|
Cwmnïau Hawl i Reoli
Cwmnïau Hawl i Reoli yn Lloegr
Mae’n ofynnol i bob Cwmni Hawl i Reoli (RTM) sydd yn Lloegr fabwysiadu’r erthyglau enghreifftiol a nodir yn ‘The RTM Companies (Model Articles) (England) Regulations 2009' (SI 2009/2767) a ddaeth i rym ar 9 Tachwedd 2009. Gydag unrhyw ymholiadau ynghylch defnyddio’r Erthyglau enghreifftiol hyn, cysylltwch â’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ar www.communities.gov.uk/corporate/contact
Cwmnïau Hawl i Reoli yng Nghymru
Mae’n ofynnol i bob Cwmni Hawl i Reoli (RTM) sydd yng Nghymru fabwysiadu’r erthyglau enghreifftiol a nodir yn ‘Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) 2011 (OS 2011/2680)’ a ddaeth i rym ar 30 Tachwedd 2011. Mae’r rheoliadau hyn yn gymwys yn awtomatig i bob cwmni RTM sy’n bodoli eisoes a phob un arfaethedig sydd yng Nghymru o 30 Tachwedd 2011 ymlaen. Gydag unrhyw ymholiadau ynghylch defnyddio’r Erthyglau enghreifftiol hyn, cysylltwch â Llywodraeth Cymru ar Housing&CommunitiesPolicyTeam@wales.gsi.gov.uk |