|
|
Deddf Cwmnïau 2006 - Llythyr at gwmnïau Fel rhan o’r cysylltiadau â chwsmeriaid ynghylch Deddf Cwmnïau 2006, mae Tŷ’r Cwmnïau yn ysgrifennu at gwmnïau i roi gwybod am y gweithredu terfynol ar 1 Hydref 2009. Anfonir llythyr a chanllaw byr i gyfeiriad pob swyddfa gofrestredig yn ystod Awst a Medi. Bydd y canllaw ar ffurf ‘cerdyn Z’, sef cerdyn yr un faint â cherdyn credyd sydd wedi’i ddylunio i agor yn daflen A3. Mae’r maint cyfleus yn caniatáu i’r cwsmeriaid ei ddefnyddio a’i gadw’n hwylus i’w hatgoffa am y newidiadau. Mae’n cynnwys golwg gyffredinol ar y newidiadau allweddol sy’n dod i mewn ym mis Hydref yn ogystal â chrynodeb o’r newidiadau sydd wedi’u gwneud yn barod. I gael gwybodaeth fanylach, mae’r cwsmeriaid yn cael eu cyfeirio at wefan Tŷ’r Cwmnïau. Gwaith mawr yw hwn ac rydyn ni’n ymwybodol bod mwy na 4,000 o swyddfeydd cofrestredig yn ymdrin â mwy na 500,000 o gwmnïau. I’w gwneud yn haws i asiantau a chyfryngwyr sy’n gofalu am nifer fawr o gwmnïau ymdopi, un copi yn unig fydd yn cael ei anfon i’r swyddfa gofrestredig, ac rydyn ni’n cynnig fersiwn electronig i’w anfon ymlaen at y cwmnïau unigol. |
|||