Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Aelodau Bwrdd Llywio

Andrew Summers CMG – Cadeirydd Bwrdd Llywio Tŷ’r Cwmnïau

Andrew Summers CMG - Cadeirydd Bwrdd Llywio Tŷ’r Cwmnïau

Mae Andrew yn gweithio mewn nifer o rolau anweithredol sy’n cynnwys Cadeirydd Cala Social Capital, Cadeirydd Design Partners, y corff diwydiant/llywodraeth sy’n cefnogi cwmnïau dylunio’n rhyngwladol, a Chyfarwyddwr Ramboll, ymgynghoriaeth beirianneg o fri. Mae hefyd yn Gadeirydd Ysgol Fusnes Westminster ac yn aelod o gyngor King’s College, Llundain. Mae ef wedi bod yn Gadeirydd annibynnol Bwrdd Llywio Tŷ’r Cwmnïau ers 2007.

Bu’n Brif Weithredydd gyda’r Cyngor Dylunio tan 2003 a chyn hynny bu’n dal llawer o safleoedd uchel mewn amrywiol gwmnïau, gan gynnwys Rheolwr-Gyfarwyddwr gyda Sharwoods ac RHM Foods a Phrif Weithredydd cyntaf y Fenter Siarter Reoli. Mae ei rolau llywodraeth wedi cynnwys aelodaeth o fwrdd y Gwasanaeth Busnesau Bach a Masnach Prydain Rhyngwladol a chadeirydd y Pwyllgor Masnach Ewropeaidd. Dyfarnwyd CMG iddo fe yn 2001 am ei waith yn hybu dylunwaith y DU yn rhyngwladol.

Yn ôl i'r brig
Peter Wyman

Peter Wyman

Mae gan Peter Wyman bortffolio helaeth o benodiadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus ac yn y trydydd sector, sy’n cynnwys bod yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Sefydledig Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Ardal Yeovil, Cadeirydd Sir Richard Sutton's Settled Estates, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Pasco Risk Management, Uwch Ymgynghorydd i Albright Stonebridge Group LLC, Cadeirydd Sefydliad Cymunedol Gwlad yr Haf a Thrysorydd Prifysgol Caerfaddon.

At hynny, bu Peter yn un o bartneriaid PricewaterhouseCoopers LLP rhwng 1978 a 2010. Ei rôl ddiweddaraf oedd Arweinydd Byd-eang y cwmni dros Bolisi Cyhoeddus a Materion Rheoleiddio. Yn 2002/03 bu Peter yn Llywydd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr a bu’n Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol y Sefydliadau Cyfrifeg hefyd. Yn 2006, enillodd CBE yn anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei wasanaeth i’r proffesiwn cyfrifeg.

Yn ôl i'r brig
Nicky Alberry

Nicky Alberry

Cafodd Nicky ei phenodi i’r Bwrdd Llywio yn Ionawr 2009.

Gydag HSBC y dechreuodd ei gyrfa ond mae wedi gweithio’n helaeth ym myd cefnogaeth fusnes a datblygiad economaidd dros y 20 mlynedd diwethaf.

Mae’n Gadeirydd i Business West, corff arweinyddiaeth a datblygiad economaidd wedi’i seilio yn y De-orllewin. Mae Nicky hefyd yn Gadeirydd o Influence, Partneriaeth Economaidd Swindon, ac yn Aelod o Ffwrdd newydd ei sefydlu, Local Enterprise Partnership for Swindon and Wiltshire. Mae’n Ddirprwy Raglaw Wiltshire ac yn gysylltiedig â nifer o gymunedau a chymdeithasau gwirfoddol yn y wlad.

Yn ôl i'r brig
Sheila Doyle

Sheila Doyle

Penodwyd Sheila i’r bwrdd llywio yn Ionawr 2010.

Mae ganddi brofiad helaeth ym myd busnes, gan arbenigo mewn rheoli ym maes TG, alinio strategol a chyflwyno rhaglenni cymhleth. Mae hi wedi gweithio mewn sawl swydd uwch, gan weithredu ar fwrdd cwmnïau blaenllaw gan gynnwys BP, IBM a Deutsche Bank. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn Hong Kong, Singapore ac Awstralia yn cynghori cwmnïau ariannol a gweithgynhyrchu rhanbarth Asia a’r Môr Tawel. Yn fwy diweddar, mae Sheila wedi canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i hwyluso’r gwasanaethau a ddarperir i gwsmeriaid a dod â thechnoleg y busnes i mewn i’r oes ddigidol.  

Cwblhaodd Sheila ei doethuriaeth yn Awstralia cyn dychwelyd i Lundain gyda’i theulu.
Yn ôl i'r brig
Richard Carter

Richard Carter

Mae Richard Carter ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr yr Adran Ymgylchedd Busnes BIS, lle mae’n gyfrifol am y gyfraith gwmnïau, rheolaeth a safonau cyfrifeg ac archwilio ariannol, a Gwell Rheoleiddio.

Gyrfa gwas sifil a ddilynir ganddo erioed ac mae wedi dal nifer o swyddi uchel yn y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys dau gyfnod blaenorol yn gweithio ar faterion cyfraith cwmni. Cyn ymuno â CLG, roedd ef yn Gyfarwyddwr o BIS: Cyfarwyddiad Swyddi Newydd Diwydiant Newydd.

Yn ôl i'r brig

Cylch Gwaith Bwrdd Lliwio Tŷ’r Cwmniau (PDF 105K)

Cylch Gwaith Pwyllgor Archwilio Tŷ’r Cwmniau (PDF 117K)

Brig
Ein polisi ar gwcis