|
Lansio Gwiriwr Enwau Cwmni a Nodau Masnach>
[Hydref 2008]
Bydd llawer busnes yn buddsoddi amser ac arian mewn datblygu enwau cwmni newydd a hunaniaethau i gynhyrchion newydd, dim ond i ddarganfod bod gan eraill hawl gyfreithiol i’r enwau. Heddiw, cyhoeddodd Business Link, y gwasanaeth poblogaidd di-dâl sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor busnes, ei fod wedi cyflwyno erfyn ‘gwirio enwau cwmni a nodau masnach’ i’w wefan www.businesslink.gov.uk/nameandtrademark. Mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi perchnogion busnes ac entrepreneuriaid i wirio darpar enwau cwmni a nodau masnach yr un pryd yn erbyn cofrestri Tŷ’r Cwmnïau a Swyddfa Eiddo Deallusol y DG.
Dywedodd Tŷ’r Cwmnïau a Swyddfa Eiddo Deallusol y DG mewn datganiad ar y cyd:
“Os ydych yn lansio cwmni newydd neu’n ehangu busnes lle mae’r enw’n bwysig, bydd yr erfyn pwysig hwn yn caniatáu ichi wirio enwau cwmni a nodau masnach yr un pryd, ac yn eich helpu i osgoi camgymeriadau diangen a chostus. Dyma enghraifft wych o beth y gall llywodraeth gydweithredol ei gyflawni.”
Eglurodd Mark Barber, un o ymgynghorwyr Business Link, fanteision yr erfyn newydd:
“Mae’n bleser mawr gennym fod busnesau bellach yn gallu cyrchu’r gwasanaethau hyn mor gyflym a didrafferth. Mae’r buddion yn amlwg. Ond rwy’n meddwl bod y fantais eu bod wedi’u lleoli ochr yn ochr ag arfau busnes hanfodol eraill a chyngor di-dâl yr un mor bwysig. Bydd o gymorth neilltuol i fusnesau nad oedden nhw’n gwybod o’r blaen am yr holl ganllawiau sydd ar gael. Daeth businesslink.gov.uk yn safle anhepgor i bob busnes.”
Am ragor o wybodaeth a chanllawiau ynghylch dewis enw a nod masnach addas ac unigryw, yn ogystal â’r rheolau a’r rheoliadau y mae angen eu hystyried, galwch heibio i www.businesslink.gov.uk/nameandtrademark . Neu cysylltwch â’ch Business Link lleol ar 0845 600 9 006.
Ynglŷn â Business Link
- Business Link yw’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bob busnes, wedi’i gyllido gan y Llywodraeth.
- Mae Business Link yn cynnig yr wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd angen i gychwyn, cynnal a thyfu busnes.
- Gellir cyrchu Business Link ar-lein yn businesslink.gov.uk neu drwy ffonio’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar 0845 600 9 006.
Gwefan Swyddfa Eiddo Deallusol y DG yw www.ipo.gov.uk
Gwefan Tŷ’r Cwmnïau yw www.companieshouse.gov.uk
Ymholiadau’r Wasg i:
PR4: Jan McGinley neu Caroline Atkinson
firstname@pr4.com / +44 207 637 3845 / 07957 383070
|