Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Deddf Cwmnïau 2006 Ebrill 2008 taflen Gweithrediadau

Gweithrediadau

6 Ebrill 2008

Newidiadau o ran cyfrifon (Rhan 15)
i gwmnïau â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008

Cafodd y cyfnod cyflwyno cyfrifon ei ostwng o un mis (i gwmnïau preifat a chwmnïau cyfyngedig cyhoeddus fel ei gilydd). Gostyngwyd ar gyfer cwmnïau preifat o 10 mis i 9 mis, ac ar gyfer cwmnïau cyhoeddus o 7 mis i 6 mis. Cyflwynwyd hefyd fisoedd calendr llawn ar gyfer cyfnodau ffeilio. Lle daw’r cyfnod cyfrifeg i ben ar ddiwedd y mis, bydd y cyfnod ffeilio cyfrifon yn dod i ben ar ddiwedd y mis, ac eithrio yn hanes y cyfnod cyfrifeg cyntaf.
Bydd yn ofynnol i fantolen y cyfrifon ac adroddiad y cyfarwyddwyr gyfeirio at ddatganiadau Deddf Cwmnïau 2006.

  • Beth yw’r cyfeiriadau penodol yn Neddf 2006 sy’n ymwneud â byrhau cyfnodau ffeilio cyfrifon, a phryd y deuant i rym?
    Bydd adran 442 ‘Y cyfnod a ganiateir i ffeilio cyfrifon’, yn dod i rym ar 6 Ebrill 2008. Felly, bydd yn gymwys i bob cyfnod cyfrifeg sy’n dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008.
  • Pa newid a wnaed i’r datganiadau?
    Newidiwyd y datganiadau i gyfeirio at Ddeddf 2006. (Cliciwch yma am ddatganiadau cyfrifon newydd).

    C. A gaiff partneriaethau PAC fanteisio ar y trothwyon bach/canolig uwch?

    A. Cânt.  Fodd bynnag, dim ond i bartneriaethau PAC sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2008 y bydd y trothwyon bach/canolig uwch yn gymwys.

    C. A fydd y rheolau arbennig o ran archwilio cwmnïau elusennol bach yn aros?

    A. Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Ebrill 2008 nid oes mwyach reolau arbennig yng nghyswllt eithrio cwmnïau elusennol rhag archwilio ariannol. Gallant fod yn gymwys i’w heithrio rhag archwilio ariannol o dan y gyfraith gwmnïau yn yr un modd ag unrhyw gwmni arall.  Gall cwmnïau elusennol hefyd fod yn gaeth i ofynion ar wahân o ran archwilio’u cyfrifon yn ffurfiol neu eu hystyried rywsut arall o dan y gyfraith elusennau. Am wybodaeth bellach gweler www.charity-commission.gov.uk ar gyfer elusennau wedi’u cofrestru yng Nghymru neu Loegr, neu www.oscr.org.uk ar gyfer elusennau wedi’u cofrestru yn yr Alban.

    C.  A fydd newidiadau Deddf Cwmnïau 06 yn effeithio ar Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig?

    A. Byddant.  Bydd partneriaethau PAC sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill  2008 bellach yn cael 9 mis i ffeilio’u cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau neu 21 mis o ddyddiad eu corffori.

    Ond mae cynnwys cyfrifon PAC yn dal heb ei effeithio ac mae’n rhaid o hyd ei baratoi yn unol â Deddf Cwmnïau 1985 fel y darperir gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001.  
  • A fydd modd o hyd i rai cwmnïau ffeilio cyfrifon cryno?
    Bydd.
  • A fydd y diffiniad o ‘fuddiant cyfranogi’ o dan adran 260 o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn cael ei ailddeddfu mewn deddfwriaeth eilaidd yn ymwneud â chyfrifeg?
    Bydd, caiff adran 260 o Ddeddf 1985 ei hailddeddfu heb ei haddasu yn y rheoliadau sydd i’w gwneud o dan Ran 15 o Ddeddf 2006.
Newidiadau o ran ysgrifenyddion (Rhan 12)

Daw’r ysgrifennydd cwmni yn drefn ddewisol i gwmnïau preifat ond bydd yn aros yn orfodol i gwmnïau cyhoeddus.

  • Pryd y daw’r newidiadau o ran ysgrifenyddion cwmni i rym?
    Bydd y ddarpariaeth sy’n galluogi cwmnïau preifat i ddewis p’un a ddymunant fod ag ysgrifennydd cwmni yn dod i rym ar 6 Ebrill 2008.
  • A fydd arna i angen ysgrifennydd cwmni o hyd ar ôl 6 Ebrill 2008?
    Bydd cwmni preifat yn cael dewis cadw neu ollwng ei ysgrifennydd cwmni.
  • Os bydd y cwmni’n penderfynu nad yw am fod ag ysgrifennydd cwmni mwyach, beth yw’r proses?
    Os bydd y cwmni’n penderfynu nad oes arno angen ysgrifennydd cwmni mwyach, bydd yn ofynnol iddo roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau drwy’r drefn WebFiling neu ar ffurflen 288b.
  • A fydd yn ofynnol i’r cwmni ddiwygio’i Erthyglau?
    Bydd yn ofynnol i’r cwmni ddiwygio’i Erthyglau os oes cyfeiriad penodol at ysgrifennydd i’r cwmni. Ond os at ddyletswyddau ysgrifennydd yn unig y mae’r Erthyglau’n cyfeirio, does dim angen diwygio.
  • Wrth i’r cwmni ddiwygio’i Erthyglau, pa ddogfennaeth y mae’n rhaid ei chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau?
    Rhaid i’r cwmni gyflwyno penderfyniad ysgrifenedig neu arbennig, ynghyd â fersiwn wedi’i ddiweddaru o’r Erthyglau.
  • A gaiff cwmni fod ag unig gyfarwyddwr a dim ysgrifennydd?
    Caiff.
  • Oes rhaid i’r ysgrifennydd fod yn unigolyn neu a gaiff fod yn gorfforaethol?
    Nid yw’r darpariaethau newydd a gaiff eu cyflwyno ym mis Hydref 2008 gyda golwg ar gyfarwyddwyr naturiol, yn gymwys i ysgrifenyddion. Gall ysgrifenyddion fod yn gorfforaethol o hyd.

  • Pryd bydd gweddill y darpariaethau sy’n ymwneud ag ysgrifenyddion yn dod i rym?
    Bydd y rhain yn dod i rym ar 1 Hydref 2009. O’r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd modd i ysgrifenyddion sy’n berson unigol ffeilio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau er mwyn y cofnod cyhoeddus a bydd yn ofynnol i ysgrifenyddion corfforaethol roi manylion eu lleoliad cofrestru a rhif cofrestru’r cwmni lle bo hynny’n gymwys.
Newidiadau o ran cyfalaf (Rhan 20)

Mae angen i gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus bennu ai mewn arian sterling neu ewros y maent yn cynnal y cyfalaf cyfrannau lleiafsymiol (gynt, dim ond sterling a ganiateid)

  • Pa adran o Ddeddf 2006 sy’n ymwneud â’r newidiadau o ran cyfalaf cyfrannau lleiafsymiol cwmnïau cyhoeddus?
    Mae adrannau 761 – 767 o Ddeddf 2006 yn ymwneud â’r cyfalaf cyfrannau lleiafsymiol i gwmni cyhoeddus mewn ewros.

    C. Beth fydd y gofynion i bartneriaethau PAC o ran cyfalaf awdurdodedig?

    A. O 6 Ebrill 2008 ymlaen:

    • gall cwmni cyhoeddus gael ei gorffori wrth iddo fodloni’r lleiafswm awdurdodedig mewn arian sterling (£50,000) neu arian ewro (€65,600)
    • ni fydd angen mwyach i gais cwmni cyhoeddus am dystysgrif i gael dechrau busnes a benthyca (tystysgrif fasnachu) fod ar ffurf datganiad statudol
    • bydd angen i gwmni cyhoeddus sy’n gwneud cais am dystysgrif fasnachu neu gwmni preifat sy’n ailgofrestru’n gwmni cyhoeddus nodi ar y cais ai mewn arian sterling neu arian ewro y mae’n bodloni’r lleiafswm awdurdodedig sy’n ofynnol.

    C. A fydd newidiadau i unrhyw ffurflenni?

    A. Caiff cwmnïau barhau i ddefnyddio ffurflenni penodedig presennol 117 (cais am dystysgrif fasnachu) a 43(3) (cais cwmni preifat am ailgofrestru’n gwmni cyhoeddus), ond bydd angen iddynt eu haddasu yn ôl sy’n briodol fel eu bod yn cydymffurfio â’r darpariaethau newydd ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu wedi 6 Ebrill 2008.

    Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynhyrchu ffurflenni 117 a 43(3) dewisol, a gafodd eu haddasu i fodloni’r gofynion newydd ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu wedi 6 Ebrill 2008, a hwyrach y carai cwmnïau ddefnyddio’r rhain yn lle’r ffurflenni penodedig.

Archwilwyr Ariannol

Oes newidiadau i’r gofynion ar gyfer archwilwyr ac archwilio ariannol o dan Ddeddf Cwmnïau 2006?
Oes.  Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008 bydd raid i adroddiadau archwilwyr nodi, yn achos unigolyn, enw’r archwilydd a chael eu llofnodi ganddo/ganddi.   Lle mae’r archwilydd yn gwmni, rhaid i’r adroddiad nodi enw’r archwilydd statudol uchaf ei safle, enw’r cwmni a chael ei lofnodi gan yr archwilydd statudol yn ei (h)enw ei hun.  Rhaid i bob llofnod ar adroddiadau archwilwyr fod wedi ei ddyddio.

A fydd unrhyw eithrio rhag gorfod datgan enw’r archwilydd ar yr adroddiad archwilio ariannol?
Bydd.  Os teimla’r cwmni fod peryg trais neu fygwth difrifol i archwilydd neu rywun arall o ganlyniad i ddatgan enw’r archwilydd, caiff fabwysiadu penderfyniad i hepgor yr enw.   Rhaid cyflwyno hysbysiad am y penderfyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol.  Dim ond i adroddiadau archwilio ariannol sy’n cyfeirio at gyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 06 Ebrill 2008 y bydd hyn yn gymwys.
Nodyn – ni ddylid o dan unrhyw amgylchiadau ffeilio copi o’r penderfyniad neu’r hysbysiad yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Oes yna newidiadau eraill yn Rhan 16 – Archwilio Ariannol?
Oes.   Mae adran 507 bellach yn cynnwys tramgwydd lle bo rhywun yn peri, yn ymwybodol neu’n ddi-hid, i adroddiad archwilwyr gynnwys deunydd camarweiniol, anwir neu dwyllodrus.  Bydd y sawl sy’n euog o’r tramgwydd hwn yn agored i ddirwy hyd at uchafswm o £5000.
Mae adrannau 522-525 yn ddarpariaethau newydd sy’n cyflwyno dyletswyddau newydd ar archwilwyr a chwmnïau i roi gwybod i’r awdurdodau priodol wrth i archwilydd roi heibio i’w swydd, gan nodi’r amgylchiadau neu’r rhesymau os o gwbl.     

Brig
Ein polisi ar gwcis