|
|
Cysylltwch â NiI gynnal y safonau uchel a osodwn i ni’n hunain, mae angen inni wybod ble yr ydym yn llwyddo yn ogystal â ble yr ydym yn methu. Croesawn unrhyw sylwadau, canmoliaeth neu awgrymiadau a all fod gennych ynglyn â’n gwasanaethau. Arolwg Boddhad CwsmeriaidI’n helpu ni i sicrhau ein bod yn cynnal ein safonau ac i dynnu sylw at feysydd ar gyfer gwella, rydym wedi sefydlu Mynegai Boddhad Cwsmeriaid. Mae hwn wedi’i seilio ar ganfyddiadau cwsmeriaid o’n perfformiad mewn perthynas â ffactorau penodol y maent hwy’n eu dewis a rhoddir prawf arno trwy arolygon boddhad chwarterol. CwynionEin nod bob amser yw bodloni anghenion ein cwsmeriaid mor effeithlon a darbodus ag sydd modd ond sylweddolwn fod pethau’n mynd o le weithiau. Pa fydd hynny’n digwydd, fe unionwn y sefyllfa cyn gynted â phosib. Cliciwch yma i gael gwybod mwy am ein trefn gwyno a phwy i gysylltu â nhw AwgrymiadauOs hoffech chi wneud awgrym neu sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar ein Gwefan, ein cynhyrchion neu’n gwasanaethau, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â:- Mr Ian Smith CydnabyddiaethOs cawsoch wasanaeth neilltuol o dda gan Dŷ’r Cwmnïau a chithau am i’r aelod staff neu’r Adran gael eu cydnabod, rhowch wybod inni drwy gysylltu â: Mr Ian Smith Byddai’n ddefnyddiol pe gallech gynnwys rhai manylion am yr enw, yr adran, y dyddiad, yr amser a natur eich galwad a beth a wnaeth argraff arnoch o ran y ffordd y cafodd eich galwad ei thrin. |
||