Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Tudalen hafan newydd i Dŷ’r Cwmnïau

Rydyn ni’n newid dyluniad y dudalen hafan ar ein gwefan ar ddydd Sul 11 Mawrth.  I gael cipolwg ar y dyluniad newydd, cliciwch ar y llun.

Tudalen hafan newydd i Dŷ’r Cwmnïau

 

Yn ogystal â gwella golwg cyffredinol y wefan, rydyn ni hefyd wedi gwella’r ffordd o lywio er mwyn i ddefnyddwyr allu cael hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano’n gyflym ac yn hawdd. Mae pennyn newydd wedi cael ei ychwanegu i’r brig gyda thabiau llywio i’r mannau mae pobl yn mynd iddyn nhw amlaf; a bydd y tabiau hyn yn aros ledled y wefan.

Mae cyfran sylweddol o’r traffig i’n gwefan yn mynd i’n gwasanaethau WebCHeck a WebFiling, felly mae’r rhain hefyd wedi cael eu gosod mewn man amlycach ar y dudalen hafan i’w gwneud yn haws mynd iddyn nhw.

Er bod dyluniad y dudalen hafan wedi newid yn sylweddol, mae cynnwys yr holl dudalennau eraill yn ddigyfnewid. Fodd bynnag, i sicrhau bod y wefan â golwg cyson o hyd, fe welwch fod yr arddull newydd ar gyfer y pennyn a’r troedyn wedi cael ei ychwanegu i’r tudalennau cynnwys. Ni fydd ein gwasanaethau ar-lein, fel WebCHeck, WebFiling a Companies House Direct yn newid ar hyn o bryd.

Rydyn ni wedi gwneud ymchwil i beth mae ein cwsmeriaid ei eisiau ac wedi rhoi prawf ar y dyluniadau newydd gyda defnyddwyr go iawn. Mae’r adborth a gafwyd wedi bod yn werthfawr wrth siapio’r dyluniad terfynol a gaiff ei lansio ym mis Mawrth. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi adborth ar newidiadau yn y dyfodol i’n gwasanaethau ar-lein, beth am ystyried bod yn rhan o’n panel defnyddwyr.

Ddylai hi ddim cymryd yn hir i chi ymgyfarwyddo â thudalen hafan newydd y wefan, a gallwch edrych ar y rhagolwg uchod. Wrth ddefnyddio’r dudalen hafan ar ei newydd wedd, os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano ar unwaith, rhowch gynnig ar yr offeryn Chwilio. 

Brig
Ein polisi ar gwcis