|
Polisi Tŷ’r Cwmnïau ar Reoli Straen
Datganiad Polisi
Mae cynnal amgylchedd gwaith sy’n iach ac yn ddiogel i’w weithwyr yn uchel iawn ar restr gwerthoedd Tŷ’r Cwmnïau ac mae’n cydnabod bod ei ddyletswydd gofal yn ymestyn i ofal meddyliol yn ogystal â iechyd corfforol yn y gweithle. Mae’n ymrwymedig i ddarparu amgylched gwaith cefnogol sy’n cynnal ac yn hyrwyddo iechyd a lles pob un o’i weithwyr. Rydym yn ymrwymedig i weithredu polisi rheoli straen ar gyfer pob un o’r gweithwyr yn y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys gwella amgylchedd y sefydliad drwy reolaeth effeithiol a chyson; galluogi unigolion i ymdopi yn llwyddiannus â’u gwaith; a rhoi cymorth i weithwyr y mae straen yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles.
Nodau’r Polisi
- Rheoli’r ffactorau a all arwain at lefelau gormodol neu barhaus o straen yn y gweithle a’u cadw dan reolaeth drwy reolaeth effeithiol a chyson.
- Datblygu arferion gweithio sy’n lleihau’r ffactorau a all arwain at straen yn y gweithle.
- Datblygu gweithdrefnau i reoli problemau sy’n codi ac i roi cymorth i unigolion sy’n dioddef straen.
- Ennyn ymwybyddiaeth o straen a’r dulliau o fynd i’r afael â straen.
- Ennyn ymwybyddiaeth o rolau a chyfrifoldebau pobl o ran rheoli straen e.e.:
- Y Pwyllgor Gwaith
- Rheolwyr
- Arweinyddion Tîm
- Cwnsleriaid Staff
- Rheolwyr Personnel
- Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch
- Ochr yr Undebau Llafur
- Aelodau unigol o staff
- Cynorthwyo staff i reoli straen ynddynt eu hunain ac mewn eraill.
- Sicrhau bod cyfathrebu cyson yn digwydd rhwng unrhyw aelod sy’n absennol o’r gwaith am gyfnod hir a Thŷ’r Cwmnïau i alluogi’r sefydliad roi gymaint o gymorth â phosibl ac sy’n berthnasol i gynorthwyo’r gweithiwr i wella ac, yn y pen draw, i ddychwelyd i’r gwaith.
- Monitro gweithdrefnau a chanlyniadau, ac asesu pa mor effeithiol yw’r polisi.
Diffinio Straen
Straen yw’r hyn y mae unigolion yn ei deimlo pan fyddant yn cael anhawster i ymdopi â’r pwysau a’r galwadau sydd arnynt. Mae rhywfaint o bwysau yn y gwaith yn anorfod. Nid yw cael gwared ar bwysau yn gyfan gwbl yn bosibl nac yn ddymunol ond mae’n bwysig nad yw’r pwysau hwn yn datblygu yn straen sy’n gysylltiedig â’r gwaith.
Gall pwysau ddeillio o fywyd personol unigolyn yn ogystal ag o’r gwaith, ac mae pobl yn amrywio yn eu gallu a pha mor gymwys ydynt i ymdopi â gwahanol fathau o straen. Bydd rhai unigolion yn cydnabod bod y straen yn effeithio ar eu hiechyd a byddant yn ceisio cael cymorth a chefnogaeth. Ar y llaw arall ni fydd eraill yn sylweddoli nac yn cydnabod eu bod dan straen, er y bydd hynny’n amlwg i’w rheolwr a’u cydweithwyr. Er nad yw straen ynddo’i hun yn salwch, mae tystiolaeth yn dangos y gall straen arwain i salwch meddyliol a salwch corfforol.
Strategaethau ar gyfer Delio â Straen
1 Mesurau ataliol ar lefel y sefydliad
Byddwn yn:
- Hyrwyddo diwylliant o ymgynghori, cyfranogi a chyfathrebu agored ar draws y sefydliad.
- Rhoi cyngor a chefnogaeth i reolwyr i’w helpu i glustnodi tasgau neu strwythurau a all achosi straen.
- Datblygu rhaglen i hyrwyddo sgiliau da o ran rheoli ac adeiladu tîm ymhlith y rhai sydd â chyfrifoldebau rheoli ac arwain tîm.
- Sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei sefydlu, ei hyfforddi a’i ddatblygu ar gyfer ei swydd, a hefyd, drwy’r broses PDR, yn cael adborth rheolaidd ar eu cynnydd yn y gwaith.
- Ennyn ymwybyddiaeth ymhlith rheolwyr a gweithwyr ynglŷn â straen a’r hyn sy’n achosi straen.
- Rhoi cyfle i weithwyr gynnal a hyrwyddo eu hiechyd a’u lles.
2 Clustnodi a Rheoli
Byddwn yn:
- Sicrhau bod pob gweithiwr yn gwybod am Bolisi Tŷ’r Cwmnïau ar Reoli Straen
- Sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r holl weithwyr am ymwybyddiaeth straen a rheoli straen fel eu bod yn fwy abl i ymdopi â’r pwysau sydd arnynt ac yn gallu sylweddoli beth yw straen pan fydd yn digwydd iddynt hwy ac i eraill.
- Rheoli pwysau a all effeithio ar weithwyr drwy ragweld problemau sy’n debygol o godi a chymryd camau i leihau effeithiau hynny.
3 Mesurau i Gefnogi Gweithwyr
Bydddwn yn:
- Rhoi cymorth drwy’r Gwasanaeth Cwnsela Staff i weithwyr sy’n dioddef straen.
- Rhoi canllawiau i reolwyr ynglŷn ag addasu gwaith y gweithwyr hynny sy’n dioddef straen e.e. adolygu cyfrifoldebau gwaith; trefniadau dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb salwch.
- Darparu amrediad o gyrsiau rheoli straen gan gynnwys sesiynau ar reoli amser, magu hyder, a delio â sefyllfaoedd anodd.
- Darparu cyfleusterau ar gyfer amrediad o raglenni iechyd a ffitrwydd gan gynnwys therapïau ymlacio, a’u hyrwyddo’n frwd.
4 Monitro
Bydddwn yn:
- Monitro lefelau straen a’r absenoldebau oherwydd straen gan dalu sylw i’r angen am gadw gwybodaeth yn gyfrinachol.
- Bob chwe mis byddwn yn cyflwyno ystadegau ar absenoldebau oherwydd straen a digwyddiadau a gofrestrwyd sy’n gysylltiedig â straen i’r Pwyllgor Gwaith ac i ochr yr Undebau Llafur, am drafodaeth bellach a dadansoddiad i sicrhau mewnbwn ar y lefel uchaf ar faterion rheoli straen.
- Bob blwyddyn, neu ynghynt os bydd angen, byddwn yn gwneud adolygiad Iechyd a Diogelwch o’r Adroddiadau Asesu Risg i fonitro a rheoli ffactorau andwyol.
- Datblygu gweithdrefn adrodd i roi adborth i’r Pwyllgor Gwaith, i’r Grŵp Rheoli ac i Ochr yr Undebau Llafur ar effeithiolrwydd y polisi.
5 Diffiniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Mae Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn diffinio straen sy’n gysylltiedig â gwaith fel “adwaith andwyol y mae pobl yn ei gael o ganlyniad i ormod o alwadau neu bwysau syn digwydd pan fydd pobl yn ceisio ymdopi â thasgau, cyfrifoldebau neu fathau eraill o bwysau sy’n gysylltiedig â’u gwaith, ond yn cael anhawster, straen neu bryder o wneud hynny ".
|