Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 
 

StartUp Britain

Ymgyrch newydd gan entrepreneuriaid i entrepreneuriaid yw StartUp Britain, a gafodd ei lansio ar 28 Mawrth 2011. Mae wedi’i bwriadu i ddathlu, ysbrydoli a chyflymu menter yn y Deyrnas Unedig, ac mae ganddi gefnogaeth lwyr y Prif Weinidog, y Canghellor, yr Ysgrifennydd Busnes a Llywodraeth ei Mawrhydi.

Pam mae’n bwysig?

Busnesau newydd a chwmnïau bach yw peiriant yr economi a byddant yn hollbwysig i’n hadferiad. Heddiw, mae busnesau bach a chanolig yn gyfrifol am bron 60% o swyddi yn y sector preifat a rhyw 50% o GYC y sector preifat. Mae StartUp Britain wedi’i chynllunio i’w gwneud yn haws i gwmnïau newydd ac arloeseddau ffynnu ac i annog pobl y mae dechrau busnes newydd yn uchelgais ganddynt i weithio iddynt hwy eu hunain. Fel hyn, byddwn yn sicrhau mai hwn fydd degawd yr entrepreneur.

Rhagor o wybodaeth ar StartUp Britain (Saesneg yn unig)

Brig
Ein polisi ar gwcis