Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Deddf Cydraddoldeb 2010

Y Ddeddfwriaeth Allweddol

Cafodd Deddf Cydraddoldeb 2010 y Cydsyniad Brenhinol ar ôl cwblhau’r drefn seneddol. Mae’r Ddeddf yma’n disodli’r cyfreithiau gwrth-wahaniaethu niferus oedd yn bodoli o’r blaen. Mae hi wedi symleiddio’r gyfraith, gan ei gwneud yn haws i bobl ei deall a chydymffurfio â hi. Mae’r Ddeddf yn cryfhau’r gyfraith mewn sawl ffordd bwysig er mwyn helpu i fynd i’r afael ac anghydraddoldeb.

Beth sydd wedi newid?

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn disodli’r tair dyletswydd cydraddoldeb oedd yn bodoli yn y sector cyhoeddus mewn perthynas â hil, anabledd a rhyw. Mae’r dyletswyddau cydraddoldeb newydd yn cwmpasu’r nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • Oed
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a Phartneriaethau Sifil
  • Beichiogrwydd a Mamolaeth
  • Hil – mae hyn yn cynnwys tarddiad ethnig, lliw neu genedligrwydd
  • Crefydd neu gred – mae hyn yn cynnwys diffyg cred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Mae dau brif bwrpas i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 – sef  cysoni’r gyfraith gwahaniaethu a chryfhau’r gyfraith er mwyn gwneud cynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb.

Yn ôl y dyletswyddau cyffredinol statudol, wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus Tŷ’r Cwmnïau, dylid rhoi sylw dyledus i’r canlynol:

  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddwch ac erledigaeth anghyfreithlon ac unrhyw ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd gan y Ddeddf.
  • Datblygu cyfleoedd cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno.
  • Meithrin perthnasau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno.

Cyfeirir at hyn fel tair nod neu gainc y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol. Mae’r Ddeddf yn esbonio’n hwylus bod rhoi sylw dyledus i ddatblygu cydraddoldeb yn cynnwys:

  • Dileu neu leihau’r anfanteision y mae pobl yn eu dioddef oherwydd eu nodweddion gwarchodedig.
  • Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle bo’r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill.
  • Annog pobl o grwpiau gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill y mae nifer anghymesur o isel o bobl o’r grwpiau hyn yn cymryd rhan ynddynt.

Deddf Cydraddoldeb 2010 (PDF 730KB) (Saesneg yn unig)

Brig
Ein polisi ar gwcis