|
Deddf Enwau Cwmni a Busnes (Siambrau Masnach, Etc.) 1999
Arweiniad a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol
Mewn grym er 10 Mai 2001
Cyflwyniad
Mae Deddf Enwau Cwmni a Busnes (Siambrau Masnach, Etc.) 1999 (“Deddf 1999”) yn delio â chymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o enwau cwmnïau neu fusnesau sy’n cynnwys yr ymadrodd “siambr fasnach” a/neu ymadroddion cysylltiedig. Dan adrannau 2(2) a 3(2) Deddf 1999, gall yr Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi arweiniad ynghylch ffactorau y gall eu hystyried wrth benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth i ddefnyddio enw o’r fath. Mae’r llyfryn hwn yn nodi’r arweiniad hwnnw.
1. Cefndir cyfreithiol
Mae Adran 29 Deddf Cwmnïau 1985 yn nodi bod yn rhaid cael cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer enwau cwmnïau sy’n cynnwys geiriau neu ymadroddion arbennig, cyn y gellir eu cofrestru. Mae Adrannau 2 a 3 Deddf Enwau Busnes 1985 yn gosod gofyniad tebyg o ran cymeradwyo enwau busnes i’w defnyddio ym Mhrydain.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch defnyddio enwau cwmni a busnes trwy droi at lyfrynnau canllaw Tŷ’r Cwmnïau, "Enwau Cwmni" (GBF2) ac "Enwau Busnes"(GBF3) . Nodir manylion y geiriau neu’r ymadroddion dan sylw yn Rheoliadau Enwau Cwmni a Busnes 1981 fel y’u diwygiwyd. *
Mae Adran 1 Deddf 1999 yn mynnu bod y Rheoliadau Enwau Cwmni a Busnes yn cael eu diwygio i bennu’r ymadrodd “siambr fasnach” a’i fersiwn Saesneg cyfatebol, “chamber of commerce”. Mae hyn bellach wedi cael ei wneud trwy gyfrwng Rheoliadau Enwau Cwmni a Busnes (Diwygiad) 2001, sy’n nodi nifer o ymadroddion cysylltiedig hefyd, a’u teitlau cyfatebol yn y Gymraeg. Yma, nodir rhestr lawn o’r ymadroddion a nodwyd:
- Siambr Fusnes neu Siambrau Busnes (neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn, Chamber(s) of Business).
- Siambr Fasnach neu Siambrau Masnach (neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn, Chamber(s) of Commerce).
- Siambr(au) Masnach a Diwydiant (neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn, Chamber(s) of Commerce and Industry).
- Siambr(au) Masnach, Hyfforddiant a Menter (neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn, Chamber(s) of Commerce, Training and Enterprise).
- Siambr Fenter neu Siambrau Menter (neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn, Chamber(s) of Enterprise).
- Siambr Ddiwydiant neu Siambrau Diwydiant (neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn, Chamber(s) of Enterprise).
- Siambr Fasnach neu Siambrau Masnach (neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn, Chamber(s) of Trade).
- Siambr(au) Masnach a Diwydiant (neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn, Chamber(s) of Trade and Industry).
- Siambr(au) Hyfforddiant (neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn, Chamber(s) of Training).
- Siambr(au) Hyfforddiant a Menter (neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn, Chamber(s) of Training and Enterprise).
2. Sut i wneud cais am gymeradwyaeth i enw sy’n cynnwys yr ymadrodd “siambr....” (neu’r fersiwn Saesneg)
Os ydych yn dymuno defnyddio enw cwmni neu fusnes sy’n cynnwys unrhyw rai o’r ymadroddion a restrwyd, dylech anfon cais ysgrifenedig i:
| (ar gyfer cwmnïau a busnesau yng Nghymru a Lloegr): |
(ar gyfer cwmnïau a busnesau yn yr Alban): |
Adran Cwmnïau Newydd
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050
Caerdydd
|
The Registrar of Companies
Companies House
4th Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF
neu
LP - 4 Edinburgh 2 (Legal Post)
neu
DX ED235 Edinburgh 1
|
Rhaid cynnwys y canlynol gyda chais i ddefnyddio ymadrodd rhestredig:
- copi o gyfansoddiad y corff, sy’n bodoli eisoes, neu ei gyfansoddiad arfaethedig;
- unrhyw dystiolaeth i gefnogi’ch cais, yr ydych yn dymuno’i darparu ac sy’n ymwneud â’r ffactorau a restrwyd ym mharagraff 3 – er enghraifft, tystiolaeth o gefnogaeth y gymuned fusnes berthnasol.
3. Pa ffactorau y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn eu pwyo a’u mesur wrth ystyried cais am gymeradwyaeth?
Mae Deddf 1999 yn mynnu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymgynghori â Siambrau Masnach Prydain neu Siambrau Masnach Yr Alban, neu’r ddau, pan fydd yn ystyried cais i ddefnyddio enw sy’n cynnwys un o’r ymadroddion a restrwyd. Gofyniad sylfaenol yn unig yw hwn, felly gall yr Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori’n ehangach neu ystyried cyflwyniadau diwahoddiad gan bartïon sydd â diddordeb.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried pob cais yn ôl ei haeddiant, ond bydd yn ystyried y canlynol bob amser:
- Diben Siambr – Rhaid i Siambr:
- wasanaethu a hyrwyddo buddiannau’r gymuned fusnes mewn unrhyw fan, ardal neu sector a ddynodir gan yr enw
- darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r gymuned fusnes berthnasol;
- cyflawni, neu annog aelodau i gyflawni, gweithgareddau ar y cyd a threfniadau ar gyfer cymorth ar y cyd a hyrwyddo buddiannau’r gymuned fusnes honno.
- Cyfansoddiad y Siambr -
- os yw’n gorff corfforaethol;
- os yw’n gwmni wedi ei gyfyngu trwy warant dan Ddeddf Cwmnïau 1985;
- os yw cyfansoddiad y corff yn atal talu difidendau i’w aelodau ac yn darparu bod unrhyw elw’n cael ei ddefnyddio i hyrwyddo amcanion y Siambr;
- os yw cyfansoddiad y corff yn diogelu ei natur gynrychioliadol, yn gyfartal o ran ei holl aelodau, ac nad yw’n caniatáu iddo gael ei reoli gan un aelod neu grŵp o aelodau;
- os yw cyfansoddiad y corff yn sicrhau mai dim ond un bleidlais sydd gan bob aelod ac os oes prosesau cywir er mwyn i’r aelodau ethol y bwrdd/pwyllgor;
- os yw’r cyfansoddiad yn darparu ar gyfer cynrychiolaeth busnesau mewn ardal benodol ac, os felly, a yw’r ardal ddaearyddol honno’n cael ei chynnwys yn enw’r cwmni neu’r busnes ac a yw’r Siambr yn gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu, yn yr ardal honno.
- Annibyniaeth – a yw’r Siambr yn annibynnol ar y Llywodraeth (genedlaethol neu leol) ac yn annibynnol ar unrhyw gorff arall nad yw’n Siambr (er enghraifft, a yw’n is-gwmni neu’n is-adran corff arall).
- Ei natur gynrychioliadol – a yw’r Siambr yn cynrychioli’r gymuned fusnes y’i ffurfiwyd ar ei rhan, yn llawn, gan adlewyrchu natur y gymuned honno (a allai fod yn gymuned benodol iawn).
- Lleoliad daearyddol – Os bydd enw darpar Siambr yn cynnwys disgrifydd daearyddol, bydd ystyriaethau arbennig yn weithredol gan ddibynnu ar pa un ai ei nod yw:
- cynrychioli un ardal ddaearyddol ac os felly, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno cadarnhau y bydd y Siambr yn llwyr gynrychioliadol o’r holl fusnes yn yr ardal honno; neu
- hyrwyddo masnach rhwng dwy ardal ar wahân ac os felly, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno cadarnhau y bydd yn gwneud hynny.
Cofiwch: Nid yw’n anochel mai un Siambr yn unig a fydd yn cael bodoli mewn unrhyw ardal neu ranbarth. Yr hyn sy’n bwysig yw bod Siambrau’n cyflawni’r nodweddion hanfodol a’r dibenion a amlinellwyd uchod.
4. Yr hyn i’w wneud os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol
Os nad ydych yn fodlon â phenderfyniad i gymeradwyo neu gofrestru enw Siambr ac os ydych yn dymuno i’r penderfyniad gael ei ailystyried, dylech ysgrifennu, gan nodi’ch rhesymau ac unrhyw dystiolaeth newydd, at
(ar gyfer cwmnïau a busnesau yng Nghymru a Lloegr):
Yr Ysgrifennydd Gwladol
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
(ar gyfer cwmnïau a busnesau yn yr Alban):
The Secretary of State
Companies House
4th Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF
neu
LP - 4 Edinburgh 2 (Legal Post)
neu
DX ED235 Edinburgh 1
5. Cyfeiriadau defnyddiol eraill
British Chambers of Commerce
Manning House
22 Carlisle Place
London
SW1P 1JA
Ffôn: 020 7565 2000/ 2011
Scottish Chambers of Commerce
12 Broughton Street
Edinburgh
EH1 2RX
Ffôn: 0131 477 7000
* O.S. 1981/1685 fel y’i diwygiwyd gan Offerynnau 1982/1653, 1992/1196,1995/3022 a 2001/259
|