|
|
Tŷ’r Cwmnïau a SIC 2007 Defnyddir Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) y Deyrnas Unedig o Weithgareddau Economaidd i ddosbarthu sefydliadau busnes ac unedau safonol eraill yn ôl y math o weithgarwch economaidd maent yn ymwneud ag ef. Mabwysiadodd y Deyrnas Unedig y fersiwn newydd o’r codau hyn (SIC 2007) o 1af Ionawr 2008 ymlaen. Mae’r hysbysiad Cwestiwn ac Ateb hwn yn esbonio pam ein bod ni’n rhoi codau SIC 2007 yn lle codau SIC 2003 i gwmnïau eu defnyddio wrth nodi eu prif weithgarwch busnes. 1. Beth yw SIC 2007? Dyma’r fersiwn ddiweddaraf o’r Dosbarthiad Diwydiannol Safonol a ddiwygiwyd diwethaf yn 2003. Dosbarthiad rhifiadol ydyw y mae Tŷ’r Cwmnïau wedi’i fabwysiadu er mwyn nodi prif weithgareddau busnes cwmnïau, y mae’n ofynnol eu datgan ar y ffurflen flynyddol (ffurflen AR01) bob blwyddyn. Mabwysiadodd y Deyrnas Unedig y system ddosbarthu newydd ar 1af Ionawr 2008. 2. Pryd mabwysiadodd Tŷ’r Cwmnïau SIC 2007? Gwnaethom fabwysiadu SIC 2007 o 01 Hydref 2011 ymlaen. Mae’n ofynnol i gwmnïau newid eu cod SIC i’r dosbarthiad diweddaraf (SIC 07) wrth ffeilio eu ffurflen flynyddol gyda dyddiad diwallu o 1af Hydref 2011 ymlaen. 3. Beth yw’r newidiadau i’r wybodaeth ar y Ffurflen Flynyddol sy’n ofynnol yn Rheoliadau Deddf Cwmnïau 2006 (Ffurflenni Blynyddol) 2011? Yn y rheoliadau newydd ceir newidiadau i’r manylion cyfranddeiliaid sy’n ofynnol ar y ffurflen flynyddol gyda dyddiad diwallu o 1af Hydref 2011 neu hwyrach. Gellir eu crynhoi fel a ganlyn: Ar gyfer ffurflenni gyda dyddiad diwallu o 1af Hydref 2011 neu hwyrach: a) Rhaid i gwmnïau nad yw eu cyfrannau wedi cael eu derbyn ar unrhyw adeg i’w masnachu ar farchnad berthnasol ddarparu ‘rhestr lawn’ o'r holl gyfranddeiliaid ar y ffurflen flynyddol gyntaf ar ôl eu corffori; ac wedi hynny ar bob trydedd ffurflen flynyddol. Bydd unrhyw fanylion trosglwyddo cyfrannau sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn yn ofynnol ar gyfer ffurflenni blynyddol yn y ddwy flynedd arall b) Rhaid i gwmnïau y mae unrhyw rai o’u cyfrannau wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol ddarparu enwau a chyfeiriadau cyfranddeiliaid sy’n dal 5% neu fwy o gyfalaf cyfrannau dyroddedig y cwmni fel ar ddyddiad diwallu’r ffurflen bob blwyddyn. Mae'r Rheoliadau'n dileu'r gofyniad am restr lawn bob trydedd flwyddyn ac i fanylion trosglwyddo cyfrannau sydd wedi digwydd gael eu dangos ar ffurflenni blynyddol yn y ddwy flynedd arall. c) Nid oes angen i gwmnïau y mae unrhyw rai o’u cyfrannau wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol drwy gydol cyfnod y ffurflen ac a oedd yn ddarostyngedig i’r Rheolau Hysbysu Deiliaid a Dyroddwyr Pleidleisiau a geir ym Mhennod 5 o’r llyfr ffynhonnell Rheolau Datgelu a Thryloywder a gyhoeddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (DTR5) drwy gydol cyfnod y ffurflen ddarparu manylion y cyfranddeiliaid. Ers mis Medi 2010 mae’r holl brif hysbysiadau am gyfranddeiliaid sy’n ofynnol o dan y Rheolau Datgelu a Thryloywder wedi bod ar gael ar lein ar y Mecanwaith Storio Cenedlaethol ; mae hyn yn golygu nad oes budd cyhoeddus arwyddocaol mwyach i Dŷ’r Cwmnïau gadw gwybodaeth hanesyddol am ddaliadau cyfranddeiliaid mawr cwmnïau sy’n ddarostyngedig i’r Rheolau Datgelu a Thryloywder. 4. Ar wahân i’r Ffurflen Flynyddol, oes yna ffurflenni eraill y dylid defnyddio SIC 2007 arnynt ar ôl 01 Hydref 2011? Dylid defnyddio’r codau SIC 2007 newydd hefyd ar y ffurflenni canlynol; SE FM01, SE FM02, SE FM03, SE FM04, SE FM05, SE TR02, ac SE TR03 5. Ble allaf i gael mwy o wybodaeth am SIC 2007? Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol Neu gallwch gysylltu â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol trwy e-bost: classifications.helpdesk@ons.gov.uk |
||