Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Yr Her Lleihau Biwrocratiaeth

Nod yr Her Lleihau Biwrocratiaeth lleihau’r baich rheoleiddiol trwy gwtogi ar y stoc o reoliadau sy’n bodoli eisoes. Mae’r llywodraeth wedi sefydlu gwefan (Saesneg yn unig) er mwyn galluogi’r cyhoedd i gynnig eu mewnbwn yn hyn o beth. 

Mae tua 120 o reoliadau sy’n ymwneud â’r gyfraith cwmnïau a masnachol. Cewch gyflwyno sylwadau ar y rhain ar unrhyw adeg yn ystod dwy flynedd yr Her Lleihau Biwrocratiaeth, ond byddwn ni’n canolbwyntio – neu’n hoelio sylw – ar y rheoliadau sy’n ymwneud â chwmnïau am gyfnod o dair wythnos sy’n cychwyn ar 26 Ionawr.

Hoffai’r llywodraeth glywed:

  • eich barn am sut y gallwn ni wella’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer y gyfraith cwmnïau er mwyn cynnal twf yn economi’r DU
  • eich sylwadau am unrhyw un o’r rheoliadau a gyhoeddwyd yn sgil yr ymatebion a roddwyd i’r cwestiynau uchod mewn perthynas â thema’r gyfraith cwmnïau a masnachol
  • unrhyw awgrymiadau eraill sydd gennych i wella’r fframwaith a lleihau’r baich ar y byd busnes, wrth sicrhau bod trafodion cwmnïau yn dryloyw.

Cewch ymateb i’r cwestiynau hyn a chyflwyno sylwadau am reoliadau penodol ar wefan yr Her Lleihau Biwrocratiaeth.(saesneg yn unig)

Brig
Ein polisi ar gwcis