Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Uwch Dadansoddwr Profion Band C1(TG)

Lleoliad: Caerdydd
Cyflog: (Band C1 TG): £26,080 - £31,954
Cyfle parhaol yw hwn
Nifer y swyddi: 1
Oriau gwaith:  Amser llawn/Rhan amser/Rhannu swydd
Cyfeirnod y swydd: SR/13/11
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 19 Chwefror 2013

Mae’r buddion eraill yn cynnwys: cynllun pensiwn, 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 10.5 diwrnod o wyliau statudol ac amrywiaeth fawr o bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd

Prif rôl y tîm:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm sy'n gyfrifol am brofi gwasanaethau mewnol ac allanol Tŷ'r Cwmnïau ar y we.

Mae hyn yn cynnwys cynnal profion system strwythuredig a sgriptio awtomatiaeth gan ddefnyddio Quick Test Pro HP a chyfrifoldebau rheoli llinell sy'n mynd i'r afael ag anghenion datblygu a hyfforddiant aelod iau o’r staff.

Rôl y swydd a hysbysebir yn y tîm:

  • Rhoi cyngor i reolwyr prosiect ar weithdrefnau profi addas ar gyfer eu gwaith prosiect ynghyd ag amcangyfrifon adnoddau.
  • Creu a chynnal cynlluniau a senarios prawf sy'n deillio o fanylebau swyddogaethol systemau.
  • Dadansoddi manylebau technegol a swyddogaethol er mwyn creu achosion prawf effeithiol ac economaidd.
  • Awtomeiddio sgriptiau prawf gan ddefnyddio Quick Test Pro HP.
  • Gwneud gwaith strwythuredig i brofi systemau ac integreiddio a chreu llwybrau atchwelyd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.
  • Tracio a datrys problemau sy'n codi o'r broses prawf a chymorth, gan sicrhau naill eu bod wedi'u datrys neu fod ffyrdd addas o weithio o'u hamgylch wedi'u creu.
  • Creu dogfennaeth lawn o’r rhediadau a gweithdrefnau profi at ddibenion archwilio
  • Cyflawni rôl sicrhau ansawdd yn erbyn cynhyrchu achosion prawf.
  • Hyfforddi/mentora aelodau iau'r tîm.

Hanfodol:

  • Dadansoddwr profion profiadol gydag o leiaf 3 mlynedd o brofiad o weithio mewn cylch oes datblygu Agile
  • Sgiliau cyfathrebu a mentora rhagorol, y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn gredadwy gyda chynulleidfa amrywiol ar bob lefel.
  • Llawer o hunan ysgogiad i gyflawni’r canlyniadau gofynnol
  • Tystysgrif Sylfaen ISEB mewn Profi Meddalwedd
  • Mae angen hyddysgedd technegol helaeth yn y canlynol:
    1. QTP
    2. Quality Center
    3. Sgriptio TSL
    4. Sgriptio Unix
    5. Assyst
    6. XML
    7. SQL
    8. XBRL
    9. Visual Basic
    10. Oracle
    11. Javascript

Dymunol:

  • Tystysgrif Sylfaen ITIL mewn Rheoli Gwasanaethau

Manteisiol:

  • Tystysgrif Ymarferwr ISEB mewn Profi Meddalwedd
  • Profiad o MongoDB a JSON

Cyfleoedd a gynigir:

Uwch rôl yw hon yn y tîm prawf, ac mae'n cynnig y cyfle i lywio'r dull profi yn Nhŷ'r Cwmnïau yn y dyfodol. 

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau gweithgaredd fel rhan o’r broses dethol ar gyfer recriwtio

Mae’r Gwasanaeth Sifil wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n coleddu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym hefyd yn cynnig cynllun gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy’n bodloni ein meini prawf gofynnol ar gyfer dethol.
Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar unrhyw un o’r seiliau canlynol: rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, hil, lliw croen, cenedligrwydd, crefydd, oed, anabledd, statws HIV positif, patrwm gweithio, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch undeb llafur neu gredoau gwleidyddol – neu unrhyw sail arall.

I wneud cais

I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen gais ar-lein, a'i chwblhau gan ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol a phriodol i helpu i gefnogi'ch cais. Byddwch hefyd yn cael hyd i ffurflenni monitro, y bydd angen i chi eu lawrlwytho, eu cwblhau a'u dychwelyd atom gyda'r ffurflen gais.

Ffurflen gais
Ffurflenni cais i'w cwblhau
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2011-2012
Cyfeiriad Strategol Tŷ’r Cwmnïau
Crynodeb Cynllun Busnes 2011-2012
GOV.UK

Anfonwch eich ffurflen gais a'ch ffurflenni monitro wedi’u cwblhau at hrrecruitment@companieshouse.gov.uk

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â Kelly Williams yn y tîm Adnoddau Dynol. Y cyfeiriad e-bost yw hrrecruitment@companieshouse.gov.uk a'r rhif ffôn yw 029 20380818.

Brig
Ein polisi ar gwcis