Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Dileu’r consesiwn 14 diwrnod ar gyfer cyfrifon a gaiff eu gwrthod

Yn Ionawr 1993 cyflwynwyd consesiwn yn caniatáu cyfnod gras o 14 diwrnod i gwmnïau sy’n anfon eu cyfrifon yn brydlon ond bod y cyfrifon wedyn yn cael eu gwrthod. Câi’r cwmnïau hyn 14 diwrnod o ddyddiad y llythyr gwrthod i ddiwygio a dychwelyd cyfrifon ar ffurf dderbyniol. Roedd y consesiwn yn gymwys mewn achosion lle byddai cyfrifon yn dod i law ond yn cael eu gwrthod o fewn un amrediad cosbau, a’i hailffeilio o fewn amrediad cosbau uwch.

Roedd adran 706 o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn mynnu bod cwmnïau’n cyflwyno dogfennau ar ddiwyg darllenadwy, gan ganiatáu 14 diwrnod ar ôl dyddiad unrhyw lythyr gwrthod iddynt gael eu hailffeilio.  Does dim darpariaeth yn cyfateb i’r adran hon yn Neddf Cwmnïau 2006 ac felly fe beidiodd y consesiwn 14 diwrnod â bod ar 1 Hydref 2009.

Gan hynny, ni fydd unrhyw gyfrifon sy’n dod i law ar neu wedi 1 Hydref 2009 ac y mae’n rhaid eu dychwelyd i’r cwsmer i’w diwygio yn cael y 14 diwrnod ychwanegol statudol mwyach.

Argymhellwn fod cwmnïau’n gofalu cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau ymhell o flaen yr amser y maen nhw’n ddyledus.  Lle bynnag y bo modd, defnyddiwch ein gwasanaeth WebFiling neu Software Filing i ffeilio gwybodaeth yn electronig. Ar gyfer WebFiling, cadwch mewn cof fod angen cod diogelwch a chod dilysu i gael defnyddio’r gwasanaeth Os nad ydych wedi cofrestru’n barod, caniatewch ddigon o amser i dderbyn y codau hyn.

Gellir cyrchu gwasanaeth WebFiling drwy dudalen hafan gwefan Tŷ’r Cwmnïau yn: www.companieshouse.gov.uk

Brig
Ein polisi ar gwcis