|
|
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Tŷ’r CwmnïauMae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod pobl rhag gwahaniaethu ar sail eu nodweddion gwarchodedig ac mae Tŷ’r Cwmnïau wedi ymrwymo o hyd i fod yn gyflogwr delfrydol o ran amrywiaeth a chyfle cyfartal ac i sicrhau bod bywyd gwaith beunyddiol yn anwahaniaethol ac yn rhydd rhag aflonyddu. Ein nod yw cyflawni hyn trwy wireddu gwerthoedd Tŷ’r Cwmnïau sef Gwneud y Gwaith yn Iawn, Gwneud Gwahaniaeth a Chydweithio Mae cydraddoldebyn fater o greu’r un lefel o gyfle i bawb, ac ar yr un pryd cydnabod bod rhai pobl yn wynebu rhwystrau nad yw eraill yn eu hwynebu. Mae amrywiaeth yn fater o annog pobl i fod yn ymwybodol o agweddau, gwerthoedd a safbwyntiau ei gilydd, ac i’w croesawu, heb drin pobl yn wahanol, heb ffafriaeth, a thrwy drin gwahanol fathau o bobl mewn ffordd gyfartal. Bydd Canllawiau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Tŷ’r Cwmnïau (Saesneg yn unig) yn sicrhau y byddwn yn bodloni'r gofynion cyfreithiol sydd arnom o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar ei bolisïau, swyddogaethau ac arferion gan eu cymharu â’r dyletswyddau cydraddoldeb hil, anabledd a rhywedd. Mae’r holl bolisïau a gweithdrefnau presennol wedi cael eu hasesu yn y cyfnod cyntaf o sgrinio a byddwn yn parhau i asesu polisïau newydd wrth iddynt gael eu datblygu. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cyhoeddi canlyniadau’r Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb bob blwyddyn er mwyn cydymffurfio â’r Ddyletswydd Cydraddoldeb. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn sicrhau bod yna gyfle cyfartal mewn mentrau recriwtio a chyn-recriwtio, dethol, sefydlu, contractau cyflogaeth, cydgytundebau gyda’r undeb llafur, adolygiadau perfformiad, hyfforddiant a phob agwedd arall ar gyflogaeth. Bydd Adroddiadau Monitro Amrywiaeth Tŷ’r Cwmnïau (Saesneg yn unig) yn dangos ein hymrwymiad i ymdrechu i gyrraedd y nod hwn. Rydym yn adrodd ar broffil ein gweithlu ac yn edrych ar gasgliad o ddata’n ymwneud ag amrywiaeth yn yr adroddiad hwn. |
|