Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 
Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnïau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnïau
Llyfrgell
Canllaw
Dogfennau Polisi
Amrywiol


Dileu Dogfennau o’r Gofrestr Gyhoeddus

Gwelwyd cynnydd yn ddiweddar yn y nifer o geisiadau a gawn am i ddogfennau gael eu dileu o’r gofrestr gyhoeddus. Teimlem y gallai fod o gymorth pe baem yn egluro’n hagwedd at hyn yn sgil gweithredu Deddf Cwmnïau 2006.

O dan Ddeddf Cwmnïau 2006, mae gan y Cofrestrydd ddau bŵer i ddileu dogfennau:

  • dileu o’r gofrestr yn weinyddol (adran 1094), ac
  • unioni’r gofrestr (adran 1095 a Rheoliadau’r Cofrestrydd Cwmnïau a Cheisiadau am Ddileu 2009)

O dan adran 1094, gall y Cofrestrydd ddileu’n weinyddol o’r gofrestr:

  • ddeunydd diangen, neu
  • ddeunydd yn deillio o ddogfen a gafodd ei disodli oherwydd methiant i’w chyflwyno’n briodol neu un a gafodd ei disodli yn sgil hysbysiad anghysondeb

Mae dau derfyn amlwg i bŵer y Cofrestrydd i ddileu deunydd o dan adran 1094. Ni all ddileu o’r gofrestr unrhyw beth y bu raid iddo ei dderbyn, na deunydd yr oedd i’w gofrestriad ganlyniadau cyfreithiol gyda golwg ar y cwmni neu’r PAC.

Yn ail, o dan adran 1095 nad yw’n cwmpasu ond deunydd neilltuol wedi’i bennu yn Rheoliadau’r Cofrestrydd Cwmnïau a Cheisiadau am Ddileu 2009, ac nad yw’n ei gwneud yn bosib dileu’r deunydd ond yn yr amgylchiadau canlynol:

  • ei fod yn deillio o rywbeth oedd yn annilys neu’n aneffeithiol, neu a wnaed heb awdurdod y cwmni neu’r PAC; neu
  • ei fod yn ffeithiol anghywir neu’n deillio o rywbeth sy’n ffeithiol anghywir neu a gafodd ei ffugio.

Mae’r broses hon yn caniatáu i‘r Cofrestrydd ddelio, er enghraifft, â herwgipio cwmnïau neu ac â deunydd anwir lle mae’r mater yn un syml a di-wrthwynebiad. Ystyr herwgipio cwmni yw lle bo pobl ddiawdurdod yn ffeilio dogfennau gan newid, er enghraifft, y cyfarwyddwyr a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig - a hynny, yn debyg iawn, at ddibenion troseddol.

Am ragor o fanylion am yr uchod a gwybodaeth am sut i wneud cais, trowch at ein canllaw Rheolau a Phwerau’r Cofrestrydd.

Brig
Ein polisi ar gwcis