|
Hysbysiad Canolfan Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau Yn ystod Rhagfyr 2008, ymgymerodd Canolfannau Gwybodaeth Llundain a Chaeredin â threfniadau prawf ar gyfer y Gwasanaeth Yr Un Diwrnod er mwyn prosesu unrhyw Leihau ar Gyfalaf Cyfrannau drwy ddefnyddio Datganiad Solfedd, a charem ddiolch i bawb o’n cwsmeriaid a gymerodd ran. Ar ôl gallu pennu lefel y galw am y gwasanaeth a’r adnoddau sydd eisiau i’w weithredu, rydym yn falch o gael dweud y bydd modd inni ddal i gynnig gwasanaeth yn y dyfodol. NI fydd y gwasanaeth yn cynnwys ceisiadau am leihau’r cyfalaf cyfrannau drwy ddefnyddio gorchymyn llys. Bydd y gwasanaeth yn parhau wrth inni fwrw cyfrif o’r ffi y bydd angen ei chodi. Ond gall fod cyfnod byr pryd y bydd yn rhaid ei atal dros dro wrth wneud y trefniadau terfynol. Rhoir gwybod ichi ymhellach pan fydd y manylion gennym. Sylwer wrth fanteisio ar y gwasanaeth hwn ein bod yn argymell yn gryf eich bod yn cyflwyno manylion cysylltu llawn gyda phob cais ac mae angen i gwsmeriaid nodi mai dim ond yn ein swyddfeydd yn Llundain a Chaeredin y rhoir y gwasanaeth hwn. Rhaid marcio ‘same-day’ yn glir ar bob amlen i sicrhau ei bod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i leihau’ch cyfalaf dosbarthedig, cyfeiriwch at y canllaw canlynol ar ein gwefan: http://www.companieshouse.gov.uk/welsh/about/gbhtml/gba6_W.shtml Neu ffonio’n Canolfan Cysylltu: 0303 1234 500 Cyhoeddwyd – Ionawr 2009 |
|||