Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Tudalen hafan newydd i Dŷ’r Cwmnïau

Wnaethon ni newid dyluniad y dudalen hafan ar ein gwefan ar ddydd Sul 11 Mawrth.

Yn ogystal â gwella golwg cyffredinol y wefan, rydyn ni hefyd wedi gwella’r ffordd o lywio er mwyn i ddefnyddwyr allu cael hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano’n gyflym ac yn hawdd. Mae pennyn newydd wedi cael ei ychwanegu i’r brig gyda thabiau llywio i’r mannau mae pobl yn mynd iddyn nhw amlaf; a bydd y tabiau hyn yn aros ledled y wefan.

Mae cyfran sylweddol o’r traffig i’n gwefan yn mynd i’n gwasanaethau WebCHeck a WebFiling i ffeilio gwybodaeth a chwilio am ddata cwmnïau, felly mae’r rhain hefyd wedi cael eu gosod mewn man amlycach ar y dudalen hafan i’w gwneud yn haws mynd iddyn nhw. 

Er bod dyluniad y dudalen hafan wedi newid yn sylweddol, mae cynnwys yr holl dudalennau eraill yn ddigyfnewid. Fodd bynnag, i sicrhau bod y wefan â golwg cyson o hyd, fe welwch fod yr arddull newydd ar gyfer y pennyn a’r troedyn wedi cael ei ychwanegu i’r tudalennau cynnwys. Nid yw ein gwasanaethau ar-lein, fel WebCHeck, WebFiling a Companies House Direct wedi bod yn newid ar hyn o bryd.

Rydyn ni wedi gwneud ymchwil i beth mae ein cwsmeriaid ei eisiau ac wedi rhoi prawf ar y dyluniadau newydd gyda defnyddwyr go iawn. Mae’r adborth a gafwyd wedi bod yn werthfawr wrth siapio’r dyluniad terfynol a gafodd ei lansio ar 11eg Mawrth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi adborth ar newidiadau yn y dyfodol i’n gwasanaethau ar-lein, beth am ystyried bod yn rhan o’n panel defnyddwyr.

Ddylai hi ddim cymryd yn hir i chi ymgyfarwyddo â thudalen hafan newydd y wefan. Fodd bynnag, os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano ar unwaith, rhowch gynnig ar yr offeryn Chwilio. 

Rhai cwestiynau ac atebion am y wefan newydd:

Beth sydd wedi newid ar y wefan?

Rydyn ni wedi newid dyluniad y dudalen hafan a golwg y pennyn a’r troedyn ar weddill y safle. Mater o olwg yn unig yw’r newidiadau a dydyn nhw ddim yn effeithio ar y bensaernïaeth sylfaenol. Rydyn ni wedi ei gwneud yn haws i gyrraedd ein gwasanaethau WebFiling a WebCHeck ac wedi gwella’r ffordd o lywio i rannau eraill o’r wefan trwy ddefnyddio tabiau sydd yn awr yn gyson ledled y wefan. Mae’r holl gynnwys y tu ôl i’r dudalen hafan yn aros yr un peth.

Pam ydych chi wedi newid y wefan?

Mae gwefan Tŷ’r Cwmnïau wedi aros yn ddigyfnewid ers rhai blynyddoedd. Er mwyn ymateb i adborth oddi wrth ein cwsmeriaid a pharhau i roi’r profiad ar-lein gorau i’n cwsmeriaid wrth ffeilio neu chwilio trwy wybodaeth, roedd angen i ni wella’r dyluniad a’r ffordd o lywio ar y dudalen hafan. Mater o newid y golwg yn unig yw hyn ac nid yw’n effeithio ar bensaernïaeth sylfaenol y safle. Y nod yn y pen draw yw bod ag un wefan newydd i’r llywodraeth, gyda golwg cyson i holl adrannau’r llywodraeth; rhoddir prawf ar y dyluniadau ar gyfer hyn ar hyn o bryd ar GOV.UK/government.   

Ydych chi wedi newid unrhyw un o’ch cyfeiriadau gwe? Fydd fy nodau tudalen yn dal i weithio?

Dydyn ni ddim wedi newid unrhyw un o’n cyfeiriadau gwe. Mater o olwg yn unig yw’r newidiadau i’r wefan. Felly bydd unrhyw nodau tudalen sydd gennych chi i dudalennau ar ein gwefan yn dal i weithio.

Ydych chi’n bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i’r wefan yn y dyfodol?

Dydyn ni ddim yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau mawr eraill i’r wefan. Fodd bynnag, y nod yn y pen draw yw bod ag un wefan newydd i’r llywodraeth, gyda golwg cyson i holl adrannau’r llywodraeth; rhoddir prawf ar y dyluniadau ar gyfer hyn ar hyn o bryd ar GOV.UK/government.   Rydyn ni’n gwahodd awgrymiadau oddi wrth ein cwsmeriaid bob amser. Ewch i’r dudalen Cysylltu â ni neu anfonwch neges e-bost atom at enquiries@companieshouse.gov.uk .

Allaf i ddim dod o hyd i adran benodol mwyach – sut allaf i ddod o hyd iddi?

Mae modd cyrraedd y mwyafrif helaeth o’r eitemau oedd ar yr hen dudalen hafan o’r dudalen hafan newydd, ond mae’n bosibl y bydd angen i chi ymgyfarwyddo â’r tabiau llywio newydd ar frig y sgrin er mwyn cyrraedd yr adrannau. Os ydych chi’n dal i fethu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, yna gallwch ddefnyddio’r cyfleuster chwilio.

Wnaethoch chi rybuddio’ch cwsmeriaid bod y dudalen hafan yn newid?

Do, wnaethon ni gyhoeddi ein bwriad i’w newid, a’r dyddiad lansio, ar ein tudalen hafan flaenorol ar 27 Chwefror. Cynhwyswyd  rhagolwg o’r delwedd  y cynllun newydd

Brig
Ein polisi ar gwcis