|
|
Ailgyhoeddi Tystysgrifau Corffori ar Bapur. Yn dilyn asesiad o’n prosesau papur, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi adolygu ei bolisi o ran ailgyhoeddi tystysgrifau corffori a newid enw ar bapur. Caiff tystysgrif ei chyhoeddi pan fo cwmni’n cael ei gorffori gan ddefnyddio’r gwasanaeth papur. Gall y cyflwynydd gasglu’r dystysgrif honno, neu gellir ei hanfon drwy’r post. Anfonir y tystysgrifau gyda’r Post Brenhinol trwy post dosbarth cyntaf, neu trwy’r Gyfnewidfa Ddogfennau (DX). O bryd i’w gilydd, mae cwsmeriaid yn cysylltu â ni am nad yw’r dystysgrif wreiddiol wedi dod i law. Mewn achosion o’r fath, gellir cyhoeddi tystysgrif o’r newydd. I egluro, o 1 Tachwedd 2011 ymlaen, dim ond ar y sail ganlynol y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn ystyried ceisiadau am dystysgrifau o’r newydd:
Ffoniwch 0303 1234 500 neu e-bostiwch enquiries@companies-house.gov.uk |
||