|
|
Deddf Cwmnïau 2006 – Erthyglau Enghreifftiol Ar gyfer cwmnïau newydd a gofrestrwyd ar neu wedi 1 Hydref 2009 mae Tabl A wedi cael ei ddisodli gan Erthyglau Enghreifftiol Ddeddf Cwmnïau 2006, yn unol â Rheoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) 2008 . Mae Erthyglau Enghreifftiol ar gael ar gyfer y tri math mwyaf cyffredin o gwmni:
Mae’r dogfennau uchod ar gael ar ddiwyg Microsoft Word. Gall defnyddwyr sydd â Windows ond nid Microsoft Word weld dogfennau Word ar y wefan hon drwy lawrlwytho. Word Viewer. Tabl A 1. Beth yw “Tabl A”? Tabl, yn syml, yw’r enw a roir ar y diwyg penodedig ar gyfer Erthyglau Cymdeithasiad cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau o dan Deddf Cwmnïau 1985 a deddfwriaeth cynharach. Mae’rr Erthyglau’n gosod y rheoliadau ar gyfer llywio’r cwmni. Cynhwyswyd y diwyg penodedig cyntaf ar gyfer Erthyglau yn “The Joint Stock Companies Act, 1856”. Yn y Ddeddf honno, yr enw ar yr Erthyglau oedd “Tabl B” (yn unswydd oherwydd eu bod yn dod ar ôl diwyg ar gyfer Memorandwm Cymdeithasiad a elwid “Form A”). Adeg y penodi nesaf, sef ym 1862, symudwyd y Memorandwm i gorff y Ddeddf a daeth yr Erthyglau i gael eu galw “Tabl A”. Parhaodd y confensiwn enwi hwn i’r Erthyglau drwy’r holl ddeddfwriaeth a gyflwynwyd ym 1906, 1908, 1929, 1948 (a diwygiadau a wnaed ym 1967, 1976, 1980, 1981), a Gorffennaf 1985 (a diwygiadau a wnaed yn Awst 1985 a 2000) ac yn 2007. 2. Pam y byddai angen imi gyfeirio at “Tabl A”? Wrth gorffori cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau, does dim angen iddo ffeilio Erthyglau os dymuna ddefnyddio Tabl A fel ei Erthyglau. Yn yr achos hwn, os chwiliwch gofnodion cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau mae’n bosib na welwch ddogfen yn gosod ei Erthyglau. Gall rhai o ddarpariaethau Tabl A fod yn gymwys hefyd i gwmni sydd wedi ffeilio Erthyglau, os nad yw Erthyglau’r cwmni wedi hepgor nac wedi addasu Tabl A yn benodol. Yn y naill achos neu’r llall, os dymunwch weld y rheoliadau sy’n llywio’r cwmni, bydd angen ichi gyfeirio at y Tabl A perthnasol. 3. Pa Dabl A sy’n berthnasol i gwmni arbennig? Y Tabl A sy’n gymwys i gwmni yw’r Tabl A oedd mewn grym ar ddyddiad corffori’r cwmni. Os cafodd Tabl A ei ddiwygio wedyn, ni fydd y newidiadau’n effeithio ar gwmni a gafodd ei gofrestru cyn i’r diwygio ddod i rym. I fod yn siŵr eich bod yn darllen y Tabl A cywir, mae angen ichi wybod dyddiad corffori’r cwmni a pha fersiwn o Dabl A oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw. Mae’r rhestr ganlynol yn dangos dyddiad effeithiol pob Tabl A. Ymwadiad Sylwch fod y Tablau A a welir yma wedi cael eu hatgynhyrchu o’r Deddfau, y Gorchmynion neu’r Offerynnau cyhoeddedig gwreiddiol a restrwyd uchod ac maent yn gywir hyd eithaf ein gwybod a’n cred. Fodd bynnag, nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad na hepgor. Dylid dibynnu’n llwyr ar y ddeddfwriaeth berthnasol fel y cafodd honno ei chyhoeddi gan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI)(a elwid gynt Gwasg Ei Mawrhydi (HMSO)).
|
||