|
|
Gwybodaeth ar Ddidoli Ceisiadau: Caiff y broses ddidoli ei chyflawni yn erbyn y meini prawf didoli a bennwyd ar gyfer y swydd. Bydd hyn yn cyd-fynd â’r system sgorio a gaiff ei defnyddio’n gyson trwy gydol y broses. Mae’r panel ddethol yn chwilio am dystiolaeth fod pob ymgeisydd wedi dangos y galluoedd angenrheidiol, a bydd yn cymryd cryfder pob esiampl i ystyriaeth. Caiff y galluoedd craidd eu rhestru yn nhrefn eu pwysigrwydd a bydd hyn yn aros yn gyson trwy gydol y broses ddethol. Defnyddir graddfa pwysoli o 1 i 3, a 3 yw’r pwysicaf:
Caiff yr holl alluoedd eu sgorio ar sail graddfa o 6, h.y.:
Caiff yr ymgeisydd ei sgorio trwy luosi’r sgôr ar gyfer pwysigrwydd pob gallu a bennwyd (h.y. 1, 2 neu 3) â’r sgôr ar gyfer cryfder pob esiampl a roddwyd (h.y. 1, 2, 3, 4, 5 neu 6). Bydd y panel cyfan yn trafod sgôr pob ymgeisydd ar ddiwedd pob cam yn y broses ddidoli. Caiff unrhyw wahaniaethau mawr yn y sgoriau unigol eu trafod a’u cyfiawnhau a daw’r panel i gonsensws arnynt. Bydd y panel yn cytuno ar restr fer derfynol o’r ymgeiswyr sy’n bodloni’r gofynion sylfaenol o ran galluoedd ac yn eu gwahodd am gyfweliad. Llenwi’r Ffurflen Gais Mae’r ffurflen gais yn rhoi cyfle i chi ddisgrifio’ch addasrwydd ar gyfer y swydd trwy roi enghreifftiau penodol i brofi bod gennych y galluoedd a nodir ym manyleb y swydd. Mae’r ffurflen gais yn cynnwys tair prif adran, sef:- Manylion Personol Rhaid llenwi pob adran gan roi gwybodaeth gyfoes amdanoch chi a manylion eich cyflogaeth. Hanes Gyrfaol Dyma grynodeb o hanes eich gyrfa, gan ddechrau gyda’ch swydd ddiweddaraf. Dylech gynnwys dyddiadau, teitl y swyddi, eich prif gyfrifoldebau ac yn arbennig unrhyw beth a gyflawnwyd sy’n berthnasol i’r swydd yr ydych chi’n ymgeisio amdani. Datganiad Personol Mae’r adran yma’n bwysig iawn. Dyma’ch cyfle chi i ddarparu tystiolaeth sy’n dangos bod gennych chi’r galluoedd allweddol. Cofiwch: -
Y broses arferol wrth wneud cais am swydd Gweld hysbyseb am y swydd Darllen manyleb y swydd ac asesu eich addasrwydd ar gyfer y rôl Gwneud cais am y swydd gan ddilyn y canllawiau a roddwyd Didoli’r ceisiadau Rhoi gwybod i’r ymgeiswyr a fyddant yn cael eu gwahodd am gyfweliad ai peidio Cynnal cyfweliadau, gan gynnwys cyflwyniadau neu weithgareddau Rhoi gwybod i’r ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio yn amodol ar yr archwiliadau cyn penodi Cynnig y swydd yn ffurfiol a chytuno ar ddyddiad dechrau |
||