Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Ein Targedau

Mae gennym nifer o dargedau cwsmeriaid. Dyma’r targedau a gaiff eu hargymell gan y Bwrdd Llywio a’u cymeradwyo gan ein Gweinidogion fel targedau cyhoeddus ffurfiol ar gyfer y flwyddyn. Fe’u bwriedir yn benodol i wella’n safonau ac fe gânt eu hasesu a’u diweddaru bob blwyddyn.

Targedau Cyhoeddus ar gyfer 2006/07

Targedau Cyhoeddus Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer 2006/07 yw:

  • Sicrhau bod y gwasanaethau canlynol: Companies House Direct, WebCheck, a Web-Filing, ar gael am 99% o’r amser rhwng 7 a.m. a chanol nos, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
  • Sicrhau bod 40% o ddogfennau* yn cael eu cyflwyno’n electronig erbyn diwedd 2006/07 a 75% erbyn diwedd 2007/08.
  • Sicrhau, ar gyfartaledd, gyfradd gydymffurfio fisol o 95.5% ar gyfer cyfrifon a gaiff eu cyflwyno.
  • Sicrhau bod 99.5% o’r delweddau a gaiff eu hymgorffori yn system ddelweddau Tŷ’r Cwmnïau yn ddarllenadwy.
  • Gwireddu gostyngiad o 10% mewn termau real ar gyfer 2007/08 o’i chymharu â 2004/05, o ran cost pob uned o fewn amrywiaeth y trafodion sy’n cwmpasu cofrestru, chwiliad cwmnïau a maint gweithredol y gofrestr.
  • Gwireddu sgôr o fwy na 85% o dan bob Arolwg Chwarterol o Foddhad Cwsmeriaid Tŷ’r Cwmnïau.
  • Bodloni 97% o gwynion o fewn pum diwrnod.

Targedau Llywodraeth Ganolog

 Dyma’r targedau sy’n gyffredin i asiantaethau gweithredol eraill 

  • Gwireddu elw, ar gyfartaledd o flwyddyn i flwyddyn, o 3.5% o safbwynt y gwarged gweithredu wedi’i fynegi fel canran o’r asedion net cyfartaleddol.
  • Talu pob bil o fewn 30 diwrnod, neu yn unol ag amodau credyd cytûn eraill, wrth dderbyn nwyddau neu wasanaethau neu anfoneb ddilys, p’un bynnag sy’n dod i law olaf.
  • Y Prif Weithredydd i ateb o fewn 10 diwrnod bob llythyr gan Aelod Seneddol a gaiff ei ddirprwyo i’w sylw.

* mae dogfen yn drafodyn unigol y gall cwmni ei drefnu gyda Thŷ’r Cwmnïau i gyflwyno neu gofrestru gwybodaeth

Brig
Ein polisi ar gwcis