Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 
 

Tarfu ar Wasanaeth y Post Brenhinol

Mae undebau Swyddfa’r Post wedi dweud na fydd gweithredu pellach tan y Flwyddyn Newydd.

Os cwyd gweithredu diwydiannol pellach fydd yn effeithio ar ddosbarthiadau post, dylech gadw mewn cof, lle mae dogfennau’n dibynnu ar derfynau amser statudol, mai cyfrifoldeb cyfreithiol cyfarwyddwyr cwmni yw sicrhau bod dogfennau’n cyrraedd y Cofrestrydd yn brydlon. Os gellir dangos bod streic y post wedi arwain yn uniongyrchol at osod cosb ffeilio hwyr, bydd y Cofrestrydd yn ystyried arfer ei ddisgresiwn i beidio â chasglu’r gosb. Dylai apeliadau fod yn ysgrifenedig a gellir eu hanfon drwy’r e-bost at enquiries@companies-house.gov.uk

Yng ngoleuni hyn, byddem yn cynghori cwsmeriaid i ystyried cymryd y rhagofalon canlynol:

Lle bynnag y bo modd, defnyddiwch ein gwasanaethau WebFiling neu Software Filing i ffeilio’ch gwybodaeth yn electronig. Ar gyfer WebFiling, sylwch fod angen cod diogelwch a chod dilysu i gael defnyddio’r gwasanaeth.  Os nad ydych wedi cofrestru’n barod, caniatewch ddigon o amser i dderbyn y codau hyn.

Gellir cyrchu gwasanaeth WebFiling drwy dudalen hafan gwefan Tŷ’r Cwmnïau yn: www.companieshouse.gov.uk

Os na allwch ffeilio’n electronig, ystyriwch ddefnyddio dulliau cyflwyno eraill, gan gynnwys negeswyr a throsglwyddo dogfennau â llaw.  Mae ein swyddfeydd yn:

  • Ffordd y Goron, Caerdydd CF14 3UZ
  • 21 Bloomsbury Street, London, WC1B 3XD
  • 4th Floor, Edinburgh Quay 2, 139 Fountainbridge, Edinburgh EH3 9FF
  • Waterfront Plaza, 8 Laganbank Road, Belfast BT1 3BS

Os ydych yn pryderu na allwch fodloni’r terfyn amser ar gyfer ffeilio cyfrifon eich cwmni, cysylltwch â ni ar 0303 1234 500 am gyngor. Er bod modd inni ystyried estyn yr amser ffeilio o dan amgylchiadau eithriadol, rhaid i unrhyw gais estyn ddod i law erbyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio.  Ni ellir ei ystyried ar ôl y terfyn amser. Sylwer na ellir rhoi penderfyniad ar ganiatáu estyniad dros y ffôn. Cyfleir pob penderfyniad yn ysgrifenedig, a hynny drwy’r e-bost lle bo modd.

Os cawn wybodaeth bellach ynglŷn â’r aflonyddu ar wasanaeth y post, byddwn yn cyfleu’r sefyllfa ddiweddaraf ar ein gwefan.

Tŷ’r Cwmnïau
Tachwedd 2009

Brig
Ein polisi ar gwcis