Datganiad Cyfle Cyfartal Tŷ’r Cwmnïau
Mae Tŷ’r Cwmnïau yn gyflogydd cyfle cyfartal. Ein nod yw bod yn deg â phawb a sicrhau na fydd yr un gweithiwr nac ymgeisydd am swydd yn cael cyfle neu driniaeth fwy ffafriol neu lai ffafriol ar sail, er enghraifft:
- Oed
- Hil
- Lliw
- Tarddiad ethnig neu genedlaethol
- Cenedligrwydd (gan ddibynnu ar y rheolau cenedligrwydd)
- Rhyw
- Tueddiad rhywiol
- Statws priodasol
- Anabledd
- Crefydd na chredo
- Gweithio rhan-amser
- Aelodaeth o undeb llafur na dyletswyddau undeb
Gall fod eithriadau cyfyngedig lle caniateir gweithredu positif o dan ddeddfwriaeth berthnasol. Ni roir neb dan anfantais drwy amodau neu ofynion na ellir dangos eu bod yn wir angenrheidiol am resymau gwrthrychol. Yn ogystal, dylid bod yn ofalus wrth osod meini prawf ar gyfer dethol, megis amodau nithio, gan ei bod yn bosibl y bydd yn fwy anodd i rai ymgeiswyr fodloni’r rhain oherwydd eu rhyw, hil, statws priodasol neu anabledd, ac ati.
Cyfle cyfartal a thriniaeth gyfartal yw conglfeini ein polisi penodi a chyflogi.
Cliciwch yma i weld Polisi Cyfle Cyfartal Tŷ’r Cwmnïau yn ei gyfanrwydd. |