|
Ebrill 2007
6 Ebrill 2007:
- Dileu’r terfyn oedran uchaf (ar hyn o bryd 70) i gyfarwyddwyr cwmnïau CCC
- Ni fydd angen mwyach i gyfarwyddwyr roi manylion eu buddiannau o ran cyfrannau neu ddyledebau yn y cwmni neu ei grŵp. Y canlyniad yw na fydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn mwyach Ffurflen 325 (Lleoliad y gofrestr buddiannau cyfarwyddwyr mewn cyfrannau) na Ffurflen 325a (Hysbysiad archwilio cofrestr buddiannau cyfarwyddwyr mewn cyfrannau sydd wedi’i chadw ar ddiwyg annarllenadwy).
- Ni fydd mwyach adroddiad blynyddol statudol gan yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Senedd (yr adroddiad ‘Companies In’) ond bydd y DTI yn parhau i ddarparu’r wybodaeth.
- Ni fydd yn ofynnol i gyfarwyddwyr ddatgelu’u buddiannau o ran cyfrannau yn Adroddiad y Cyfarwyddwyr o dan y Cyfrifon Blynyddol yng nghyswllt adroddiadau wedi’u llofnodi ar ôl 6 Ebrill.
- Bydd ffurflenni meddiannu yn cael eu disodli gan ffurflenni sy’n gyson â chymalau’r Ddeddf newydd: bydd 429(4) Hysbysiad am gyfranddeiliaid anghydsyniol, yn troi’n Ffurflen 980(1); bydd 429dec Datganiad statudol ynglŷn â rhybudd i gyfranddeiliaid anghydsyniol, yn troi’n Ffurflen 980(dec); bydd 430A Rhybudd i gyfranddeiliaid anghydsyniol, yn troi’n Ffurflen 984.
Cliciwch yma am yr amserlen dechreuad
|