Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Adrodd ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth

Ein nod yw sicrhau bod ymroddiad Tŷ’r Cwmnïau i fod yn gyflogydd cyfleoedd cyfartal o ddewis ac i sicrhau bod ei fywyd gwaith pob dydd yn rhydd o wahaniaethu ac aflonyddwch yn parhau. Ein nod yw gwireddu hyn trwy gyflawni gwerthoedd Tŷ’r Cwmnïau sef Gwneud Pethau’n Iawn, Gwneud Gwahaniaeth a Gweithio gyda’n Gilydd.

Mae’r Adroddiad Monitro Amrywiaeth yn dangos ein hymrwymiad i weithio’n galed tuag at y nod yma ac mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ei gydnabod. Rydyn ni’n adrodd ar broffil ein gweithlu ac yn archwilio ystod o ddata am amrywiaeth yn yr adroddiad hwn. Er mwyn i’r gwaith monitro fod yn wirioneddol effeithiol, rhaid iddo gael ei weld fel mwy na dim ond ymarfer gweinyddol, ond fel un o’r ffactorau allweddol sy’n gyrru datblygiad polisïau ac yn newid prosesau.

Mae monitro amrywiaeth yn ystadegol yn rhan annatod o’r gwaith o sicrhau nad oes gwahaniaethu ac aflonyddwch mewn bywyd gwaith pob dydd. Mae’n gallu darparu tystiolaeth am sut rydyn ni’n cyflawni ein nod o gynnig cyfleoedd cyfartal go iawn i’n holl weithwyr. Pwrpas yr adroddiad hwn yw dangos i ba raddau rydyn ni wedi cyflawni’r nod honno. Yn ogystal, mae’n cynnig system meincnodi i’n galluogi i bwyso a mesur ein perfformiad blynyddol yn nhermau pa mor effeithiol yw ein gwaith mewn perthynas â’n polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau ym maes amrywiaeth.

Adroddiad Monitro Amrywiaeth 2010 / 11 PDF (220KB) (Saesneg yn unig)
Brig
Ein polisi ar gwcis