|
|
 |
GWYBODAETH AR GYFER ASIANTAU CWMNÏAU
Isod ceir tabl o’r prif broblemau sy’n effeithio ar systemau Tŷ’r Cwmnïau, a’r camau sy’n cael eu cymryd i’w datrys. Diweddarwyd y wybodaeth ar 25/01/2010.
Gwasanaeth |
Problem |
Sylwadau |
| CHD / WebCheck |
Mae 9005 o wallau’n ymddangos yn ysbeidiol wrth ddewis hanes ffeilio, neu benodiadau rhai swyddogion. |
Rhoddwyd nifer o fesurau ar waith i ddatrys rhai o’r materion penodol, ond nid yw hyn wedi datrys y sefyllfa’n llwyr ac rydyn ni’n dal i ymchwilio i’r peth.
Cyfeirnod Tŷ’r Cwmnïau P6853 |
| CHD / WebCheck |
Yn ôl rhai adroddiadau a gafwyd, nid yw manylion morgeisi cwmnïau Gogledd Iwerddon yn ymddangos bob tro. |
Rydyn ni wrthi’n ymchwilio i’r mater.
Cyfeirnod Tŷ’r Cwmnïau P7173 |
| Ffeilio dogfennau’n electronig |
Mae yna faterion sy’n atal nifer fechan o’r dogfennau a gyflwynir yn electronig rhag cael eu prosesu. |
Mae’r mater dan reolaeth, ac rydyn ni’n dal i ymchwilio i ffyrdd o ddatrys gwraidd y broblem. |
| Cynnyrch Allbwn Swmp |
Mae’r dyddiad cwblhau a ddangosir yn y ffeil ymddatod yr un fath â’r dyddiad cymeradwyo. |
Rydyn ni wrthi’n ymchwilio i’r mater.
Cyfeirnod Tŷ’r Cwmnïau P7061 |
| Delweddau Dogfen |
Nid yw’r datganiad cyfalaf yn ymddangos ar rai o’r delweddau corffori. |
Cafwyd hyd i ateb i’r broblem ac rydyn ni wrthi’n ei brofi. |
| Delweddau Dogfen |
Nid yw manylion y cyfranddeiliaid yn ymddangos ar AR01. |
Mae’r mater wedi cael ei ddatrys, ond mae ambell i achos yn dal i godi ac rydyn ni’n ymchwilio i’r rhain.
Cyfeirnod Tŷ’r Cwmnïau P6870 |
| Delweddau Dogfen |
Mae ambell i enghraifft wedi codi lle mae manylion cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion wedi bod ar goll o AR01 ond i’w gweld ar IN01. |
Rydyn ni’n edrych ar yr holl achosion hyn yn unigol. |
| XML Gateway |
Nid yw nifer y cyfrannau a gwerth cyfanred y cyfrannau ym mhob dosbarth, yn cael eu dilysu yn erbyn nifer cychwynnol y cyfranddaliadau ar y datganiad cyfalaf cychwynnol ar gorfforiad a ffeiliwyd yn electronig. |
Mae addasiad yn cael ei ddatblygu er mwyn dilysu’r data trwy XML a WebFiling a fydd yn atal hyn rhag digwydd.
Cyfeirnod Tŷ’r Cwmnïau R76901 |
| WebFiling |
Mae’r neges e-bost WebFiling i gadarnhau bod dogfen wedi dod i law mewn un fformat safonol ar gyfer pob math o ddogfen ac ar gyfer ceisiadau i’r cynllun PROOF. Mae hyn yn achosi amwyster i gwsmeriaid sy’n ffeilio dogfennau ac yn ymuno â PROOF yn ystod yr un sesiwn. |
Mae newid yn cael ei ddatblygu i greu negeseuon e-bost cadarnhau ar wahân ar gyfer y gwahanol fathau o ddogfennau ac ar gyfer PROOF.
Cyfeirnod Tŷ’r Cwmnïau R71284 |
Prosesu Dogfennau
| Mater |
Canllawiau |
| Adeg corffori a newid enw cwmni, mae enwau rhai cwmnïau yn ymddangos fel eu bod ‘yr un fath’ ag enwau cwmnïau sydd eisoes ar y gofrestr |
Yn ogystal â’r chwiliad presennol ar sail enw a rhif, mae Tŷ’r Cwmnïau wrthi’n datblygu gwirydd enwau ‘yr un fath â’ a fydd ar gael trwy WebCheck a XML. |
| Memorandwm Cymdeithasu |
Bu newidiadau pwysig i’r gyfraith gwmnïau mewn perthynas â’r memorandwm cymdeithasu. Mae Rheoliadau (Cofrestru) Cwmnïau 2008 yn amodi bod rhaid cyflwyno’r memorandwm mewn ffurf ragnodedig. Fodd bynnag, er mwyn helpu cwsmeriaid i addasu i’r ffordd ddiwygiedig hon o weithio, byddwn ni’n derbyn memoranda cymdeithasu sy’n cynnwys gwybodaeth ar ffurf cyfeiriadau’r tanysgrifwyr neu wybodaeth am gyfalaf cyfrannau yn ogystal â’r ffurf ragnodedig, tan 6 Ebrill 2010. O’r dyddiad hwnnw ymlaen, caiff unrhyw femorandwm cymdeithasu a gyflwynir gyda’r wybodaeth hon ei wrthod. Ar ôl ei brosesu, bydd y memorandwm cymdeithasu ar gael i’r cyhoedd ei weld ar y Gofrestr yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Y nod wrth gyflwyno’r Datganiad Cyfalaf yw sicrhau bod gwybodaeth glir a chyfoes ar gael am gyfalaf cyfrannau cwmni. Y bwriad wrth gyflwyno’r memorandwm cymdeithasu diwygiedig yw dangos tystiolaeth o fwriad tanysgrifwyr y memorandwm i ffurfio cwmni a dod yn aelodau o’r cwmni hwnnw adeg ei ffurfio. Wrth reswm felly, nid oes modd diwygio na diweddaru memorandwm cwmni a ffurfiwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. |
| Erthyglau Cymdeithasu |
Yn dilyn trafodaeth gyda Bwrdd ACRA, cytunwyd diwygio’r datganiad yn yr Erthyglau Cymdeithasu ar gyfer cyflwyniadau a ddaeth i law ar, neu ar ôl 2 Tachwedd 2009 i ddweud:
(c) Y Gymdeithas Asiantau Cofrestru Cwmnïau Cyfyngedig 2009. Cedwir pob hawl.
Os ceir unrhyw ddatganiadau annerbyniol pellach, caiff yr erthygl ei gwrthod. |
| Cyflwyno Tystiolaeth Ategol |
Mae yna bryder arbennig ynghylch darparu tystiolaeth ategol o ran Corffori Electronig. Dylid cyflwyno’r dystiolaeth gyda data gan ddefnyddio’r broses atodi PCL a ddisgrifir ym manyleb y rhyngwyneb technegol.
Yn anffodus, mae nifer fechan o gwsmeriaid wedi wynebu problemau yn hyn o beth ac rydyn ni wedi parhau i ganiatáu i’r dystiolaeth gael ei ffacsio i’n swyddfeydd. Ond ni allwn barhau â’r arfer hon am byth ac felly rydyn ni wedi rhoi cyfnod o ras tan 6 Ebrill 2010 (ar gyfer corffori) yn unig, er mwyn rhoi cyfle i’n cwsmeriaid Software Filing i addasu eu gwasanaethau.
Yn ystod y cyfnod trosiannol, rhaid i ni ofyn bod unrhyw dystiolaeth ategol yn cael ei chyflwyno yn rhan o’ch cyflwyniad electronig os oes modd, a hynny’n arbennig ar gyfer ceisiadau Yr Un Diwrnod. Os oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ffacs, yna rhaid i’r cyngor ategol fod ar bapur pennawd a rhaid iddo gynnwys y wybodaeth a’r llofnodion perthnasol. Rhaid ei anfon wrth gyflwyno’r wybodaeth, fel nad oes angen i ni gadw neu wrthod dogfennau yn ddiangen. |
|
|