Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Seminarau Ar Gyfer Cyfarwyddwyr Newydd eu Penodi

Dyma’r seminar i chi os ydych chi newydd gael eich penodi i Gwmni a’ch bod am ddysgu rhagor am eich rhwymedigaethau o ran Tŷ’r Cwmnïau.

Mae’r seminar yn rhad ac am ddim.

Nod y seminar yw:

  • esbonio’r broses gorffori
  • esbonio’r dulliau rhwydd a diogel o anfon gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau
  • rhoi gwybod i chi am faterion cydymffurfiad Tŷ’r Cwmnïau 
  • rhoi gwybod i chi am y newidiadau i’r Ddeddf Cwmnïau 
  • dangos i chi sut i chwilio am wybodaeth Tŷ’r Cwmnïau a’i defnyddio 

Cewch gyfle hefyd:

  • i gwrdd ag aelodau o dîm Tŷ’r Cwmnïau 
  • i roi cynnig ar ein gwasanaethau ar lein 
  • i gwrdd â chynrychiolyddo’r Swyddfa Eiddo Deallusol

Ar hyn o bryd rydym yn trefnu ein set nesaf o seminarau. Ymuno â’n porthiant RSS neu Twitter i glywed am ddyddiadau newydd.