Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

1af Chwefror 2009

Cosbau Ffeilio Hwyr

Mae adran 441 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni gyflwyno cyfrifon blynyddol i’r Cofrestrydd Cwmnïau erbyn y dyddiad dyledus. Mae adran 453 yn pennu y bydd cosb gweinyddu sifil yn daladwy os caiff y cyfrifon eu cyflwyno’n hwyr, gan ddarparu i’r Ysgrifennydd Gwladol bennu lefel y gosb hon drwy reoliadau.

I gynyddu effeithiolrwydd y cosbau ffeilio hwyr, pan ddaeth adran 453 i rym newidiodd Tŷ’r Cwmnïau’r atodlen bresennol o gosbau ffeilio hwyr, fel sydd wedi’i chynnwys yn adran 242A o Ddeddf Cwmnïau 1985. Yn gyfochrog â hyn, bydd y Llywodraeth yn diwygio adran 242A o Ddeddf 1985 fel y bydd y newidiadau dan sylw hefyd yn gymwys i gyfrifon wedi’u paratoi o dan Ddeddf 1985 ond a gaiff eu cyflwyno’n hwyr ar neu wedi 1 Chwefror 2009 pan ddaeth y cosbau diwygiedig i rym.

Beth yw cosbau ffeilio hwyr?

Cafodd cosbau ffeilio hwyr eu cyflwyno ym 1992 i annog cyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig i ffeilio’u cyfrifon yn brydlon gan fod yn rhaid iddynt ddarparu’r wybodaeth statudol hon er mwyn y cofnod cyhoeddus.

Pa newidiadau sydd wedi cael eu cyflwyno?

  • Pob cosb wedi cael ei chynyddu i gymryd chwyddiant rhwng 1992 a 2007 i ystyriaeth
  • Cyfradd gynnydd gyflymach yn y cosbau i gwmnïau sy’n ffeilio mwy na mis yn hwyr.
  • Dyblu’r gosb i unrhyw gwmni sy’n ffeilio’n hwyr ar ôl ffeilio’n hwyr y flwyddyn cynt hefyd.

Beth yw’r cosbau newydd am ffeilio hwyr?

Mae tabl newydd y cosbau fel a ganlyn:
*

Pa mor hwyr y caiff y cyfrifon eu cyflwyno Cosb – Cwmni Preifat Cosb - CCC
Nid mwy na mis £ 150 £750
Mwy na mis ond nid mwy na thri mis £375 £1500
Mwy na thri mis ond nid mwy na chwe mis £750 £3000
Mwy na chwe mis £1500 £7500

Hefyd lle'r oedd methiant i gydymffurfio a’r gofynion ffeilio o ran y flwyddyn ariannol flaenorol (a bod y flwyddyn ariannol flaenorol wedi dechrau cyn neu wedi 6 Ebrill 2008) bydd y gosb yn dyblu ffigur y tabl.

Pryd y bydd y cosbau newydd hyn yn gymwys?

Mae’r cosbau newydd yn gymwys o 1 Chwefror 2009 ymlaen.

Os yw/oedd fy nghyfrifon yn orddyledus, o 1 Chwefror 2009 a fydd y cosbau newydd yn gymwys i mi?

Ni waeth pa bryd y daeth eich cyfrifon yn orddyledus, o 1 Chwefror 2009 ymlaen bydd y cosbau newydd yn gymwys i unrhyw gyfrifon a gaiff eu cyflwyno'n hwyr

Sut bydda i’n gwybod pan gaiff cosb ei gosod?

Os cyflwynir cyfrifon yn hwyr, caiff anfoneb ei gyrru’n awtomatig i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig.

Ydy’r cosbau’n gymwys i gwmnïau rheoli fflatiau a chwmnïau segur?

Ydyn.

Sut galla i osgoi cosbau?

Darllenwch y llythyrau atgoffa y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn eu hanfon i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig.

Caniatewch ddigon o amser i sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd y Cofrestrydd o fewn y cyfnod sydd wedi’i ddarparu o dan y Ddeddf Cwmnïau. Nid yw’r post dosbarth cyntaf dan warant, felly os yw’r terfyn amser ar gyfer ffeilio’n agos ystyriwch ddulliau cyflwyno gwarantedig a fydd yn sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd mewn pryd. Cofiwch: ni fydd y Cofrestrydd yn anwybyddu cosb os caiff eich cyfrifon eu hoedi yn y post.

Gallwch bellach ffeilio rhai mathau o gyfrifon drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Os ffeiliwch eich cyfrifon yn electronig, cewch fantais neges e-bost yn cydnabod bod eich cyfrifon wedi dod i law.

Beth fydd yn digwydd os na thelir y gosb?

Caiff y gosb ei hatgyfeirio i sylw asiantiaid casglu. Os bydd yn dal heb ei thalu, gellir cymryd camau cyfreithiol a allai arwain at ddyfarniad Llys Sirol neu Lys Siryf yn erbyn eich cwmni.

A ymgynghorwyd yn gyhoeddus ynghylch y newidiadau i’r Cosbau Ffeilio Hwyr?

Do. Trefnwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynigion ar 20 Gorffennaf 2007, gan fynnu pob ymateb erbyn 12 Hydref 2007.

Ble galla i weld copi o’r ddogfen ymgynghori a’r ymatebion?

Mae’r ddogfen ymgynghori a’r ymatebion i’w gweld ar dudalennau cyhoeddiadau gwefan Tŷ’r Cwmnïau yn:
http://www.companieshouse.gov.uk/companiesAct/publications.shtml

Mae copïau o’r rheoliadau ar gael ar wefan OPSI yn:
http://www.opsi.gov.uk/si/si2008/uksi_20080497_en_1

Consesiwn 14 diwrnod

Roedd adran 706 o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau gyflwyno dogfennau ar ffurf ddarllenadwy, gan ganiatáu 14 diwrnod o ddyddiad unrhyw lythyr gwrthod i’w hailffeilio. Does dim darpariaeth yn cymryd lle’r adran hon yn Neddf Cwmnïau 2006 ac felly bydd yn peidio â bod o 1 Hydref 2009 ymlaen. Gan hynny, ni fydd cwmnïau’n cael 14 diwrnod o ddyddiad llythyr gwrthod i ddiwygio a dychwelyd cyfrifon ar ddiwyg derbyniol.

Ydy cosbau ffeilio hwyr yn gymwys i unrhyw ddogfennau eraill?

Lle bo cwmni’n diwygio’i erthyglau cymdeithasiad, rhaid anfon copi o’r erthyglau diwygiedig i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen 15 diwrnod. Mae methiant i gydymffurfio yn dramgwydd troseddol.

Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno cosb sifil newydd o £200 am fethiant i gydymffurfio. Dim ond os caiff cwmni rybudd gan y Cofrestrydd yn mynnu iddo gyflwyno copi o’i erthyglau diwygiedig, ac yntau’r cwmni heb gydymffurfio o fewn 28 diwrnod, y caiff y gosb ei sbarduno.

‘O 1 Hydref 2009 ymlaen’ mae Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno cosb sifil newydd. Byddai’r cwmni’n aros yn agored i weithrediadau troseddol yn ychwanegol at y gosb sifil o £200

Brig
Ein polisi ar gwcis