Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Ad-daliadau ar gyfer swmp-restr gyfranddeiliaid clustnodi cyfrannau

Yn ystod adolygiad diweddar o’i brisiau, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi darganfod y bu’n codi am y swmp-restrau cyfranddeiliaid clustnodi cyfrannau heb fod â’r pŵer statudol i wneud hynny. O ganlyniad, gwnaethpwyd trefniadau i sicrhau bod ad-daliadau ar gael i unrhyw un a brynodd y cynnyrch ar neu cyn 2 Chwefror 2011.

C. Codwyd arnaf am y cynnyrch hwn yn y gorffennol. Oes gennyf i hawl i gael ad-daliad?

Oes.

C. Oes hawl i gael ad-daliad am bob swmp-restr gyfranddeiliaid clustnodi cyfrannau a brynwyd?

Oes.

C. Oes hawl i gael ad-daliad am unrhyw gynhyrchion swmp cyfranddeiliaid eraill?

Nac oes, dim ond am y swmp-restrau cyfranddeiliaid clustnodi cyfrannau. Rhaid talu ffi statudol am swmp-restrau cyfranddeiliaid eraill.

C. Â phwy ddylwn i gysylltu i gael ad-daliad?

Dylid gwneud cais am bob ad-daliad yn ysgrifenedig, ynghyd â phrawf o’r pryniant, a’i gyfeirio at:

Marie Connors
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

C. A ellir gofyn am y cynnyrch hwn o hyd?

Gellir gofyn am y cynnyrch yn y ffordd arferol ond caiff ei ddarparu am ddim.

C. Â phwy ddylwn i gysylltu os oes gennyf ymholiadau?

Anfonwch neges e-bost at enquiries@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt Tŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500.

Brig
Ein polisi ar gwcis