|
|
Penodiad Newydd i’r Bwrdd Llywio Mae pleser gan Dŷ’r Cwmnïau gyhoeddi penodiad Dr Sheila Doyle yn Aelod Bwrdd Anweithredol ei Fwrdd Llywio. Mae ganddi brofiad helaeth ym myd busnes, gan arbenigo mewn rheoli ym maes TG, alinio strategol a chyflwyno rhaglenni cymhleth. Mae hi wedi gweithio mewn sawl swydd uwch, gan weithredu ar fwrdd cwmnïau blaenllaw gan gynnwys BP, IBM a Deutsche Bank. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn Hong Kong, Singapore ac Awstralia yn cynghori cwmnïau ariannol a gweithgynhyrchu rhanbarth Asia a’r Môr Tawel. Yn fwy diweddar, penodwyd Sheila yn gyfarwyddwr TG Y Post Brenhinol lle bu’n canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i hwyluso’r gwasanaethau a ddarperir i gwsmeriaid a dod â thechnoleg y busnes i mewn i’r oes ddigidol. Cwblhaodd Sheila ei doethuriaeth yn Awstralia cyn dychwelyd i Lundain gyda’i theulu. |
||