| Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin | |||
|
|
Ad-daliadau ar gyfer cynhyrchion swmp-ddata am gyfarwyddwyr a waharddwyd a brynwyd cyn 1 Hydref 2009 C1. Pwy gaiff ad-daliad? Unrhyw un a brynodd y cynhyrchion swmp-ddata am gyfarwyddwyr a waharddwyd yn uniongyrchol o Dŷ’r Cwmnïau cyn 1 Hydref 2009. Dyma’r cynhyrchion dan sylw:
C2. Pam mae Tŷ’r Cwmnïau yn ad-dalu cwsmeriaid a brynodd swmp-ddata am gyfarwyddwyr a waharddwyd cyn 1 Hydref 2009? Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi bod yn darparu’r cynhyrchion swmp-ddata yma am gyfarwyddwyr a waharddwyd ers blynyddoedd lawer. Wrth adolygu ein ffioedd er mwyn rhoi grym i Ddeddf Cwmnïau 2006 ar 1 Hydref 2009, fe sylweddolon ni bod yna amheuaeth ddigonol o’n pŵer i godi tâl am y cynhyrchion hyn. Rydyn ni felly’n cymryd y cam rhagofalus o gynnig ad-daliad i’r cwsmeriaid a brynodd unrhyw un o’r cynhyrchion cyn 1 Hydref 2009. C3. Beth am gynhyrchion a brynwyd ers 1 Hydref 2009? Ers 1 Hydref 2009, mae’r pŵer i godi tâl am y cynhyrchion hyn wedi dod o dan y Cytundeb Fframwaith a lofnodwyd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Dyma’r ffioedd:
Caiff pob cwsmer a brynodd y cynhyrchion hyn cyn 1 Hydref 2009 ad-daliad. C4. A fyddwch yn codi tâl am y cynhyrchion o 1 Hydref 2009 ymlaen? Byddwn. Gweler cwestiwn 3 uchod. C5. A oes gan bob cwsmer a brynodd y cynhyrchion hyn yn uniongyrchol gan Dŷ’r Cwmnïau cyn 1 Hydref 2009 yr hawl i gael ad-daliad? Oes. C6. Fe brynais i’r cynnyrch hwn gan drydydd parti, a gaf i ad-daliad? Yn anffodus, ni all Tŷ’r Cwmnïau eich helpu chi am i chi brynu’r cynnyrch gan drydydd parti. Dylech gysylltu â’r cwmni a werthodd y wybodaeth i chi. Dim ond arian a dalwyd i Dŷ’r Cwmnïau y gall Tŷ’r Cwmnïau ei ad-dalu. C7. Sut mae mynd ati i hawlio ad-daliad? Mae gan Dŷ’r Cwmnïau gofnod o bwy brynodd y cynhyrchion hyn cyn 1 Hydref 2009. Byddwn yn cysylltu â’r cwsmeriaid hynny’n uniongyrchol. C8. Nid wyf wedi cael fy ad-daliad eto, beth ddylwn i ei wneud? Efallai nad oes gennym fanylion talu electronig ar gyfer eich pryniant ac nad ydym wedi ad-dalu eich arian oherwydd hynny. Os nad ydych wedi cael ad-daliad erbyn 31 Rhagfyr 2010, dylech ysgrifennu at Dŷ’r Cwmnïau yn y cyfeiriad isod gan roi eich enw, dyddiad prynu’r cynnyrch/cynhyrchion, anfoneb a rhif ffôn. Byddwn ni’n rhoi galwad ffôn i chi, ac yn gofyn am fanylion talu. Marie Flowers C9. Gyda phwy ddylwn i gysylltu i gael ad-daliad? Dylech gyflwyno eich cais am ad-daliad ar gyfer swmp-ddata am gyfarwyddwyr a waharddwyd yn ysgrifenedig i Dŷ’r Cwmnïau. Gweler cwestiwn 8 uchod. C10. Gyda phwy ddylwn i gysylltu os oes ymholiadau gen i? Os oes unrhyw ymholiadau gennych, e-bostiwch enquiries@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch Ganolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar 0300 1234 500. |
||