|
|
Chwilio am argaeledd Enw Cwmni yn WebCHeck Caiff enw cwmni ei wrthod os ystyrir ei fod yr un fath ag enw sydd eisoes ar y gofrestr. Yn ein hymdrech i helpu cwsmeriaid, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi datblygu cyfleuster newydd o dan WebCHeck i ‘Chwilio am Argaeledd Enw Cwmni’. Bydd y chwiliad hwn yn datgelu enwau sydd ‘yr un fath’ â’r enw a nodwyd yn ôl diffiniad rheoliadau Deddf Cwmnïau 2006. Os nad yw’n datgelu unrhyw enwau, yna mae’n debygol bod enw’r cwmni yn dal i fod ar gael adeg y chwiliad. Mae’r cyfleuster chwilio newydd hwn ar gael fel opsiwn newydd ar sgrin Chwilio am Gwmni WebCHeck. Cyrchu WebCHeck |
||