Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

1af Hydref 2009

Hwn yw prif weithrediad Deddf Cwmnïau, ac mae’n gynnwys yr adrannau canlynnol:

Cywiro Anffurfiol

Pwerau’r Cofrestrydd

Gogledd Iwerddon

Ffurflenni 

Corffori

Newid y Cyfansoddiad

Newid Enwau Cwmni

Triniaeth Enw’r Cwmni

Cyfeiriadau Cyflwyno Hysbysiadau Cyfarwyddwyr

Adfer Gweinyddol

Lleoliad Archwilio Unigol Amgen (SAIL)

Diddymu Gwirfoddol

Datganiad Cyfalaf

Arwystlon Slavenburg

 

Pwerau’r Cofrestrydd

O 1 Hydref 2009 ymlaen, mae Rhan 35 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn rhoi ystod o bwerau i’r cofrestrydd Cwmnïau. Mae’r rhain yn cynnwys pwerau i benderfynu ymha ffurf a dull y gall ac mae’n rhaid i gwmnïau gyflwyno dogfennau, beth sydd angen er mwyn i ddogfen gael ei chyflwyno’n briodol, darparu’r drefn electronig ar gyfer dogfennau arbennig, a diwygiadau i’r gofrestr.

Pwerau’n ymwneud â chyflwyno gwybodaeth:

Ffurf, dilysiad a dull cyflwyno gwybodaeth.

Yn diffinio sut olwg fydd ar wybodaeth gwmni, sut y gellir ei dilysu a sut y dylid ei chyflwyno.

Cyflwyniad priodol gwybodaeth.

Mae hyn yn gosod y gofynion y mae’n rhaid i gwmnïau eu bodloni wrth anfon dogfennau, er enghraifft llofnodion, ffioedd ac ati. Os bydd cwmnïau’n methu cwrdd â’r gofynion hyn, bydd y cofrestrydd fel arfer yn gwrthod y ddogfen. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau gall benderfynu derbyn dogfen hyd yn oed os na chafodd ei chyflwyno’n briodol.

Beth sy’n digwydd lle bo’r cofrestrydd yn derbyn dogfen na chafodd mo’i chyflwyno’n briodol. Ydy cofrestriad dogfen yn dileu’r angen am gyflwyno’r ddogfen yn briodol?

Nac ydy, gall y cofrestrydd benderfynu cymryd camau pellach ar ôl y cofrestru, e.e. yn sgil cwyn gan rywun arall. Byddai’r cofrestrydd yn anfon llythyrau at y cwmni yn gofyn iddynt ffeilio dogfen sy’n cydymffurfio â’r gofynion cyflwyno priodol. Pe baent yn methu ymateb, gall yn y pen draw anfon rhybudd at y cwmni yn rhoi iddynt 14 diwrnod i ffeilio dogfen sy’n cydymffurfio â’r gofynion cyflwyno priodol.

Pwerau i ddiwygio’r gofrestr

Drwy amryfusedd, gall cwmnïau weithiau gyflwyno mwy o wybodaeth nag sydd angen, e.e. cyfrifiadau treth mewnol na ydynt yn rhan o’r cyfrifon statudol.

Yn ôl pa bryd y byddwn yn sylwi ar yr wybodaeth ychwanegol, a ph’un a oes modd ei rhannu’n rhwydd o’r ddogfen wreiddiol, gall y cofrestrydd ddelio â hyn mewn sawl ffordd.

Os na allwn wahanu’r deunydd diangen yn rhwydd o’r ddogfen wreiddiol, bydd y cofrestrydd fel arfer yn gwrthod y ddogfen.

Os yw’r deunydd yn amlwg ac yn hawdd ei gwahanu, e.e. tudalen ychwanegol, byddwn fel arfer yn tynnu’r deunydd diangen i ffwrdd ac yn cofrestru’r ddogfen.

Os na sylwir ar y deunydd a’i fod yn cael ei gofrestru, gellir ei drin yn y dyfodol drwy’r drefn dileu gweinyddol.

Sut ydw i’n amnewid dogfen na chafodd mo’i chyflwyno’n briodol yn wreiddiol neu a oedd yn cynnwys gwybodaeth ddiangen?

Gall y cofrestrydd dderbyn dogfen arall yn lle un a gafodd ei chyflwyno o’r blaen dim ond:

  • os nad oedd yn bodloni’r gofynion o ran cyflwyno’n briodol, neu
  • os oedd yn cynnwys deunydd diangen.

Dim ond y person neu’r cwmni a gyflwynodd y ddogfen wreiddiol gaiff gyflwyno’r ddogfen amnewid, ac mae’n rhaid cyflwyno gyda honno ffurflen amnewid dogfen (RP01 neu LL RP01) sydd angen i gysylltu’r ddogfen amnewid â’r un wreiddiol.

Beth sy’n digwydd i’r ddogfen wreiddol?

Gall y cofrestrydd benderfynu yna a ddylid dileu’r ddogfen wreiddiol neu beidio, a bydd yn barnu pob achos yn ôl ei rinweddau unigol.

Beth yw anodi’r gofrestr?

Mae gan y cofrestrydd bwerau newydd i ychwanegu nodiadau at y gofrestr i roi gwybod i chwilwyr am unrhyw newid. Rhaid i’r anodiad gynnwys ymhlith pethau eraill:

  • dyddiad cyflwyno’r ddogfen
  • dyddiad amnewid y ddogfen a’r ffaith iddi gael ei hamnewid
  • dyddiad dileu unrhyw ddeunydd, o dan ba bŵer, a disgrifiad o’r deunydd.

Beth y gall y cofrestrydd ei wneud ynghylch anghysondeb ar y gofrestr?

I ddechrau, gall y cofrestrydd ysgrifennu at y cwmni yn eu gwahodd i ffeilio ddogfennau ychwanegol i gywiro’r anghysondeb. Os nad yw’r cwmni’n cydymffurfio, mae gan y cofrestrydd y pŵer yn y pen draw i anfon rhybudd anghysondeb ffurfiol at y cwmni yn mynnu iddynt gyflwyno dogfen amnewid neu ddogfennau ychwanegol. Os bydd y cwmni’n methu cydyffurfio â’r rhybudd, bydd y cwmni a phawb o’i swyddogion yn euog o dramgwydd ac yn agored i ddirwy o gael eu collfarnu.

Beth y gellir ei ddileu o’r gofrestr?

Gall y cofrestrydd ddileu’n weinyddol o’r gofrestr:

  • ddeunydd diangen, neu
  • ddogfen a gafodd ei hamnewid.

Cyn neu wrth ddileu unrhyw ddeunydd (heblaw ar gais y cwmni), mae’n rhaid i’r cofrestrydd roi gwybod i’r person a gyflwynodd y deunydd neu’r cwmni y mae’r deunydd yn ymwneud â nhw. Rhaid i’r hysbysiad gael ei ddyddio a nodi pa ddeunydd sydd i’w ddileu neu a gafodd ei ddileu.

Ydy hyn yn cwmpasu pob deunydd?

Nac ydy, mae deunydd na ellir ei ddileu yn cynnwys unrhyw beth sy’n dwyn goblygiadau cyfreithiol o ran ei gofrestriad mewn perthynas â’i:

  • ffurfiant
  • newid enw cwmni
  • ailgofestru
  • dod yn Gwmni Buddiant Cymunedol neu beidio â bod yn un
  • lleihau’r cyfalaf cyfrannau
  • newid y swyddfa gofrestredig
  • cofrestru arwystl
  • diddymu
  • gyfeiriad sy’n gyfeiriad cofrestredig person ar gyfer cyflwyno hysbysiadau

Nid yw’r drefn hon yn cwmpasu ceisiadau am unioni’r gofrestr.

Beth yw unioni’r gofrestr?

Mae unioni yn broses newydd ar gyfer dileu deunydd o’r gofrestr mewn amgylchiadau arbennig, sef:

  • deunydd sy’n annilys neu’n aneffeithiol neu a gafodd ei gynhyrchu heb awdurdod y cwmni, neu
  • ddeunydd yn deillio o rywbeth oedd yn ffeithiol anghywir neu a gafodd ei ffugio.

Mae unioni yn caniatáu i’r cofrestrydd ddelio ag enghreifftiau o herwgipio cwmnïau a ffeilio ffug arall. Mae’n galluogi cwmnïau i ddileu gwallau o ddogfennau ar ôl eu cofrestru hefyd. Nid oedd pwerau o dan Ddeddf 1985 oedd yn galluogi’r cofrestrydd i ddileu dogfennau, ac eithrio drwy orchymyn llys.

Pa wybodaeth a gaiff ei chwmpasu gan y broses unioni?

Penodi, diswyddo a newid manylion cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion, a newid cyfeiriad y swyddfa gofrestredig.

Pwerau eraill y Cofrestrydd

Cytundebau i gyflwyno gwybodaeth gwmni’n electronig: sef, proses PROOF ( PROtected On line Filing).

Gall cwmni ffurfio cytundeb â’r cofrestrydd y bydd yn ffeilio dogfennau penodedig drwy’r dull electronig yn unig. Mae hyn yn caniatáu i gwmnïau ddiogelu’u hunain rhag y peryg o gael eu herwgipio neu weld ffeilio ffug yn eu herbyn.

Cadw dogfennau cwmni

Rhaid i’r cofrestrydd gadw y rhan mwyaf o ddogfennau papur am 3 blynedd: wedi hynny, gellir eu dinistrio cyhyd â bod copi ar gael o’r wybodaeth oedd ynddynt. O dan Ddedf Cwmnïau 1985 gynt, y cyfnod oedd 10 mlynedd.

Beth am gwmnïau a gafodd eu diddymu?

Unwaith bod cwmni wedi’i ddiddymu ers 2 flynedd, gall y cofrestrydd gyfarwyddo bod modd i’r cofnodion sy’n ymwneud â nhw gael eu symud i’r Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus, a fydd wedyn yn gyfrifol am gadw’r dogfennau yn unol â’u rheolau eu hun.

Pŵer i sicrhau na fydd gwybodaeth benodol ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd.

Gall cais gael ei wneud gan unigolyn, cwmni neu rywun sy’n cofrestru arwystl. Gall cyfarwyddwr neu ysgrifennydd wneud cais i’r cofrestrydd am i’w cyfeiriad preswyl arferol beidio â bod ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd os cafodd y cyfeiriad ei roi ar y cofnod cyhoeddus ar neu wedi 1 Ionawr 2003.

Gall cwmni wneud cais i’r cofrestrydd am i gyfeiriadau preswyl arferol eu holl aelodau, cyn-aelodau a thanysgrifwyr i’r memorandwm beidio â bod ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd os cafodd y cyfeiriadau eu rhoi ar y cofnod cyhoeddus ar neu wedi 1 Ionawr 2003.

Gall rhywun a gofrestrodd arwystl ar neu wedi 1 Ionawr 2003 wneud cais am i’r cyfeiriad a ddefnyddiodd wrth gyflwyno’r arwystl i’r cofrestrydd beidio â bod ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd.

Rhaid i bob cais fod ar sail neilltuol yn unol â diffiniad yn y canllaw Cyfyngu datgeliad eich cyfeiriad (GP7).

BrigBrig

Ffurflenni

Newidiwyd y rhan mwyaf o ffurfleni ac rydym wedi mabwysiadu cyfundrefn rifo newydd.  Felly, nid yw’r hen rifau oedd yn cydweddu â’r adran berthnasol o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn gymwys mwyach.  Rydym wedi defnyddio yn lle hynny ddisgrifydd ar sail swyddogaeth ar gyfer pob categori o ffurflenni.  E.e.  penodi cyfarwyddwr yw AP01, corffori cwmni yw IN01, etc.  Mae’r ffurflenni’n dal i gynnwys cyfeiriad at yr adran o Ddeddf 2006 ond ni fydd hyn yn rhan o’r rhif. Gweld holl ffurflenni Deddf 2006.

Pryd y bydd y newidiadau i'r ffurflenni'n dod i rym?

Cafodd y newidiadau i ffurflenni cwmni eu cyflwyno ar 1 Hydref 2009.

A fydd y mathau newydd o ffurflen yn cynnwys y cymal priodol?

Bydd rhif yr adran yn ymddangos ar y ffurflen ond nid y pennawd fel ar hyn o bryd.

BrigBrig

Corffori

I’w gwneud yn haws sefydlu a rhedeg cwmni, cyflwynwyd nifer o newidiadau i’r broses corffori cwmnïau. Trefnir ‘cyfnod clirio’ cyn y system gorffori newydd er mwyn prosesu unrhyw gais o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 sy’n dod i law cyn 1 Hydref 2009.

O dan y broses gorffori newydd bydd yn ofynnol cyflwyno cais am gofrestru cwmni (Ffurflen IN01c) gyda memorandwn cymdeithasiad, yr erthyglau cymdeithasiad a’r ffi gywir.

Mae’r memorandwm cymdeithasu yn  ddatganiad gan bob tanysgrifiwr sy’n cadarnhau eu bwriad i ffurfio cwmni ac i fod yn aelod o’r cwmni hwnnw. Os bydd cyfalaf cyfrannau gyda’r cwmni wrth gofrestru, rhaid i bob aelod cytuno â derbyn o leiaf un gyfran. Mae fformat y memorandwm yn cael ei gynnwys yn atodlenni 1 a 2 Rheoliadau Cwmnïau (Cofrestru) 2008 (OS 3014).

Bydd 3 math o erthyglau: erthyglau enghreifftiol, erthyglau enghreifftiol gyda darpariaethau wedi’u diwygio,ac erthyglau a baratowyd yn bwrpasol. Bydd yr erthyglau’n cynnwys rhwymedigaethau ac asedion y cwmni, ynghyd â’i amcanion.  Cynhwysir Erthyglau Enghreifftiol yn atodlenni 1-3 Rheoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) 2008.

Rhaid rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am newidiadau i erthyglau’r cwmni o fewn 15 diwrnod, a bydd methiant i gydymffurfio yn dramgwydd troseddol. Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno cosb sifil newydd o £200 am fethiant i gydymffurfio lle bo’r cwmni wedi derbyn rhybudd gan y Cofrestrydd.

Rhoir terfyn ar gyfalaf cyfrannau awdurdodedig/nominal wrth gorffori, sy’n golygu na fydd mwyach gyfyngiad yn y memorandwm ychwaith i nifer y cyfrannau y caiff cyfarwyddwyr eu dosbarthu. Ar hyn o bryd mae angen penderfyniad arbennig i gynyddu’r cyfalaf awdurdodedig os yw’r cyfarwyddwyr am ddosbarthu cyfrannau uwchlaw terfyn y memorandwm. Fodd bynnag, gall y cyfranddeiliaid geisio rheolaeth ar ddosbarthiad cyfrannau gan y Cyfarwyddwyr yn yr Erthyglau.

I gloi, caiff yr angen am i gyfreithiwr wneud datganiad cydymffurfio statudol ei ddisodli gan ddatganiad cydymffurfio statudol oddi wrth y cwmni – gyda’r nod hefyd o symleiddio’r broses corffori cwmnïau. Gellir gwneud y datganiad ar bapur neu’n electronig a does dim angen tystion. Bydd gwneud datganiad cydymffurfio ffug yn dramgwydd.

Newid y Cyfansoddiad

Gall yr erthyglau cymdeithasiad gynnwys darpariaethau ar gyfer sefydlu, gan bennu cyfyngiadau ar yr amodau er mwyn diwygio rhai o ddarpariaethau’r erthyglau. Gellir cyflwyno’r rhain wrth ffurfio’r cwmni neu ar ôl ei ffurfio, neu drwy orchymyn llys neu awdurdod arall.

Bydd yn ofynnol hefyd i gwmnïau ffeilio hysbysiad i roi gwybod i’r Cofrestrydd:

  • am bresenoldeb a dilead darpariaethau sefydlu o’r fath,
  • pan fydd y cwmni’n diwygio’i erthyglau a bod y rhain yn cynnwys darpariaethau sefydlu, a hefyd
  • pan gaiff cyfansoddiad y cwmni ei ddiwygio drwy orchymyn llys neu ddeddfiad.

Newid Enwau Cwmni

Caiff cwmni newid ei enw mewn 4 ffordd, sef:

  • penderfyniad,
  • penderfyniad amodol,
  • penderfyniad gan y cyfarwyddwyr,
  • dull y darperir ar ei gyfer yn erthyglau’r cwmni.

Rhaid i gwmnïau roi gwybod ‘r Cofrestrydd drwy gwblhau hysbysiad sydd ar gael ar gyfer pob dull. Rhaid anfon y ffi gyda’r hysbysiad hwn.  

Proses ffeilio mewn rhannau yw’r drefn newid enw. Dim ond pan fydd y Cofrestrydd wedi derbyn yr holl ddogfennaeth sydd angen y daw’r newid enw i rym. Ni ellir neilltuo enwau, felly argymhellwn yn gryf eich bod yn anfon y dogfennau gyda’i gilydd.

O fis Hydref 2008 ymlaen, gellir newid enw hefyd drwy’r Tribiwnlys Enwau Cwmni yn sgil cwyn lwyddiannus yng nghyswllt cofrestru manteisgar. Nid Tŷ’r Cwmnïau sy’n gweinyddu’r broses hon. Dylai unrhyw ymholiadau neu ddogfennau gael eu cyfeirio at y Swyddfa Batentau. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn www.ipo.gov.uk

Triniaeth Enw’r Cwmni

Bydd y rheolau ynghylch enwau ‘yr un fath’ yn fwy caeth. Er enghraifft, byddwn yn anwybyddu nifer o elfennau os ymddangosant ar ddiwedd yr enw a bod atalnod llawn o’u blaen, gan gynnwys “GB”, “services”, a “com”.

Cewch gofrestru enw sydd yr un fath ag un arall ym mynegai’r Cofrestrydd os yw’n cwmni’n perthyn, neu i fod i berthyn, i’r un grŵp â’r cwmni sydd eisoes ar y gofrestr a bod cydsyniad ysgrifenedig y cwmni olaf hwnnw’n cael ei anfon atom. 

Fe welwch ragor o fanylion Rheoliadau Enwau Cwmni a Busnes (Darpariaethau Amrywiol) 2008 yn www.berr.gov.uk

BrigBrig

Cyfeiriadau Cyflwyno-hysbysiadau Cyfarwyddwyr

O 1 Hydref 2009 ymlaen, bydd raid i bob cyfarwyddwr roi i Dŷ’r Cwmnïau ei gyfeiriad preswyl arferol ac, ar gyfer pob safle fel cyfarwyddwr a ddeil, cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Bydd y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar y cofnod cyhoeddus a bydd yn wybodaeth gyhoeddus, ond gwybodaeth wedi’i diogelu fydd y cyfeiriad preswyl. Caiff cyfarwyddwr ddewis unrhyw gyfeiriad yn gyfeiriad cyflwyno hysbysiadau, gan gynnwys cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni. Rhaid i’r cyfeiriad fod yn rhywle y gellir cyflwyno dogfennau a rhoi nodyn cydnabod neu dderbynneb os bydd gofyn. Ni all y cyfeiriad fod yn Flwch Post nac yn rhif DX. Os bydd y cyfarwyddwr yn dewis defnyddio’i gyfeiriad preswyl fel cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau, ni fyddai’n amlwg ar y cofnod cyhoeddus fod y ddau gyfeiriad yr un fath.

Dim ond i awdurdodau rheoleiddio penodedig, fel yr heddlu ac HMRC, y bydd y cyfeiriad preswyl ar gael, a gellir trefnu hefyd iddo fod ar gael i Asiantaethau Cyfeirnod Credyd.

Beth mae cychwyn y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn ei olygu i gyfarwyddwyr?

Bydd modd i gyfarwyddwyr ffeilio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau er mwyn y cofnod cyhoeddus. Gall y cyfeiriad hwn fod yr un fath â'r cyfeiriad preswyl, neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig, neu fe all fod yn rhywle arall.  Cychwynnir y drefn hon o 1af Hydref 2009 ymlaen.

A fydd cyfarwyddwyr o hyd yn gorfod rhoi eu cyfeiriad preswyl i Dŷ'r Cwmnïau?

Byddant. Mae'n rhaid i bob cyfarwyddwr roi ei gyfeiriad preswyl arferol ac, ar gyfer pob safle fel cyfarwyddwr, cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Bydd y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar y cofnod cyhoeddus; gwybodaeth wedi'i gwarchod bydd y cyfeiriad preswyl. Caiff cyfarwyddwr ddewis defnyddio'i gyfeiriad preswyl fel ei gyfeiriad cyflwyno hysbysiadau; os felly, gwybodaeth wedi'i gwarchod bydd y ffaith bod y ddau gyfeiriad yr un fath.

A fydd cyfarwyddwyr sydd am ffeilio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn gorfod talu?

Na fyddant. Pan gychwynnir cyfeiriadau cyflwyno, byddant yn ddi-dâl.

Pwy fydd yn gallu cael gwybod cyfeiriad preswyl cyfarwyddwr gan Dŷ'r Cwmnïau a pham?

Bydd y canlynol yn cael gwybod cyfeiriadau preswyl cyfarwyddwyr:

  • Cyrff cyhoeddus penodedig, er mwyn dilyn eu swyddogaethau cyhoeddus.
  • Asiantaethau cyfeirnodi credyd, er mwyn archwilio ceisiadau am gredyd a gwaith cysylltiedig ac er mwyn bodloni rhwymedigaethau'r Rheoliadau Cambrosesu Arian. Bydd modd i gyfarwyddwyr sydd mewn sefyllfa dan fygythiad wneud cais i'r Cofrestrydd am i'w cyfeiriadau beidio â bod ar gael i asiantaethau cyfeirnodi credyd.

Pa gyfeiriadau cyfarwyddwyr na chânt mo'u rhoi i asiantaethau cyfeirnodi credyd?

Ni fydd modd i asiantaethau cyfeirnodi credyd sicrhau cyfeiriad preswyl arferol unrhyw gyfarwyddwr sy'n fuddiolwr o dan Orchymyn Cyfrinachedd dilys ar 30 Medi 2009 neu a wnaeth gais llwyddiannus i'r Cofrestrydd ar y sail ei fod:

  • ar risg ddifrifol o ddioddef trais neu fygythion oherwydd gweithgareddau cwmni lle mae'n gyfarwyddwr;
  • neu wedi bod, yng nghyflogaeth yr heddlu neu'r gwasanaethau diogelwch;
  • yn cyflenwi, neu wedi cyflenwi, nwyddau neu wasanaethau i'r heddlu neu'r gwasanaethau diogelwch.

A yw'r ddeddfwriaeth ar Gyfeiriadau Cyflwyno Hysbysiadau yn caniatáu gwaharddiad o hyd at 5 mlynedd os gwelir bod y cyfeiriad yn ddi-rym?

Ydy. Os yw'r Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau'n ddi-rym, mae gan y Cofrestrydd y pŵer i wahardd defnyddio’r cyfeiriad hwnnw  a roi'r cyfeiriad preswyl arferol ar y gofrestr gyhoeddus.

Os bydd cwmni'n methu cydymffurfio, ai i'r Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau neu i'r cyfeiriad preswyl yr aiff unrhyw lythyrau sydd wedi'u cyfeirio at y cyfarwyddwyr?

Anfonir llythyrau i'r Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau yn gyntaf.

A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn dal i gofrestru 'Gorchmynion Cyfrinachedd' ar gyfer cyfarwyddwyr sydd o dan fygythiad difrifol, yn ogystal â'r opsiwn Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau?

Bydd Gorchmynion Cyfrinachedd yn dod i ben wrth weithredu’r Ddeddf ar 1 Hydref 2009.  Byddwn yn trin unrhyw Orchymyn Cyfrinachedd sy’n dod i law ar neu cyn 30 Medi 2009 ond bydd unrhyw geisiadau sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad hwnnw yn cael eu gwrthod ar gyfer y ffurflen newydd.

Gan nad oes angen cyfeiriadau preswyl mwyach am y gofrestr cyhoeddus, a fydd yn rhaid adnewyddu gorchmynion cyfrinachedd?

Dim ond ar gyfarwyddwyr y daw eu gorchymyn cyfrinachedd i ben cyn 1 Hydref y bydd angen adnewyddu gorchymyn.  Caiff rhai sydd â gorchymyn cyfrinachedd sydd heb ddarfod erbyn 1 Hydref 2009 eu trin fel pe baent wedi gwneud cais llwyddiannus o dan adran 243.

O Hydref 1 2009 ymlaen os bydd cyfarwyddwr mewn perygl o ddioddef niwed bydd modd iddynt wneud cais o dan Adran 243(5) am i'w cyfeiriad preswyl arferol beidio â chael ei datgelu i Asiantaethau Cyfeirnodi Credyd.

BrigBrig

Adfer Gweinyddol

Mae Adfer Gweinyddol yn ddarpariaeth newydd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, a gaiff ei defnyddio i ategu pŵer presennol y Llys i adfer cwmnïau. Bydd pŵer y Llys yn dal i fod ar gyfer yr achosion hynny lle na all y Cofrestrydd weithredu.

Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y gellir manteisio ar Adfer Gweinyddol:

  • roedd y cwmni’n dilyn busnes/yn gweithredu adeg y diddymu
  • cafodd y cwmni ei ddileu o’r gofrestr yn unol ag adran 1000 neu 1001 (pŵer y Cofrestrydd i ddileu cwmni sydd wedi darfod)
  • gwneir y cais o fewn cyfnod o 6 blynedd ar ôl dyddiad y diddymu
  • gwneir y cais gan gyn-gyfarwyddwr neu gyn-ysgrifennydd i’r cwmni
  • mae’r Goron wedi mynegi cydsyniad (mater bona vacantia)
  • mae’r cwmni wedi cyflwyno’r holl ddogfennau sydd angen i ddiweddaru’i sefyllfa, h.y. pob dogfen oedd yn ddyledus adeg y diddymu, ynghyd ag unrhyw rai a ddaeth yn ddyledus yn ystod cyfnod y diddymiad.

Lleoliad Archwilio Unigol Amgen (SAIL)

Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno newidiadau i’r trefniadau ar gyfer archwilio cofrestri’r cwmni. Gan ddibynnu ar natur a sefyllfa’r cwmni, gall fod dan rwymedigaeth i gadw hyd at 13 o gofrestri posib. Rhaid dal y cofrestri hyn naill ai yng Nghyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig (ROA) neu mewn Lleoliad Archwilio Unigol Amgen (SAIL).

Rhaid i gwmnïau roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau wrth sefydlu cyfeiriad SAIL yn y lle cyntaf neu os caiff y cyfeiriad SAIL ei newid. Unwaith y sefydlir y cyfeiriad SAIL, caiff y cwmni symud rhai neu bob un o’i gofrestri i’r cyfeiriad hwnnw drwy roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau.

Diddymu Gwirfoddol

O 1/10/2009 ymlaen, caiff diddymu gwirfoddol ei estyn i gwmnïau cyhoeddus cyfyngedig a fydd yn gymwys i wneud cais o dan adran 1003 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

BrigBrig

Datganiad Cyfalaf

Mae’r datganiad cyfalaf yn “giplun” o gyfalaf cyfrannau dosbarthedig y cwmni cyfyngedig ar unrhyw adeg arbennig.

Rhaid i gwmnïau sy’n corffori’n gyfyngedig drwy gyfrannau ar ôl 1 Hydref 2009 (p’un ai preifat neu gyhoeddus y bôn nhw) gwblhau datganiad cyfalaf a chyfranddaliadau cychwynnol fel rhan o’u cais corffori
Rhaid i bob cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau gwblhau datganiad cyfalaf fel rhan o unrhyw ffurflen flynyddol sy’n bodloni cyfnod yn dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2009.

Rhaid hefyd gwblhau datganiad cyfalaf gyda ffurflenni arbennig sy’n ymwneud â rhoi gwybod am newidiadau cyfalaf, sef:
Rhaid i bob cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau gwblhau datganiad cyfalaf fel rhan o unrhyw ffurflen flynyddol sy’n bodloni cyfnod yn dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2009.

Rhaid hefyd gwblhau datganiad cyfalaf gyda ffurflenni arbennig sy’n ymwneud â rhoi gwybod am newidiadau cyfalaf, sef:

  • Clustnodi cyfrannau
  • Rhoi gwybod am gyfuno cyfrannau, isrannu cyfrannau, trosi stoc yn gyfrannau neu adennill cyfrannau adenilladwy
  • Pennu dosbarth newydd i gyfrannau
  • Lleihau’r cyfalaf yn sgil pennu dosbarth newydd
  • Canslo cyfrannau wedi’i hadbrynu neu (ar gyfer cwmnïau ccc) canslo’n syth gyfrannau wedi’u hadbrynu i’r drysorfa
  • Canslo cyfrannau a gaiff eu dal yn y drysorfa gan gwmni ccc
  • Canslo cyfrannau wedi’u dal gan neu ar ran cwmni ccc yn unol ag adran 662 o Ddeddf Cwmnïau 2006

Yn yr holl amgylchiadau uchod, bydd datganiad cyfalaf yn rhan hanfodol o’r ffurflen briodol.

Bydd amgylchiadau arbennig lle mae angen i gwmni ffeilio datganiad cyfalaf ‘annibynnol’ – ar y cyd â lleihau’r cyfalaf (naill ai drwy’r llwybr ‘datganiad solfedd’ neu yn unol â chadarnhad llys) ac (mewn rhai amgylchiadau) wrth ailgofrestru o gwmni anghyfyngedig i un cyfyngedig. Bydd ffurflen datganiad cyfalaf ar gael at y dibenion hyn.

Beth yw cynnwys y datganiad cyfalaf?

Rhaid i’r datganiad cyfalaf ddangos, gyda golwg ar y cyfalaf dosbarthedig:

  • gyfanrif cyfrannau’r cwmni,
  • gwerth nominal cyfanred y cyfrannau hynny,
  • ar gyfer pob dosbarth o gyfrannau -
    (i) manylion penodedig yr hawliau sydd ynghlwm wrth y cyfrannau (bydd y rhain wedi’u nodi yn y rheoliadau ac wedi’u dangos ar y ffurflenni priodol),
    (ii) cyfanrif cyfrannau’r dosbarth hwnnw, a
    (iii) gwerth nominal cyfanred y cyfrannau o’r dosbarth hwnnw, a
  • y swm sydd wedi’i dalu a’r swm (os o gwbl) sydd heb ei dalu ar bob cyfran (p’un ai yng nghyswllt gwerth nominal y gyfran neu o ran premiwm).

Oes rhaid imi gwblhau datganiad cyfalaf bob tro y bydda i’n cyflwyno un o’r ffurflenni perthnasol?

Oes.

Beth os yw’r ffurflen yn manylu ar sawl trafodyn (e.e. clustnodi cyfrannau dros gyfnod)?

Dylai’r datganiad cyfalaf adlewyrchu’r cyfalaf dosbarthedig yn sgil y trafodyn ‘diweddaraf’.

Sut mae llenwi’r datganiad cyfalaf (e.e. yn fy ffurflen flynyddol) os na allaf bennu’r premiwm ar gyfrannau unigol?

Bwriedir i ofyniad y datganiad cyfalaf yn Neddf Cwmnïau 2006 roi ciplun o fframwaith cyfalaf y cwmni. Mae angen datganiad cyfalaf bob blwyddyn yn y ffurflen flynyddol a phryd bynnag y bydd cwmni’n newid ei gyfalaf.

Rydym yn ymwybodol y gall un o’r manylion y mae angen eu cynnwys yn y datganiad cyfalaf beri problemau i rai cwmnïau sydd â hanes cymhleth o glustnodi cyfrannau a rheoli’u fframwaith cyfalaf. Yn fwyaf arbennig, deallwn na fydd, o dan rai amgylchiadau, yn bosib neu’n ystyrlon efallai i gwmni bennu swm y premiwm sydd wedi’i dalu ar bob cyfran.

Mae’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau yn cydweithio â Sefydliad yr Ysgrifenyddion a’r Gweinyddwyr Siartredig (ICSA), a dynnodd ein sylw at hyn gyntaf, ac â budd-ddeiliaid eraill i geisio ateb i’r broblem hon.

Yn y cyfamser, gobeithiwn y bydd cwmnïau sydd â hanes cyfalaf cymhleth yn gwneud yr hyn a allant i ddarparu ffigurau yn eu datganiadau cyfalaf sy’n cynnig dyraniad ymarferol o’u cronfa premiwm cyfrannau rhwng cyfrannau unigol neu ddosbarthiadau o gyfrannau. Mae ICSA wedi cyhoeddi canllaw i hyn (darllen y canllaw), yn egluro’r broblem ac yn amlinellu ymagwedd argymelledig.

Wrth lenwi datganiad cyfalaf, yn y ffurflen flynyddol neu rywle arall, mae’n bwysig na fydd cwmni’n gadael yn wag y maes sy’n cyfleu’r swm a dalwyd ar bob cyfran – fel arall fe gaiff y ffurflen ei gwrthod gan system Tŷ’r Cwmnïau. Cwestiynau Mynych pellach ar wefan BIS

BrigBrig

Arwystlon Slavenburg

O 1 Hydref 2009 ymlaen, ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn arwystlon Slavenburg wedi eu creu ar neu wedi 1 Hydref 2009 mwyach gan eu bod yn ymwneud â chwmnïau tramor sydd heb eu cofrestru. Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn pennu mai dim ond cwmnïau tramor sydd wedi’u cofrestru yn y DU y mae’n ofynnol iddynt gofrestru arwystl dros eiddo yn y DU.

BrigBrig
Brig
Ein polisi ar gwcis