Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Ad-daliad am gopi o’r Gofrestr Arwystlon

Roedd Tŷ’r Cwmnïau’n arfer cynnig copi o’r Gofrestr Arwystlon ar ein gwasanaethau cynnyrch. Disodlwyd y cynnyrch hwn ar 1 Chwefror 2005 gan y cynhyrchion canlynol:

  • mynegai morgeisiau sydd ar gael yn ddi-dâl ar Companies House Direct (CHD) a thrwy ein Canolfannau Gwybodaeth; a
  • cynnyrch manylion morgeisiau llawn am bob cwmni sydd ar gael am £1.00 ar CHD a thrwy ein Canolfannau Gwybodaeth, neu £3.00 o’n Canolfan Gysylltu

Fodd bynnag daeth i’n sylw bod mynediad i’r hen Gofrestr Arwystlon ar gael o hyd trwy Companies House Direct a’n bod wedi codi tâl ar gwsmeriaid am y gwasanaeth hwn er nad oes ffi statudol amdano.

Rydym bellach wedi dileu mynediad i’r Gofrestr Arwystlon ac mae gan gwsmeriaid a brynodd y cynnyrch hwn rhwng 1 Chwefror 2005 ac 8 Gorffennaf 2012 hawl i ad-daliad o £3.00 am bob copi.

Oes gan yr holl gwsmeriaid a brynodd y cynnyrch hwn yn uniongyrchol oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau rhwng 1 Chwefror 2005 ac 8 Gorffennaf 2012 hawl i ad-daliad?

Oes.

Faint o ad-daliad gaf i?

Cewch ad-daliad o £3.00 am bob copi o’r Gofrestr Arwystlon a brynwyd.

Prynais y cynnyrch hwn oddi wrth gyflenwr sy’n drydydd parti. A gaf i ad-daliad?

Yn anffodus, gan eich bod wedi prynu’r cynnyrch oddi wrth gyflenwr sy’n drydydd parti, ni all Tŷ’r Cwmnïau eich cynorthwyo. Mae angen i chi gysylltu â’r cwmni y prynasoch y wybodaeth oddi wrtho. Dim ond arian a dalwyd i Dŷ’r Cwmnïau y gall Tŷ’r Cwmnïau ei ad-dalu.

Rwyf wedi prynu manylion morgeisiau llawn am gwmni am £1.00. Oes gennyf hawl i ad-daliad?

Nac oes. Yn y bôn cymerodd y cynnyrch manylion morgeisiau le’r Gofrestr Arwystlon ac mae yna ffi statudol am y cynnyrch hwn.

Dim ond am unrhyw gopi o’r Gofrestr Arwystlon a brynwyd rhwng 1 Chwefror 2005 ac 8 Gorffennaf 2012 mae’r ad-daliad ar gael.

Ydi’r copi o’r Gofrestr Arwystlon ar gael o hyd?

Nac ydi. Diddymwyd y gallu i archebu’r cynnyrch darfodedig hwn ar 9 Gorffennaf 2012. Fodd bynnag, gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ganlynol am arwystlon corfforaethol o hyd:

  • mynegai morgeisiau
  • manylion morgeisiau llawn

I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar ein rhestr prisiau ar:

 phwy ddylwn i gysylltu i gael ad-daliad?

Dylid gwneud cais am bob ad-daliad yn ysgrifenedig, gan ei anfon, ynghyd â phrawf pryniant, at:

Craig Baldwin
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

CÂ phwy ddylwn i gysylltu os oes gennyf ymholiad?

Anfonwch neges e-bost at enquiries@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch Ganolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500.

Brig
Ein polisi ar gwcis