y ffurflen i law ymlaen.

Mae polisi’r Cofrestrydd hyd at benderfyniad Mr Ustus Briggs wedi cael ei seilio ar ddehongliad gwahanol o’r darpariaethau hyn, sef mai’r dyddiad mae’r Cofrestrydd yn cofrestru’r ddogfen mewn gwirionedd yw’r ‘cofrestriad’ fel y cyfeirir ato ym mharagraff 83(6). Yn unol â hynny, pan ddaw Ffurflen 2.34B i law, y dyddiad cofrestru a ddangosir i’r cyhoedd yw dyddiad ei phrosesu a’i chofrestru, nid y dyddiad y daeth i law (h.y. nid yw’r Cofrestrydd yn ôl-ddyddio). Yna dangosir y dyddiad hwn ar gynhyrchion chwilio Tŷ’r Cwmnïau fel y dyddiad y mae penodiad gweinyddydd yn dod i ben a’r dyddiad mae’r datodiad yn dechrau.

O ganlyniad i ddyfarniad Globespan, mae’r Cofrestrydd wedi newid y gofrestr ar gyfer Globespan Airways Limited yn unol â gorchymyn Mr Ustus Briggs. Yn dilyn penderfyniad a gorchymyn llys mewn achos arall (Principle Leisure Midlands Limited ar 13 Ebrill 2012), bydd y Cofrestrydd yn newid y gofrestr yn yr achos hwnnw y cymhwyswyd dyfarniad Mr Ustus Briggs iddo gan y Llys. Fodd bynnag, mae’r Cofrestrydd wedi cyhoeddi hysbysiad apelydd mewn perthynas â’r ffordd y dehonglir paragraff 83 o ddyfarniad Globespan ac ar hyn o bryd mae hwn gerbron y Llys Apêl (ac arhosir am benderfyniad ynglŷn â chaniatâd ar hyn o bryd).

Mae’r Cofrestrydd wedi ystyried ei ymagwedd at gofrestru Ffurflenni 2.34B yng ngoleuni penderfyniad Mr Ustus Briggs wrth aros am yr apêl ac wedi penderfynu cadw ei bolisi blaenorol ar gyfer prosesu Ffurflenni 2.34B. Mae hyn yn golygu mai’r dyddiad y cofrestrwyd Ffurflen 2.34B mewn gwirionedd ac nid y dyddiad y daeth i law fydd y dyddiad cofrestru a ddangosir ar gynhyrchion chwilio Tŷ’r Cwmnïau o hyd. Bydd yn dilyn mai’r dyddiad hwnnw fydd yn cael ei ddangos fel dyddiad dod i ben penodiad y gweinyddydd a dyddiad dechrau’r datodiad hefyd ar gynhyrchion chwilio Tŷ’r Cwmnïau. Os ydych eisiau gwybod ar ba ddyddiad y daeth Ffurflen 2.34B i law’r Cofrestrydd, gellir gweld hyn ar god bar y ddogfen, ar ôl prynu’r llun.

Mae’r safbwynt hwn yn wahanol i’r dehongliad a fabwysiadwyd yn nyfarniad Globespan, a dyma pam mae Tŷ’r Cwmnïau’n barnu ei bod yn bwysig i chwilwyr a ffeilwyr fod yn ymwybodol o’r gwahanol bosibiliadau wrth ddefnyddio’r gofrestr mewn perthynas â’r ffurflenni hyn. Mae’r penderfyniad i ddangos y wybodaeth yn y ffordd hon, wrth aros am ganlyniad yr apêl, wedi bod yn destun ystyriaeth ofalus a chyngor. Wrth wneud hyn, fodd bynnag, nid yw’r Cofrestrydd yn ceisio haeru mai dyma’r wir sefyllfa gyfreithiol ac nid yw’n bwriadu unrhyw amarch i benderfyniad y Llys yn achos Globespan. Bydd y wir sefyllfa gyfreithiol yn fater, rydym yn disgwyl, i’r Llys Apêl benderfynu arni maes o law. 

Er mwyn i ni allu prosesu Ffurflenni 2.34B yn y ffordd fwyaf effeithlon posibl, byddai o gymorth pe gellid nodi bod y ffurflenni hyn er sylw’r Tîm Datod.

Byddwn yn derbyn Ffurflen 600 (Hysbysiad Penodi Datodydd) mewn achosion lle bo’r cwmni’n newid o weinyddiad i ddatodiad gwirfoddol gan y credydwyr, ar ôl i Ffurflen 2.34B gael ei chyflwyno a chan roi dyddiad penodi sy’n ddyddiad dod i law neu gofrestru. Y rheswm am hyn yw nad yw’r Cofrestrydd yn dymuno gwrthod dogfen sydd wedi cael ei chyflwyno’n briodol (fel y’i diffinnir gan a. 1072 o Ddeddf Cwmnïau 2006) yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.

Yn sgil hyn, ac am yr un rhesymau, byddwn yn derbyn Ffurflen 4.68 (Adroddiad Cynnydd Datodydd) gyda’r cyfnod rhagnodedig y mae’n rhaid i’r datodydd gynhyrchu adroddiad cynnydd ar ei gyfer yn 1 flwyddyn sy’n dechrau ar ddyddiad penodi’r datodydd, lle bo’r dyddiad hwnnw’n ymwneud naill ai â’r dyddiad dod i law neu’r dyddiad cofrestru. Yn yr un modd byddwn yn derbyn Ffurflen 4.72 ac adroddiad terfynol y datodydd, y mae dyddiad agor a chau’r dirwyn i ben yn ofynnol arni, gyda naill ai’r dyddiad dod i law neu’r dyddiad cofrestru’n ddyddiad agor y dirwyn i ben.

Yn dilyn canlyniad yr apêl, mae’n bosibl y bydd angen gwneud newidiadau i’r Gofrestr a phrosesau’r Cofrestrydd, a chynhelir adolygiad llawn y pryd hwnnw.

Noder y bydd yr un polisi’n berthnasol i achosion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wrth aros am yr apêl, er mai dim ond yng Nghymru a Lloegr mae dyfarniad Globespan yn berthnasol yn uniongyrchol.

Byddwn yn cysylltu eto cyn gynted ag y cawn ddyddiad yr apêl.

Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn at:

Tŷ’r Cwmnïau
Tîm Polisi Ansolfedd
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

02920 380952/380184
mbuckley@companieshouse.gov.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol ynglŷn â’r ddeddfwriaeth, dylech gysylltu ag Uned Polisi’r Gwasanaeth Ansolfedd Policy.Unit@insolvency.gsi.gov.uk

Erthyglau perthnasol

Brig
Ein polisi ar gwcis