Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Caffael a Chontractau

Gwariant blynyddol Tŷ’r Cwmnïau ar nwyddau a gwasanaethau trydydd partïon yw tua £40m. Mae’r anghenion hyn yn amrywio o gynhyrchion deunydd ysgrifennu i wasanaethau TG rheoledig cymhleth.

Cliciwch yma i weld Strategaeth Gaffael Tŷ’r Cwmnïau

Mae Tŷ’r Cwmnïau, fel awdurdodau llywodraeth ganolog eraill yn ogystal â llawer corff arall yn y sector cyhoeddus, yn ddarostyngedig i Reolau neu Gyfarwyddebau Ewropeaidd. Mewn gwirionedd, mae’r rhain bellach yn rhan o gyfraith y DU a byddant yn llywio’r ffordd y cawn ein rhwymo i brynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Maent o bwys neilltuol pan amcangyfrifir bod cost yr eitemau sydd i’w prynu yn mynd dros drothwyon gwerth yr UE (ar hyn o bryd, o £90,319 ymlaen).

Mae gennym ein hadran gaffael ganolog ein hun sy’n ceisio defnyddio’r dulliau contractio mwyaf effeithiol ar gyfer ein hanghenion.

Ar gyfer pryniannau gwerth isel dilynwn drefn ddyfynbris, gan ddosbarthu busnes drwy Archeb Brynu swyddogol, neu drwy Gerdyn Caffael y Llywodraeth os yw gwerth yr archeb yn llai na £1000.

Ar gyfer gwaith o werth uwch neu fwy cymhleth, dilynwn broses dendro ffurfiol. Aseswn dendrau drwy bennu’r cynnig sydd o’r budd mwyaf darbodus, gan gymryd i ystyriaeth ffactorau fel cost, ansawdd, danfoniad ac ardrawiad amgylcheddol.

Brig
Ein polisi ar gwcis