Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

1 Hydref 2008

Daeth y darpariaethau canlynol o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn dod i rym ar 1 Hydref 2008:

  • Gwrthwynebu Enwau Cwmni – Adrannau 69 i 74
  • Datgeliadau Masnachu – Adrannau 82 i 85
  • Cyfarwyddwyr corfforaethol a chyfarwyddwyr tan-oed – Adrannau 155 i 159
  • Darpariaethau’n ymwneud â ‘dyletswyddau gwrthdrawiad buddiannau’ cyfarwyddwyr – Rhan 10
  • Lleihau’r cyfalaf cyfrannau drwy ddatganiad ansolfedd – Adrannau 641 i 644
  • Rheoli rhoddion a gwariant gwleidyddol, darpariaethau’n ymwneud ag ymgeisydd annibynnol – Adrannau 362 i 379
  • Pŵer y llys i ganiatáu gollyngdod mewn rhai achosion – Adran 1157
  • Adfer hawliadau anaf personol i gwmnïau a gafodd eu diddymu cyn 16 Tachwedd 1969 – Adran 1295 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 16 (dirymiadau)

Newidiadau eraill a daeth i rym ar 1 Hydref 2008

  • Diddymu’r cyfyngiadau ar gymorth ariannol i feddiannu cyfrannau cwmnïau preifat – Adrannau 151 i 153 a 155 i 158 (Deddf 1985)
  • Newidiadau i’r gofynion o ran y ffurflen flynyddol (Deddf 1985)
  • Newidiadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig i gysoni’r cynnwys o ran cyfrifon â’r rheoliadau cwmni.

Gwrthwynebu Enwau Cwmni a'r Tribiwnlys Enwau Cwmni Adran 69 - 74

C. Oedd y rheolau o ran gwrthwynebu enwau tebyg wedi newid ym mis Hydref 2008?
A. Oedd. O fis Hydref 2008 ymlaen, mae rhai rheolau newydd yn gymwys o dan adrannau 69 i 74 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae rhain yn caniatáu cwyno lle cafodd cwmni ei gofrestru gyda’r bwriad o fynnu arian gan yr achwynydd neu er mwyn ei atal rhag cofrestru enw y mae ganddo ewyllys da ynddo (“cofrestru manteisgar”). Mae rhagor o wybodaeth am y Tribiwnlys Enwau Cwmni a’r gost mewn cysylltiad â’r wasanaeth hon  i’w chael yn www.ipo.gov.uk/cna

C. Pwy gaiff wrthwynebu enw cwmni o dan y rheolau newydd hyn?
A. Caiff unrhyw berson neu gwmni wrthwynebu enw cwmni.

C. Oes modd anfon i Dŷ’r Cwmnïau wrthwynebiad i enw cwmni ar sail cofrestru manteisgar?
A. Nac oes. Rhaid i bob gwrthwynebiad ynglŷn â chofrestru manteisgar gael ei anfon i’r Tribiwnlys Enwau Cwmni newydd annibynnol (a elwir hefyd y ‘Dyfarnydd’), fydd yn seiliedig yn Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Dim ond am wrthwynebiadau ‘rhy debyg’ ac ‘yr un fath’ y mae Tŷ’r Cwmnïau’n gyfrifol.

C. Beth fydd yn digwydd os derbynnir cwyn yng nghyswllt cofrestru manteisgar?
A. Gall y Tribiwnlys Enwau Cwmni wneud gorchymyn i gyfarwyddo’r cwmni i newid ei enw. Os bydd y cwmni’n methu cydymffurfio, gall y Tribiwnlys ddewis enw newydd i’r cwmni.

C. A gaiff cwmni apelio yn erbyn dyfarniad y Tribiwnlys Enwau Cwmni?
A. Caiff, caiff cwmni apelio i’r Uchel Lys.

C. A fydd y rheolau newydd hyn yn gymwys i gwmnïau a gafodd eu cofrestru cyn mis Hydref 2008?
A. Byddan. Bydd rheolau’r Tribiwnlys Enwau Cwmni yn ôl-weithredol.

Mae rhagor o wybodaeth  i’w chael yn www.ipo.gov.uk/cna.

Datgeliadau Masnachu – Adrannau 82 i 85

C. Ble mae’n rhaid imi ddatgelu enw fy nghwmni?
A. Rhaid i bob cwmni ddangos ei enw cofrestredig:
- yn ei swyddfa gofrestredig a’i fan archwilio. Fodd bynnag, bydd cwmnïau segur wedi’u heithrio o 1 Hydref 2008 ymlaen. 
- mewn unrhyw leoliad lle mae’r cwmni’n cynnal busnes. Ond os defnyddir y lleoliad hwnnw’n bennaf fel lle byw (er enghraifft, cyfeiriad cyfarwyddwr), caiff y cwmni ei eithrio.
- ar ohebiaeth a dogfennau busnes y cwmni. Mae hyn yn cynnwys copïau caled o ddogfennau neu’r diwyg electronig neu unrhyw ddiwyg arall.

C. Sut mae’n rhaid datgelu enw’r cwmni?
A. Rhaid i enw’r cwmni gael ei ddangos yn ddi-baid, ond o fis Hydref 2008 ymlaen, os ydych yn un o chwech neu ragor o gwmnïau sy’n rhannu swyddfa neu fan busnes, dim ond am bymtheg eiliad bob tair munud y bydd yn ofynnol ichi ddangos yr enw. Hwyrach y byddwch am fanteisio ar arddangosiadau electronig at y diben hwn.

C. Oes rhaid i enw cyhoeddedig y cwmni fod yr un fath yn union â’r enw cofrestredig?
A. O fis Hydref 2008 ymlaen, caiff mân amrywiadau ar ffurf yr enw eu caniatáu, gan gynnwys amrywio llythrennau bach a mawr, defnydd atalnodi, acenion, ac ati, a fformadu. Ond rhaid i’r gwahaniaethau beidio ag arwain at beryg dryswch.

C. Beth sydd angen imi ei ddangos ar fy llythyrau busnes, ar archebion ac ar wefannau?
A. Enw, rhif, man cofrestru a swyddfa gofrestredig y cwmni.

C. Alla i i wneud cais am fanylion cwmni yn ysgrifenedig?
A. Gallwch. O fis Hydref 2008 ymlaen, caiff rhywun fynnu gwybodaeth yn ysgrifenedig gan gwmni y mae’n delio ag ef, gan gynnwys cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, unrhyw fan archwilio a’r math o gofnodion cwmni a gaiff eu cadw yn y swyddfa neu’r fan honno. Rhaid i’r cwmni anfon ymateb ysgrifenedig i’r person hwnnw o fewn pum diwrnod gwaith i gael y cais.

C. Beth sy’n digwydd os bydd y cwmni’n methu cydymffurfio â’r gofynion datgelu masnachu?
A. Bydd y cwmni a phob un o’i swyddogion sy’n methu cydymffurfio yn cyflawni tramgwydd a gall fod yn agored i’w ddirwyo.

Ond o fis Hydref 2008 ymlaen caiff yr atebolrwydd sifil personol ei ddileu. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, pe bai swyddog yn llofnodi siec ar ran y cwmni, na fydd mwyach yn bersonol atebol i ddeiliad y siec am unrhyw arian.

Cyfarwyddwyr corfforaethol a chyfarwyddwyr tan-oed – Adrannau 155 i 159

Cyfarwyddwyr Corfforaethol
Bydd yn ofynnol i gwmni fod ag o leiaf un cyfarwyddwr sy’n berson naturiol - yn unigolyn.

Sut bydd y gofyniad newydd hwn yn effeithio ar gyfarwyddwyr corfforaethol cwmnïau presennol?
O 1 Hydref 2008 ymlaen, mae’n rhaid i bob cwmni fod ag o leiaf un cyfarwyddwr sy’n berson naturiol, er y bydd cyfnod gras tan fis Hydref 2010 i unrhyw gwmni oedd â chyfarwyddwyr corfforaethol yn unig ar y dydd y cafodd y Ddeddf Cwmnïau Gymeradwyaeth y Frenhines, sef 8 Tachwedd 2006.

Cyfarwyddwyr Tan-oed
Mae’r Ddeddf yn cyflwyno oedran isaf i gyfarwyddwyr, sef 16 oed. Daeth hyn i rym ar 1 Hydref 2008.

Beth sydd yn digwydd i gyfarwyddwyr presennol sydd o dan 16 oed ar 1 Hydref 2008?
Bydd safleoedd presennol fel cyfarwyddwr tan-oed yn dod i ben, heb orfod rhoi gwybod i’r Cofrestrydd.

Ydy hi’n ofynnol i’r cwmni ddiwygio unrhyw gofnodion cwmni?
Ydy, bydd yn ofynnol i’r cwmni ddiwygio’r gofrestr gyfarwyddwyr i adlewyrchu’r ffaith bod y penodiad wedi dod i ben.

Ydy’r y rheolau cyfarwyddwyr tan-oed yn gymwys yn ôl-weithredol?
Ydy. Lle bo rhywun a benodwyd yn gyfarwyddwr cwmni cyn gweithredu adran 157 (oedran isaf ar gyfer penodi’n gyfarwyddwr) heb gyrraedd 16 oed erbyn 1 Hydref 2008, mae’r person hwnnw yn peidio â bod yn gyfarwyddwr.

Beth os yw’r cwmni wedi’i adael heb gyfarwyddwr cymwys o ganlyniad i’r newidiadau?
Mae cwmnïau sydd heb gyfarwyddwr cymwys yn gyfreithiol ddiffygiol ac mae angen iddynt benodi o leiaf un cyfarwyddwr i unioni’r sefyllfa..

Darpariaethau’n ymwneud â ‘dyletswyddau gwrthdrawiad buddiannau’ cyfarwyddwyr – Rhan 10

Mae’r newidiadau hyn yn cwmpasu dyletswydd cyfarwyddwyr i osgoi gwrthdrawiad buddiannau drwy beidio â derbyn buddion gan drydydd partïon a’u dyletswydd i ddatgelu buddiant mewn trafodion neu drefniadau arfaethedig.

Mae’r adrannau canlynol yn ymwneud a gwrthdrawiad buddiannau cyfarwyddwyr a daeth i rym ym mis Hydref 2008..

Adran175 – Dyletswydd i osgoi gwrthdrawiad buddiannau
Adran 176 –Dyletswydd i osgoi buddion gan drydydd partion
Adran177 – Dyletswydd i ddatgelu buddiant mewn trafodion neu drefniadau arfaethedig
Adran 180(1) i (3) a (4)(b) – Cydsyniad, cymeradwyaeth neu awdurdodiad aelodau
Adran 181(2) a (3) – Addasu darpariaethau neilltuol gyda golwg ar gwmnïau elusennol

Lleihau’r cyfalaf cyfrannau drwy ddatganiad solfedd – Adrannau 641(1)(a) a (2)-(6), 642 i 644

Fel dewis arall yn lle mabwysiadu penderfyniad arbennig a sicrhau cymeradwyaeth y llys, bydd cwmnïau preifat yn cael dewis lleihau swm eu cyfalaf cyfrannau drwy benderfyniad arbennig wedi’i ategu gan ddatganiad solfedd wedi’i wneud gan y cyfarwyddwyr.  Bydd yn rhaid i’r penderfyniad a’r datganiad solfedd, gyda datganiad cyfarwyddwyr ychwanegol a memorandwm cyfalaf yn dangos y newid i gyfalaf cyfrannau’r cwmni, gael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau.

Sylwer: ar gyfer datganiadau solfedd a gaiff eu gwneud rhwng 1 Hydref 2008 a 30 Medi 2009, mae’n rhaid i femorandwm cyfalaf (yn unol â diffiniad Gorchymyn Deddf Cwmnïau 2006 (Dechreuad Rhif 7, Darpariaethau Dros Dro ac Arbedion) 2008 http://www.opsi.gov.uk/si/si2008/uksi_20081886_en_1) gael ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau. Ar gyfer datganiadau solfedd a gaiff eu gwneud ar neu wedi 1 Hydref 2009, rhaid cyflwyno, yn lle’r memorandwm hwn, ddatganiad cyfalaf yn unol â diffiniad adran 644(2) o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Beth yw diben cyflwyno trefn y datganiad solfedd?
Mae trefn y datganiad solfedd yn cynnig ffordd symlach a rhatach i gwmni leihau ei gyfalaf cyfrannau.

Sut y penderfynir ffurf a chynnwys y datganiad solfedd?
Ni all Tŷ’r Cwmnïau roi cyngor ar gynnwys y datganiad solfedd a fynnir gan adran 643 o Ddeddf 2006. Rhaid i’r datganiad gael ei greu gan y cwmni i’w aelodau ac mae’r cynnwys wedi’i lywio gan ad643.
http://www.legislation.gov.uk/ukpga/acts2006/ukpga_20060046_en.pdf

Mae ffurf y datganiad wedi’i llywio gan reoliadau – Gorchymyn (Lleihau Cyfalaf Cyfrannau) Cwmnïau 2008
http://www.opsi.gov.uk/si/si2008/uksi_20081915_en_1

Mae copïau o’r Ddeddf Cwmnïau a’r rheoliadau ar gael ar wefan BERR.

At ddibenion cofrestru, dylid cynnwys enw a rhif y cwmni ar y copi o’r datganiad a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau.

Pam nad yw’r gofyniad hwn yn dod i rym gyda gweddill Rhan 17 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ar 1 Hydref 2009?
Mae byd busnes yn cefnogi cyflwyno’r datganiad solfedd mor fuan ag y bo modd, gan ei fod yn drefn fydd yn sicrhau buddion o ran rhwyddineb a chost. Felly, daeth y darpariaethau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2008, a gweddill Rhan 17 ar 1 Hydref 2009.

Yn absenoldeb y gorolwg llys, pa ddarpariaethau diogelu sy’n bod i ymochel rhag camfanteisio ar drefn y datganiad solfedd?
Os bydd cyfarwyddwyr cwmni yn gwneud datganiad solfedd heb sail resymol i’r farn a gyfleir ynddo, a bod y datganiad yn cael ei gyflwyno i’r Cofrestrydd, bydd pob cyfarwyddwr unigol sydd heb gydymffurfio’n briodol wedi cyflawni tramgwydd. Gellir cosbi’r tramgwydd drwy ddirwy neu gyfnod hwyaf o ddwy flynedd yn y carchar, neu’r ddau.

Ydy’r broses newydd hon hefyd ar gael i gwmnïau cyhoeddus?
Nac ydy, dim ond i gwmnïau preifat y mae’r datganiad solfedd ar gael. Bydd modd o hyd i gwmnïau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd leihau eu cyfalaf cyfrannau drwy benderfyniad arbennig wedi’i gadarnhau gan orchymyn llys.

Rheoli rhoddion a gwariant gwleidyddol, darpariaethau’n ymwneud ag ymgeisydd annibynnol – Adrannau 362 i 379

Mae Rhan 14 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gwmni gael ei awdurdodi gan ei aelodau cyn iddo roi rhodd wleidyddol sy’n uwch na £5000 mewn un flwyddyn i blaid wleidyddol, corff gwleidyddol neu ymgeisydd annibynnol (nad yw’n aelod o blaid wleidyddol ond sy’n ymgynnig i’w ethol i swydd gyhoeddus).

Rhaid hefyd i gwmni gael ei awdurdodi gan ei aelodau cyn tynnu gwariant mewn cysylltiad â gweithgareddau gwleidyddol fel hysbysebu, hybu neu gefnogi plaid wleidyddol, corff gwleidyddol neu ymgeisydd annibynnol mewn etholiad mewn rhyw ffordd arall.

Bydd y gweithredu fel a ganlyn:
Gyda golwg ar bleidiau gwleidyddol a chyrff gwleidyddol eraill, cafodd y gofyniad awdurdodi ei weithredu:

  • Ym Mhrydain Fawr o 01/10/07 ymlaen
  • Yng Ngogledd Iwerddon o 01/11/07 ymlaen

Fodd bynnag, nid oedd hyn yn gymwys i roddion na gwariant yng nghyswllt ymgeiswyr annibynnol. Ar gyfer ymgeiswyr annibynnol gweithredir o 01/10/08 ymlaen a bydd hyn yn gymwys i Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon fel ei gilydd.

Nid yw gweithrediad 1 Hydref 2008 ond yn estyn, ar gyfer ymgeiswyr annibynnol, y rheolaeth dros roddion a gwariant gwleidyddol cwmnïau oedd eisoes yn gymwys i bleidiau a chyrff gwleidyddol o’r llynedd ymlaen.

Pŵer y llys i ganiatáu gollyngdod mewn rhai achosion – Adran 1157

Mae’r darn hwn yn ailddatgan adran 727 o Ddeddf 1985.

Caiff swyddog cwmni, e.e. cyfarwyddwr neu rywun a gyflogir gan y cwmni megis archwilydd ariannol, wneud cais i’r llys am gael ei ollwng rhag bod yn atebol am esgeulustod etc. Gall y llys ganiatáu gollyngdod mewn rhai amgylchiadau os yw’r person wedi gweithredu’n onest a rhesymol.


Newidiadau eraill a daeth i rym ar 1 Hydref 2008

Adfer hawliadau anaf personol i gwmnïau a gafodd eu diddymu cyn 16 Tachwedd 1969 – Adran 1295 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 16 (dirymiadau) (dirymiadau).

Mae adfer i’r Gofrestr o dan Ddeddf 2006 wedi’i gynnwys ym Mhennod 3 o Ran 31, a fydd yn dod i rym o 1 Hydref 2009 ymlaen. Gellir gwneud ceisiadau o dan adran 1030 unrhyw adeg gyda’r nod o ddwyn achos yn erbyn cwmni am iawndal yng nghyswllt anaf personol. Nid yw Deddf 2006 yn ailddatgan y gwaharddiad presennol o ran adfer cwmnïau a gafodd eu diddymu cyn 1969 (neu 1971 yng Ngogledd Iwerddon).

Gan na fydd y gwaharddiad yn cael ei gadw, mae’r Llywodraeth o’r farn y byddai’n ddymunol ei ddileu heb aros i Ran 31 o Ddeddf 2006 ddod i rym ym mis Hydref 2009. Mae’r dirymiadau perthnasol wedi’u cynnwys yn y Seithfed Gorchymyn Dechrau, sydd i ddod i rym o 1 Hydref 2008 ymlaen. Bydd y Seithfed Gorchymyn Dechrau yn rhoi cychwyn i Ran 1295 o Ddeddf 2006, ac i Atodlen 16 (dirymiadau), i’r graddau bod y rheiny’n cyfeirio at ddirymu ail frawddeg adran 141(4) o Ddeddf Cwmnïau 1989 ac ail frawddeg Erthygl 75(4) o Orchymyn Cwmnïau (Rhif 2) (Gogledd Iwerddon) 1990.

Mae’r gwaharddiad presennol yn golygu na all rhai cyn-weithwyr neu eu hystadau hawlio iawndal ar gyfer anaf personol neu ddamwain angheuol, naill ai gan y cwmni cyflogi, gan ei yswirwyr neu o dan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol, am y rheswm syml bod y cwmni wedi cael ei ddiddymu cyn 1969 (neu 1971 yng Ngogledd Iwerddon). Felly, gallai dileu’r gwaharddiad alluogi cyn-weithwyr o’r fath neu eu hystadau i sicrhau iawndal nad yw ar gael iddynt ar hyn o bryd. Gallai hyn fod yn berthnasol yn arbennig i rai sy’n dioddef clefydau a elwir yn dymor-hir, fel mesothelioma.

Dileu’r cyfyngiadau o ran cymorth ariannol i feddiannu cyfrannau cwmnïau preifat – Adrannau 151 i 153 a 155 i 158 (Deddf 1985)

Ydy cwmnïau preifat i gael eu gwahardd rhag rhoi cymorth ariannol i feddiannu’u cyfrannau eu hun o dan Ddeddf Cwmnïau 2006?
Ni fydd Deddf Cwmnïau 2006 yn atal cwmni preifat rhag rhoi cymorth ariannol i feddiannu’i gyfrannau ei hun (ond os oes ganddo isgwmni sy’n gyhoeddus, ni chaiff y cwmni cyhoeddus gynorthwyo meddiannu cyfrannau yn y cwmni-dal preifat). Mae Deddf Cwmnïau 1985 yn atal cwmnïau preifat rhag rhoi cymorth ariannol i feddiannu’u cyfrannau eu hun oni bai bod amodau arbennig yn cael eu bodloni. Cafodd y gwaharddiad ei ddiddymu ym mis Hydref 2008: tan hynny, ar gyfer cymorth a gaiff ei roi ar neu wedi 1 Hyderf 2008,  mae’r gwaharddiad yn dal mewn grym.

Pryd y newidir y rheolau sy’n llywodraethu cymorth ariannol cwmnïau preifat a chyhoeddus i feddiannu’u cyfrannu eu hun neu gyfrannau eu cwmnïau dal?
Newidiodd y rheolau i gwmnïau preifat ar 1 Hydref 2008. Ni fydd y rheolau’n newid i gwmnïau cyhoeddus.

Pam nad yw’r newidiadau i’r darpariaethau cymorth ariannol yn dod i rym gyda gweddill y darpariaethau cyfalaf cyfrannau ym mis Hydref 2009?
Er bod cymorth ariannol yn rhan o ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â chyfalaf cyfrannau, mater syml yw dileu’r gwaharddiad i gwmnïau preifat a phwnc ‘gwyngalchu’ ar wahân i’r darpariaethau hynny, a dyna pam bod y dileu yn dod i rym ym mis Hydref 08. Mae byd busnes yn croesawu dechreuad cynnar y darpariaethau hyn.

Sut bydd y newidiadau i’r rheolau sy’n llywodraethu cymorth ariannol i feddiannu cyfrannau, fel y cânt eu cyflwyno gan Ddeddf Cwmnïau 2006, yn effeithio ar gwmnïau preifat a chyhoeddus?
Mae Deddf Cwmnïau 1985 yn atal cwmni rhag rhoi cymorth ariannol (er enghraifft, drwy fenthyciad anfasnachol) i feddiannu’i gyfrannau ei hun neu gyfrannau ei gwmni dal: ond un eithriad yw bod cwmnïau preifat yn cael rhoi cymorth o’r fath drwy drefn gymhleth a chostus y cyfeirir ati’n aml fel ‘gwyngalchu.

O dan Ddeddf Cwmnïau 2006, caiff y gwaharddiad ar roi cymorth ariannol ei ddileu’n llwyr i gwmnïau preifat ond bydd yn aros mewn grym i gwmnïau cyhoeddus.

Ydy’r gweithrediadau hyn yn effeithio o gwbl ar ffurflenni Tŷ’r Cwmnïau?
Mae’r newidiadau hyn yn golygu, lle rhoir cymorth ariannol ar neu wedi 1 Hydref 2008, na fydd angen mwyach i gwmnïau ffeilio’r ffurflenni canlynol:

  • 155(6a) – Datganiad yng nghyswllt cymorth i feddiannu cyfrannau
  • 155(6b) – Datganiad gan gyfarwyddwyr cwmni dal yng nghyswllt cymorth i feddiannu cyfrannau
  • 157 – Hysbysiad am gais wedi’i wneud i’r llys am ddileu penderfyniad arbennig ynglŷn â chymorth ariannol (i feddiannu cyfrannau)

Newidiadau i’r gofynion o ran y ffurflen flynyddol (Deddf 1985)
ar gyfer Ffurflenni Blynyddol yn bodloni cyfnodau’n dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2008

Daethpwyd i rym ag adrannau 116-119 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ym mis Hydref 2007, gan ganiatáu i gwmnïau gyfyngu’r mynediad i’w cofrestr aelodau.  I hwyluso hyn, bydd ffurflenni blynyddol sy’n bodloni cyfnod sy’n diweddu ar neu wedi 1 Hydref 2008 yn cynnwys llai o wybodaeth am gyfranddeiliaid y cwmni.  Bydd yr wybodaeth a gaiff ei datgelu ar y ffurflen flynyddol yn dibynnu ar b’un a dderbyniwyd unrhyw rai o gyfrannau’r cwmni i’r drefn fasnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio (cwmni masnachedig).  Dim ond enwau’r cyfranddeiliaid, nid eu cyfeiriadau, y mae’n ofynnol i gwmnïau preifat a chwmnïau cyhoeddus anfasnachedig eu darparu. Mae’n ofynnol i gwmnïau cyhoeddus masnachedig ddarparu enwau a chyfeiriadau’r cyfranddeiliaid hynny sy’n dal o leiaf 5% o unrhyw ddosbarth o gyfrannau.

Pam bod y ffurflen flynyddol yn newid?
Mae’r ffurflen wedi newid fel mai dim ond manylion priodol y cyfranddeiliaid y mae angen eu cofnodi, yn ôl a yw’r cwmni’n un cyhoeddus masnachedig neu beidio.  Mae hyn yn golygu nad yw’n ofynnol i unrhyw gwmni gynnwys cyfeiriadau ei holl gyfranddeiliaid. Mae copi enghreifftiol o’r Ffurflen Flynyddol ar gael drwy glicio yma.

Alla i ddefnyddio’r ffurflen flynyddol newydd os yw fy manylion yn bodloni cyfnod sy’n dod i ben cyn 1 Hydref 2008?
Na allwch. Dim ond i ffurflenni blynyddol sy’n bodloni cyfnodau’n dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2008 y mae’r ddeddfwriaeth yn gymwys.  Rhaid ichi barhau i ddefnyddio fersiynau cyfredol y ffurflen flynyddol ar gyfer cyfnodau’n dod i ben cyn 1 Hydref 2008, ni waeth pa bryd y cânt eu ffeilio.

Beth yw cwmni cyhoeddus masnachedig?
Mae cwmni cyhoeddus masnachedig yn un y cafodd unrhyw rai o’i gyfrannau eu derbyn i’w masnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio (nid yw AIM yn farchnad wedi’i rheoleiddio: gweler www.londonstockexchange.com). Ni fyddai gan gwmni preifat gyfrannau a gafodd eu derbyn i’w masnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio oni bai bod y cwmni gynt yn gwmni cyhoeddus masnachedig.

Pam bod rhaid i gwmnïau cyhoeddus masnachedig wneud y datgelu ychwanegol?
Mae cwmnïau cyhoeddus masnachedig yn dod o dan drefn datgelu cyfranddaliadau’r Gyfarwyddeb Rhwymedigaethau Tryloywder (2004/109/EC).  Mae’n ofynnol i’r cwmnïau hyn roi gwybod i’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol lle mae mesurau arbennig, gan ddechrau gyda 5%, o holl hawliau pleidleisio unrhyw ddosbarth o gyfrannau wedi’u dal gan gyfranddeiliad unigol.  Mae gwybodaeth bellach i’w chael ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol www.fsa.gov.uk/pages/index.shtml.

Oes yna gwmnïau cyhoeddus masnachedig sydd wedi’u heithrio rhag y datgelu ychwanegol hwn?
Nid yw cwmnïau sy’n masnachu ar AIM yn dod o dan y Gyfarwyddeb Rhwymedigaethau Tryloywder, felly does dim rhaid iddyn nhw ddatgelu cyfeiriadau eu cyfranddeiliaid.  Dylai’r rhain gwblhau eu ffurflen flynyddol fel cwmni cyhoeddus anfasnachedig, gan nodi manylion eu cyfranddeiliaid yn Atodiad A.

Ai dim ond i gwmnïau cyhoeddus a gaiff eu masnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio yn y DU y mae hyn yn gymwys?
Nage.  Mae marchnad wedi’i rheoleiddio yn golygu un sy’n ymddangos mewn rhestr a gafodd ei llunio gan un o wladwriaethau’r AEE yn unol ag Erthygl 47 o Gyfarwyddeb 2004/39/EC gan Senedd Ewrop a’r Cyngor, dyddiedig 21 Ebrill 2004, mewn cysylltiad â marchnadoedd offerynnau ariannol.

Beth sy’n digwydd os oes gan y cwmni cyhoeddus gyfrannau a gaiff eu masnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio a rhai na chânt: oes rhaid cwblhau’r ddau atodiad?
Nac oes, dim ond Atodiad B.  Os cafodd unrhyw gyfrannau eu masnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio yn ystod cyfnod y ffurflen flynyddol, rhaid marcio’r blwch “masnachedig” a chwblhau Atodiad B ar gyfer pob dosbarth o gyfrannau, p’un a gaiff y dosbarth hwnnw ei fasnachu neu beidio.

Beth mae cwmni cyhoeddus masnachedig yn ei gofnodi ar gyfer cyfranddeiliaid sy’n dal llai na 5%?
Does dim angen manylion ar gyfer cyfranddeiliaid sy’n dal neu sy’n parhau i ddal llai na 5% o unrhyw fath unigol o gyfrannau a gafodd eu dosbarthu.

Beth fydd yn digwydd os bydd cwmni preifat neu gwmni cyhoeddus anfasnachedig yn cofnodi cyfeiriadau cyfranddeiliaid ar eu ffurflen flynyddol?
Gwrthodir ffurflenni blynyddol y cwmnïau hyn er mwyn i’r wybodaeth ychwanegol gael ei dileu.  Fodd bynnag, ni fydd ein system WebFiling yn caniatáu cofnodi cyfeiriadau cyfranddeiliaid ar gyfer cwmnïau preifat neu rai cyhoeddus anfasnachedig.

Pam na cha i ddewis ffeilio’r wybodaeth ychwanegol am gyfranddeiliaid?
Caiff y ffurflen flynyddol ei rhoi ar y cofnod cyhoeddus.  Mae hyn yn golygu bod rhaid iddi beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth am gyfranddeiliaid nad yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith; fel arall, byddai’r ffurflen yn torri’r Ddeddf Gwarchod Data.

A fydd cyfeiriadau aelodau neu gyfranddeiliaid ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau o hyd?
Lle cyflewyd cyfeiriadau i Dŷ’r Cwmnïau fel rhan o ffurflen flynyddol cwmni cyhoeddus masnachedig, trefnir i’r rhain fod ar gael i’r cyhoedd o hyd.  Byddwn yn gwrthod unrhyw ffurflen flynyddol sy’n cynnwys cyfeiriadau cyfranddeiliaid os nad yw’r cwmni’n un masnachedig.

A fydd modd i gwmni fanteisio ar hyn cyn bod ei ffurflen flynyddol nesa’n ddyledus?
Bydd, caiff cwmni gyflwyno’n unig ffurflen flynyddol yn bodloni cyfnod yn dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2008 er mwyn manteisio ar y gofynion datgelu is.  Caiff cwmni drefnu i’w ffurflen flynyddol fodloni cyfnod yn dod i ben ar unrhyw ddyddiad a fynna, ar yr amod na fydd hwnnw’n ddiweddarach na blwyddyn ar ôl y ffurflen flynyddol ddiwethaf (neu’r dyddiad corffori yn achos ffurflen flynyddol gynta’r cwmni).

Beth os bydd cwmni sy’n cyflwyno ffurflen flynyddol gynharach yn dymuno adfer ei gylch dogfennau drwy gyflwyno ffurflen flynyddol arall ar ei dyddiad dyledus gwreiddiol?
Bydd modd i’r cwmni adfer ei gylch dogfennau unrhyw bryd, ond bydd unrhyw ffurflen flynyddol sy’n bodloni cyfnod sy’n dod i ben cyn 1 Hydref 2008 yn dod o dan y gofynion cyfredol. Mae hyn yn golygu, i gwmni sydd â chyfalaf cyfrannau, y bydd yn rhaid iddo gynnwys enw a chyfeiriad pob aelod (neu bawb a roes heibio i fod yn aelodau neu a ddaeth yn aelodau ers y ffurflen ddiwethaf).

Newidiadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig i gysoni’r cynnwys o ran cyfrifon â’r rheoliadau cwmni.

Gwneir rheoliadau newydd ar gyfer Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig, yn cymhwyso rhannau 15, 16 a 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Bydd hefyd reoliadau ar wahân ynglŷn â ffurf a chynnwys cyfrifon, yn gyson â rheoliadau’r Ddeddf Cwmnïau. Daeth rhain i rym ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2008.

Brig
Ein polisi ar gwcis