Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau cyffredin am InlineXBRL (iXBRL) a chyd-ffeilio

Beth yw Cyd-ffeilio Cyfrifon?

Mae Cyd-ffeilio Cyfrifon yn disgrifio ffordd i gwmnïau a’u hasiantau gynhyrchu a chyflwyno’r gwahanol setiau o gyfrifon cwmni y mae angen iddynt eu hanfon at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Thŷ’r Cwmnïau o un set o ddata.

Pa fathau o gyfrifon allaf i eu ffeilio trwy’r Gwasanaeth Ffeilio Meddalwedd?

Mae cyfrifon llawn wedi eu heithrio rhag archwilio ariannol; cyfrifon cryno bach; cyfrifon segur a chyfrifon llawn unigol wedi’u harchwilio yn gallu cael eu cyflwyno gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Meddalwedd.

Noder: Y cyfrifon wedi’u harchwilio y gellir eu cyflwyno yw cyfrifon unigol gydag adroddiad archwilwyr ariannol safonol.

Beth yw iXBRL? (InlineXBRL)

iXBRL yw’r safon data cyfrifiaduron ddarllenadwy ar gyfer adroddiadau ariannol y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Thŷ’r Cwmnïau wedi’i mabwysiadu ar gyfer ffeilio cyfrifon yn electronig.

A fydd y cyfrifon iXBRL rwy’n eu cynhyrchu i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi hefyd yn dderbyniol i Dŷ’r Cwmnïau?

Byddant. Mae’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Dŷ’r Cwmnïau’n cael ei chynnwys yn y cyfrifon iXBRL rydych yn eu hanfon at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Fodd bynnag, os yw’ch cwmni’n gymwys, gallwch ddal i ddewis cyflwyno cyfrifon iXBRL cryno i Dŷ’r Cwmnïau sydd wedi’u creu fel is-set o’r data rydych yn eu darparu i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Ydi gofynion tagio iXBRL yr un peth i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac i Dŷ’r Cwmnïau?

Mae’r holl wybodaeth cyfrifon sy’n ofynnol gan Dŷ’r Cwmnïau’n cael ei chynnwys yn rhestr tagio ofynnol GAAP y Deyrnas Unedig a ragnodir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Pa fanylion diogelwch ydw i eu hangen i ffeilio cyfrifon i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Thŷ’r Cwmnïau?

  • I gyflwyno cyfrifon i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, mae angen i chi ddefnyddio’ch manylion Porth y Llywodraeth.
  • I gyflwyno ffeil yn electronig i Dŷ’r Cwmnïau rydych angen cod dilysu cwmni.
  • Mae Ffeilwyr Meddalwedd angen cod cyflwynydd, wedi’i gysylltu â chyfrif e-ffeilio. Mae mwy o fanylion ar gael o Gwestiynau Cyffredin Ffeilio Meddalwedd

Gweld rhestr o gyflenwyr Ffeilio Meddalwedd cymeradwy (yn Saesneg)

Os ydych chi’n ystyried datblygu datrysiad i ddarparu cyfrifon iXBRL, cysylltwch â Marie Connors:
mconnors@companieshouse.gov.uk

I gael y newyddion diweddaraf ar gynnydd gwaith datblygu cydgyfrifon, tanysgrifiwch i ffrwd newyddion RSS cyfrifon (yn Saesneg

Brig
Ein polisi ar gwcis