Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

FFI FLYNYDDOL PROSESU DOGFENNAU – AD-DALU TALIADAU DYBLYG

Pam bod Tŷ’r Cwmnïau yn ad-dalu rhai ffioedd prosesu blynyddol dyblyg?

Mae ffi flynyddol prosesu dogfennau yn daladwy wrth gyflwyno ffurflen flynyddol y cwmni. Weithiau, bydd cwsmeriaid yn cyflwyno ail ffurflen flynyddol ar gam, yn dangos yr un dyddiad, ac yn talu’r ffi flynyddol prosesu dogfennau yr eildro. Cyn 1 Medi 2007 fe gâi dogfennau o’r fath eu dychwelyd i’r cwsmer gyda llythyr eglurhaol yn nodi y gellid ad-dalu’r ail ffi neu ei dal ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bu i arolwg o systemau Tŷ’r Cwmnïau ddangos nad oedd rhai cwsmeriaid yn ymateb i’r llythyr hwn. O ganlyniad, newidiodd Tŷ’r Cwmnïau ei systemau o 1 Medi 2007 ymlaen, a bydd bellach yn rhoi ad-daliad yn syth yn yr achosion hyn. Ni chaniateir mwyach yr opsiwn o gadw’r gordaliad ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn ddilynol.

Ad-daliadau heb eu hawlio o dan system cyn-Medi 2007

Os dychwelwyd ffurflen flynyddol ichi fel dogfen ddyblyg a bod y llythyr eglurhaol yn dweud bod y ffi flynyddol prosesu dogfennau wedi’i gordalu, gall fod gennych hawl i ad-daliad.

Pa wybodaeth y mae angen imi ei darparu er mwyn gwneud cais am ad-daliad?

Rhaid i geisiadau am ad-daliad fod yn ysgrifenedig a dylent gynnwys enw a rhif cofrestru’r cwmni yn ogystal â’r ffurflen flynyddol ddyblyg a gafodd ei dychwelyd.

Sylwer: Os bu ichi dalu ffi flynyddol prosesu dogfennau ar ran rhywun arall, mae’r canllawiau cyfreithiol yn ei gwneud yn glir y dylai ceiswyr gymryd camau i uniaethu’u cleientiaid er mwyn trosglwyddo’r ad-daliad. Felly, mae ar Dŷ’r Cwmnïau angen gweld y paragraff canlynol wedi’i gynnwys yn y cais ysgrifenedig am ad-daliad os ydych yn hawlio ar ran cleient:

“Cadarnhaf/cadarnhawn y byddaf/byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i uniaethu cleientiaid a dychwelyd iddynt bob arian a gaiff eu had-dalu.”

 phwy y dylwn gysylltu i gael ad-daliad?

Dylai ceisiadau am bob ad-daliad yng nghyswllt ffurflen flynyddol ddyblyg (gan gynnwys cwmnïau Albanaidd) fod yn ysgrifenedig ac wedi’u cyfeirio i:

Ceisiadau Ad-dalu Ffi Ddogfennau Flynyddol
Adran Gyllid
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

Beth sy’n digwydd os nad yw’r ffurflen flynyddol ddyblyg a gafodd ei dychwelyd gen i ond fy mod yn credu bod gen i hawl i ad-daliad?

Dim ond lle gallwch ddangos bod taliad dyblyg wedi’i wneud y gallwn ninnau ystyried ceisiadau am ad-daliad. Lle na ellir darparu’r ffurflen flynyddol ddyblyg a gafodd ei dychwelyd, bydd angen y manylion banc a sieciau canlynol ar gyfer taliadau yng nghyswllt y ffurflen flynyddol wreiddiol a’r un ddyblyg fel ei gilydd:

Cyfrif Banc
Côd Didoli
Rhif Siec
Swm y Siec
Dyddiad bancio

Bydd angen cyflwyno pob cais yn ygrifenedig i’r cyfeiriad uchod, a rhaid cynnwys enw’r cwmni a’i rif cofrestru.

 phwy y dylwn gysylltu os bydd gen i unrhyw ymholiadau?

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch enquiries@companies-house.gov.uk. neu ffoniwch Ganolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500.
Brig
Ein polisi ar gwcis