Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Asesiadau o’r Effeithiau ar Gydraddoldeb (AEG)

Mae’r Dyletswyddau Cydraddoldeb yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyrff y sector cyhoeddus i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal yn ymarferol trwy eu holl waith. Mae hyn yn cynnwys datblygu polisïau, dylunio ein rhaglenni a’u rhoi ar waith, a chyflwyno gwasanaethau.

Beth yw asesiad o effaith ar gydraddoldeb?

Asesiad o effaith ar gydraddoldeb yw’r broses o asesu effaith polisïau, swyddogaethau ac arferion sy’n bodoli eisoes a rhai arfaethedig, mewn perthynas â’u goblygiadau ar gyfer grwpiau lleiafrifol.

Dylai mesur effeithiau ar gydraddoldeb fod yn elfen annatod o’r gwaith o lunio polisïau gwell. Rhaid i bob polisi gyflawni o leiaf lefel y cyfnod sgrinio cychwynnol, sy’n asesu perthnasedd ac effaith y polisi ar gydraddoldeb. Proses bositif yw hon a ddylai arwain at welliannau gwirioneddol ac ymarferol mewn perthynas â pholisïau ac arferion. Ni ddylid edrych ar hyn fel anhawster, neu fel gweithgaredd ar wahân i’r prosesau eraill sydd ynghlwm wrth ddatblygu ac asesu polisïau, ond gellir ei ymgorffori i’r ymgynghoriad a’r broses o Asesu Effeithiau cyhyd ag y bo ystyriaethau penodedig mewn perthynas â chydraddoldeb o ran  Hil, Anabledd a Rhyw yn cael eu dogfennu’n glir.

Brig
Ein polisi ar gwcis