|
|
Llofnodi Dogfennau Mewn rhai achosion, bu inni wrthod dogfennau’n dwyn llofnodion o’r fath, gan ofyn am lofnod gwreiddiol. Mewn achosion eraill, cawsant eu derbyn. Ceisiasom farn Cwnsler. Mae hon yn cadarnhau ei bod yn dderbyniol i unigolyn awdurdodi eraill i osod ei lofnod ar ddogfennau penodol, a’r rhagdybiaeth yw y câi hyn ei wneud o dan amodau a gytunwyd gan y bobl sy’n chwarae rhan. Yn Nhŷ’r Cwmnïau derbyniwn ddogfennau â phob ymddiriedaeth gan nad yw yn aml yn bosibl, ac ni fyddai ychwaith bob amser yn dderbyniol, i ddilysu’r cynnwys. Yng ngoleuni barn y Cwnsler ac anhawster cynyddol gwahaniaethu rhwng llofnod gwreiddiol ac un sydd wedi’i greu’n awtomataidd, daethom i’r casgliad y byddai’n rhesymol trin y ddau fath o lofnod yn yr un modd. Byddwn, felly, yn derbyn â phob ymddiriedaeth fod dogfennau a gyflwynir i’w ffeilio ac arnynt lofnodion a grewyd yn awtomataidd wedi cael eu cymeradwyo’n briodol gan y llofnodydd. Ni fyddwn mwyach yn gwrthod dogfennau am y rheswm syml nad yw’n ymddangos bod y llofnod yn wreiddiol. Nid yw’r newid polisi hwn yn ymestyn i dderbyn dogfennau dros beiriant ffacs. Am wybodaeth bellach, cysylltwch ein hadran ymholiadau enquiries@companies-house.gov.uk |
||