Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Eithrio rhai cwmnïau cyfryngu ariannol rhag y gofynion archwilio

Unwaith eto, gall cwmnïau bach sy’n gweithredu’n gyfryngwyr ariannol ac yn dilyn gweithgareddau fel trefnu neu gynghori ynghylch morgeisiau neu gynnig cymodi yswiriant cyffredinol, ddewis creu cyfrifon heb eu harchwilio’n ffurfiol. Mae hyn yn dibynnu ar fod ganddynt drosiant busnes o £5.6 miliwn neu lai, cyfanswm mantolen o £2.8 miliwn neu lai ac ar eu cymhwyster fel arall fel cwmnïau bach oni bai am eu gweithgareddau rheoleiddiedig.

Daethpwyd â’r cwmnïau hyn o fewn cwmpas Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn Hydref 2004 ac Ionawr 2005, er i’r sefyllfa gael ei gwrthdroi o 5 Medi 2005 ymlaen.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd wedi’i chynnwys yn rheoliadau 13 a 17 o Reoliadau Deddf Cwmnïau 1985 (Cwmnïau Buddsoddi a Diwygiadau Cyfrifeg ac Archwilio Ariannol) 2005 (OS 2005/2280).

Brig
Ein polisi ar gwcis