Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin WebFiling

Dull sy’n galluogi cwmnïau a’u hasiantau i gynhyrchu a chyflwyno gwahanol setiau o gyfrifon y cwmni y mae angen iddynt eu hanfon i HMRC a Thŷ’r Cwmnïau o un set o ddata yw Cyd-ffeilio Cyfrifon. 

Yn achos defnyddwyr WebFiling, bydd ffeilio cyfrifon heb eu harchwilio yn gweithio gan ddefnyddio templed y gellir ei ddadlwytho trwy WebFiling neu trwy borth HMRC. Bydd hyn yn gofyn am yr holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen naill ai ar HMRC neu ar Dŷ’r Cwmnïau a bydd yn cynnig dewisiadau i gyflwyno cyfrifon ar wahân i un o’r cyrff hyn neu’r ddau. Cewch gyflwyno Cyfrifon Cryno i Dŷ’r Cwmnïau o hyd.

Pa fathau o gyfrifon y gallwn eu ffeilio?

Gallwch gyflwyno cyfrifon llawn a chryno wedi eu heithrio rhag archwilio drwy'r dull hwn.

A oes angen i mi nodi manylion fy nghyfrifon ddwywaith er mwyn ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau a HMRC?   

Egwyddor cyd-ffeilio cyfrifon yw y caiff cwsmeriaid gofnodi data eu cyfrifon unwaith, cyn cyflwyno eu cyfrifon i HMRC a Thŷ’r Cwmnïau ar wahân.

Er fy mod i’n cynhyrchu cyfrifon llawn ar gyfer HMRC, a oes modd i mi ffeilio cyfrifon cryno gyda Thŷ’r Cwmnïau o hyd?

Oes. Bydd y templed WebFiling yn eich galluogi chi i gofnodi a chyflwyno cyfrifon cryno i Dŷ’r Cwmnïau os nad ydych am gyflwyno cyfrifon llawn. Dylech siarad â darparwr eich pecyn meddalwedd er mwyn holi sut bydd eu pecyn yn hwyluso hyn. 

A allwch chi roi sicrwydd i mi taw data’r cyfrifon cryno yn unig a fydd yn mynd i Dŷ’r Cwmnïau?

Gan ddefnyddio’r Templed Cyd-ffeilio, fe welwch chi restr o eitemau o’r templed a fydd yn cyflawni gofynion y Cyfrifon Cryno. Cewch weld ac argraffu is-set o ddata sy’n ffurfio eich Cyfrifon Cryno hefyd

Mae gen i wahanol ddyddiadau ffeilio gyda HMRC a Thŷ’r Cwmnïau. A gaf i ddefnyddio’r templed i ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau, a mynd nôl wedyn er mwyn ffeilio gyda HMRC? 

Cewch. Bydd y templed yn galluogi’r defnyddwyr i ddychwelyd at y ffurflen a chyflawni gofynion ffeilio HMRC ar ôl cyflwyno’r cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau. 

Os byddaf i’n ffeilio cyfrifon cryno gyda Thŷ’r Cwmnïau, a gaf i ehangu fy nata wedyn i gyflwyno cyfrifon llawn i HMRC?

Cewch. Mae’r templed yn caniatáu ar gyfer hyn.

A gaiff cwmnïau segur ddefnyddio’r templed i ffeilio eu cyfrifon?

Cânt. Mae hyn yn briodol i gwmnïau Segur sydd wedi masnachu. Dylai cwmnïau sydd erioed wedi masnachu lenwi’r CCS (Cyfrifon Cwmni Segur) sydd ar gael ar wasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau.

A fydd y templed yn gweithio ar gyfer pob math o gyfrifon?

Bydd y templed yn gweithio ar gyfer y rhan fwyaf o Gyfrifon Heb eu Harchwilio ar gyfer Cwmnïau Cyfyngedig. Mae yna dabl o eithriadau ar y dechrau ynghyd â chyngor i ddefnyddwyr ar addasrwydd y templed. Ymysg eraill, mae’r eithriadau’n cynnwys PACau, CBCau, Cwmnïau Wedi eu Cyfyngu drwy Warant ymysg. 

A yw Tŷ’r Cwmnïau yn bwriadu gwneud ffeilio electronig yn orfodol?

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud 100% o’n busnes yn electronig ac mae’r Ddeddf Cwmnïau newydd wedi rhoi pwerau i ni wneud e-ffeilio yn orfodol. Fodd bynnag, nid ydym yn barod i gael gwared ar y dewis ffeilio ar bapur eto, ac nid oes amserlen i gyflawni hynny ar hyn o bryd.

Mae’r cyfraddau e-Ffeilio wedi tyfu’n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’n cwsmeriaid ddewis symud o bapur i ddulliau electronig. Eleni er enghraifft, cyflwynwyd 90% o’r ffurflenni blynyddol a’r ceisiadau corffori drwy ddulliau electronig.

Wrth i’n gwasanaeth e-ffeilio aeddfedu a’r nifer o ddogfennau sy’n cael eu ffeilio ar bapur leihau, byddwn ni’n ystyried dirwyn y dewis ffeilio ar bapur i ben yn llwyr yn achos rhai o’n trafodion ffeilio, os nad pob un. Cyn dileu’r dewis o ran ffeilio ar bapur, byddwn ni’n ymgynghori â’n cwsmeriaid ac yn mynd nôl i’r senedd.