Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cyhoeddiad am y Grŵp Data Cyhoeddus

Ar 29 ain Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd Tŷ’r Cwmnïau’n rhan o’r Grŵp Data Cyhoeddus o gronfeydd masnachu.

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod eisiau sefydlu Corfforaeth Data Cyhoeddus i wella’r ffordd mae’n rheoli rhai o’r setiau gwybodaeth mawr mae’n eu dal ac yn ceisio sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael yn rhwydd. Tŷ’r Cwmnïau, gyda’i setiau data pwysig i gwmnïau a chyfarwyddwyr, oedd un o’r sefydliadau yr ystyriwyd yn wreiddiol eu gwneud yn rhan o’r Gorfforaeth Data Cyhoeddus.

Ar ôl ystyriaeth helaeth, penderfynwyd bellach peidio â sefydlu un gorfforaeth. Fodd bynnag, gan gyflawni ei hymrwymiad, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi sefydlu Bwrdd Strategaeth Data (DSB), a fydd yn ceisio cynyddu, cymaint ag sy’n bosibl, werth y data o’r hyn mae’n ei alw’n Grŵp Data Cyhoeddus(PDG) o Gronfeydd Masnachu i’r budd economaidd a chymdeithasol hirdymor, gan gynnwys trwy ryddhau data’n ddi-dâl.

Mae Gweinidogion wedi rhoi i’r Bwrdd Strategaeth Data y dasg o gynyddu gwerth y data o’r Grŵp Data Cyhoeddus cymaint ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau twf economaidd. Bydd yn rhoi blaenoriaeth i ddarparu Data Agored o’r Grŵp Data Cyhoeddus, ac yn gweithio i sicrhau ei bod yn haws i bob defnyddiwr gael data a bod y gallu i gael data am ddim yn cynyddu dros amser, yn amodol ar fforddiadwyedd.

I ddechrau bydd y Grŵp Data Cyhoeddus yn cynnwys yr Arolwg Ordnans, y Swyddfa Dywydd, y Gofrestrfa Tir a Thŷ’r Cwmnïau. Bydd y Grŵp yn canfod a chyflawni arbedion effeithlonrwydd a synergeddau er mwyn lleihau cost data i ddefnyddwyr data a darparu cyllid ychwanegol ar gyfer sicrhau bod data ar gael yn rhwydd.

Dyma’r goblygiadau i Dŷ’r Cwmnïau o fod yn rhan o’r Grŵp Data Cyhoeddus:

  • Byddwn yn symud o fod yn rhan o’r Grŵp Fframweithiau Marchnad i’r Weithrediaeth Cyfranddeiliaid yn yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, yn unol â’r sefydliadau eraill yn y Grŵp Data Cyhoeddus.
  • Cydweithio agosach gyda’r Arolwg Ordnans, y Gofrestrfa Tir a’r Swyddfa Dywydd, yn arbennig ar ddarparu gwybodaeth ac effeithlonrwydd.
  • Canolbwyntio mwy ar sicrhau bod gwybodaeth ar gael am ddim.

Nid yw hyn yn newid:

  • Ein statws fel Cronfa Fasnachu a sefydliad ar wahân.
  • Ein swyddogaeth statudol a’r gwaith mae ein staff yn ei wneud i gyflawni’r swyddogaeth honno.
  • Y ffaith ein bod yn canolbwyntio’n llwyr ar ddarparu gwasanaethau ardderchog i’n cwsmeriaid.
  • Ein strategaeth gyffredinol a’n hymdrech i fod yn gofrestr gwbl electronig.
  • Codi tâl am amrywiaeth fawr o wasanaethau chwilio.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi i’r Grŵp Data Cyhoeddus y dasg o:

  • fynd ati’n egnïol i sicrhau arbedion effeithlonrwydd unigol ac ar draws asedau, gan ddarparu prisiau is i bob defnyddiwr data, gan gynnwys y Bwrdd Strategaeth Data, cynnal sefydlogrwydd masnachol y cwmnïau sy’n aelodau ohono ac yn y pen draw cynyddu’r cyllid fydd ar gael i’r Bwrdd. Bydd hyn o fudd arbennig i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau dielw y gall pris data fod yn rhwystr iddynt;
  • sefydlu gweithgorau traws-sefydliadol (er enghraifft mewn meysydd megis seilwaith TG, trwyddedu ac ati) i adeiladu ar yr arfer gorau ar draws y sefydliadau.
  • ceisio sicrhau cydweithredu ar draws y sector cyhoeddus ehangach er mwyn darparu arbedion effeithlonrwydd trwy rannu data’n well.

Mae’r sefydliadau yn y Grŵp Data Cyhoeddus yn cyflawni amrywiaeth fawr o swyddogaethau. Yn y tymor hirach mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried, fesul achos unigol, y dewisiadau ar gyfer mwy o ran i’r sector preifat wrth ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus hyn. Gallai hyn fod ar ffurf gwerthiant rhannol, cydfentrau gyda chyrff masnachol, cael cyfalaf preifat i gynorthwyo â buddsoddi neu gyflwyno strwythurau neu arbenigedd rheoli gwahanol er mwyn ysgogi effeithlonrwydd. Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn ystyried pa mor ddoeth yw modelau cyflenwi eraill fel troi unrhyw un o’r Cronfeydd Masnachu sy’n aelodau o’r Grŵp yn gwmnïau yn ystyr y Ddeddf Cwmnïau.

Mae egwyddorion y Bwrdd Strategaeth Data a’r Grŵp Data Cyhoeddus ynghylch gwella’r ffordd yr ydym yn rheoli gwybodaeth a sicrhau ei bod ar gael yn cyd-fynd yn dda â’n strategaeth a’n nod o sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael am ddim. Fel rhan o hyn rydym yn bwriadu:

  • datblygu swmp-ffeil data y gellir ei lawrlwytho am ddim i gael ei hailddefnyddio sy’n cynnwys enw, rhif, cyfeiriad cofrestredig, dyddiad cofrestru, statws ffeilio a chod SIC y cwmni, a’n nod yw lansio hyn erbyn mis Gorffennaf 2012.
  • ystyried, gyda’r Bwrdd Strategaeth Data, rhyddhau data am ddim am fanylion cyfarwyddwyr a deiliaid swyddi yn ddiweddarach yn 2012.

Brig
Ein polisi ar gwcis