|
|
Hysbysiad pellach ynglyn â Grŵp Data CyhoeddusMae Gweinidogion yn yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau a Swyddfa’r Cabinet wedi penodi Cadeiryddion i’r Bwrdd Strategaeth Data (DSB) a’r Grŵp Data Cyhoeddus. Stephan Shakespeare yw Cadeirydd newydd y Bwrdd Strategaeth Data (DSB) a Claudia Arney fydd yn cadeirio’r Grŵp Data Cyhoeddus. Gyda’i gilydd, bydd y ddau sydd newydd eu penodi’n gyfrifol am gynyddu gwerth data’r sector cyhoeddus cymaint ag sy’n bosibl. Mae hyn yn cynnwys gwneud data’n fwy hygyrch a thryloyw yn y pedair Cronfa Fasnachu sydd yn y Grŵp Data Cyhoeddus, sef yr Arolwg Ordnans, y Swyddfa Dywydd, y Gofrestrfa Tir a Thŷ’r Cwmnïau. Amlinellwyd goblygiadau Tŷ’r Cwmnïau o fod yn rhan o’r Grŵp Data Cyhoeddus yn ein hysbysiad blaenorol. Mae Francis Maude hefyd wedi lansio’r papur gwyn Data Agored ar y ffordd y bydd y Llywodraeth yn sicrhau y gall pawb elwa o’r chwyldro data agored trwy wneud data a ddelir gan y sector cyhoeddus yn fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio. Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi rhyddhau set ddata newydd o ddata am gwmnïau i’w hailddefnyddio’n ddi-dâl. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar ddata am gwmnïau ac yn helpu i hybu twf trwy ganiatáu i fusnesau mawr a bach ddefnyddio’r data i ddatblygu gwasanaethau newydd. |
|