Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 
 

Ailgyhoeddi Dogfennau Ardystiedig

O bryd i’w gilydd, mae Tŷ’r Cwmnïau yn cael  ymholiadau gan gwsmeriaid am nad yw’r dogfennau gwreiddiol wedi eu cyrraedd, ac mewn achosion o’r fath gallwn gyhoeddi dogfen amnewid yn lle’r gwreiddiol.

Yn dilyn asesiad o’n proses o ran Dogfennau Ardystiedig Safonol, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi adolygu ei bolisi o ran ceisiadau i ailgyhoeddi’r dogfennau hyn.

Caiff archebion o dan y Gwasanaeth Safonol eu cyflawni cyn pen 4 diwrnod gwaith ar ôl iddynt ddod i law a bydd y dogfennau ar gael i’w dosbarthu trwy’r post (Post Brenhinol Dosbarth 1af neu’r Gyfnewidfa Ddogfennau (DX)) neu i’w casglu o un o swyddfeydd Tŷ’r Cwmnïau ar ôl 4.00pm.

O 1 Mai 2012 ymlaen, dim ond ar y sail ganlynol y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn ystyried ceisiadau am dystysgrifau amnewid:  

  • Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau am dystysgrifau amnewid tan 5 diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi’r gwreiddiol.
  • Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau am dystysgrifau amnewid gan gwmnïau tramor tan 7 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r gwreiddiol.

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau am ailgyhoeddi tystysgrifau a gyhoeddwyd mwy na 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r dystysgrif wreiddiol.

Nid yw’r cyfyngiadau hyn yn effeithio ar y Gwasanaeth Dogfennau Ardystiedig yr Un Diwrnod. Dylai cwsmeriaid y gwasanaeth hwnnw ffonio Canolfan Gymorth Tŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500 os oes unrhyw ymholiadau ganddynt o ran derbyn eu harchebion premiwm.

Brig
Ein polisi ar gwcis